Search results

157 - 168 of 403 for "Môn"

157 - 168 of 403 for "Môn"

  • JONES, EDWARD (fl. 1781-1831) - ond sylwer mai llysenw yw hwn, ac nid ffugenw llenyddol. Etholwyd ef yn aelod o Wyneddigion Llundain yn 1781; bu'n ysgrifennydd iddi yn 1782 ac yn llywydd yn 1785, ac yr oedd yn aelod am ei oes o'i chyngor. Dywedir yn aml mai bargyfreithiwr oedd, ac yn wir geilw William Owen Pughe ef yn ' Ned Môn the lawyer,' a sonia Leathart (Origin and Progress of the Gwyneddigion, 31) am ei 'chambers in the
  • JONES, EDWARD OWEN (E.O.J.; 1871 - 1953), newyddiadurwr ac englynwr Ganwyd ym mis Mai 1871 yn Welford, swydd Northampton, lle'r oedd ei dad, ' Berwron ', yn gofalu am fferm, ond yn 1875 symudodd y teulu i Losg-yr-odyn, Y Gaerwen, Môn. Yn 1887 aeth yn brentis argraffydd i swyddfa'r North Wales Chronicle ym Mangor; yna yn 1903 dilynodd Hugh Edwards yn olygydd Y Clorianydd, papur wythnosol Môn, yn Llangefni, a daliodd yn y swydd honno am 48 mlynedd. Yr oedd yn
  • JONES, ELEN ROGER (1908 - 1999), actores ac athrawes Ganwyd Elen Roger Jones ar 27 Awst 1908 ym Marian-Glas, Ynys Môn, yn ferch i William Griffith (1873-1935), Ysgrifennydd Pwyllgor Addysg Môn, a'i wraig Mary (ganwyd Williams, bu farw 1961). Plentyn cyntaf William oedd Elen a'r ail blentyn i Mary, wedi iddi gael mab gyda'i gŵr blaenorol, capten a fu farw mewn storm wrth deithio ar long ychydig fisoedd cyn genedigaeth eu plentyn, a gafodd ei enwi'n
  • JONES, FRANCES MÔN (1919 - 2000), telynores ac athrawes Ganwyd Frances Môn Jones ar 20 Hydref 1919 ym Mrychdyn ger Wrecsam, yn ferch i David Charles Davies a'i briod Mary Jane (ganwyd Goodwin). Cafodd ei haddysg yn yr ysgol leol ac yn Ysgol Ramadeg Grove Park, Wrecsam, ac er bod yr aelwyd yn ddi-Gymraeg, meistrolodd hi'r iaith yn ifanc. Dechreuodd ganu'r organ yng nghapel Pisgah, Brychdyn pan oedd yn 14 oed. Flwyddyn cyn hynny prynodd ei thad delyn
  • JONES, GRIFFITH (Glan Menai; 1836 - 1906), ysgolfeistr ac awdur Ganwyd yn Llanfairfechan 15 Mawrth 1836, mewn bwthyn lle saif y Castle Buildings yn awr. Addysgwyd ef yn ysgol yr Eglwys ac yng ngholeg hyfforddi Caerfyrddin. Bu'n ysgolfeistr yn Llanddeusant (Môn), Llanfrothen, Aberaeron (ddwywaith), a Llandybïe. Prynodd dŷ yng Nghaernarfon ac ymsefydlodd yno. Yr oedd anian llenydda ynddo er yn ieuanc ond wedi dod i Gaernarfon y dechreuodd ysgrifennu'n gyson i'r
  • JONES, GRIFFITH ARTHUR (1827 - 1906), clerigwr Threwalchmai ym Môn. Cynigiwyd iddo fywoliaeth Llangorwen, ger Aberystwyth, yng ngwanwyn 1852, ond nis derbyniodd; cafodd urddau offeiriad 19 Rhagfyr 1852. Ar 18 Gorffennaf 1857 sefydlwyd ef yn ficer Llanegryn, Meirionnydd, a bu yno hyd 1872, pryd y sefydlwyd ef yn ficer Eglwys Fair, Caerdydd, 27 Chwefror. Bu yno hyd 1903, pryd yr ymddeolodd. Bu farw 22 Medi 1906, a'i gladdu yng Nghaerdydd. Yr oedd yn y
  • JONES, HUGH (1831 - 1883), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phrifathro coleg Ganwyd 10 Gorffennaf 1831, yn Modedern, Môn, yn fab i Hugh a Jane Jones. Prentisiwyd ef yn grydd yn 14 oed gyda Lewis Prichard ym Modedern, symudodd oddi yno yn 17 oed i Lanfachraeth i weithio yn yr un alwedigaeth gyda John Roberts, Bedyddiwr o ran ei syniadau ac yn byw yn ymyl capel y Bedyddwyr. Derbyniodd Hugh Jones syniadau ei feistr; fe'i bedyddiwyd yn 1850, a dechreuodd bregethu yn 20 oed
  • JONES, HUW (1700? - 1782), bardd a chyhoeddwr, ac un o brif faledwyr y 18fed ganrif rhwng 1759 a 1827. Yn 1763 ymddangosodd gwaith arall dan olygiaeth Huw Jones, Diddanwch teuluaidd; yn hwn ceir cerddi beirdd Môn - Goronwy Owen, Lewis Morris, Hugh Hughes, ac eraill. Argraffwyd ef yn Llundain, cafwyd ail argraffiad yn 1817 (Caernarfon), a 3ydd yn 1879 (Lerpwl). Cyflawnodd Huw Jones waith mawr fel gwerthwr a golygydd llyfrau. Cerddai farchnadoedd a ffeiriau'r wlad yn gwerthu baledi a
  • JONES, ISAAC (1804 - 1850), clerigwr, cyfieithydd, a golygydd , urddwyd ef yn ddiacon, Medi 1836, ac yn offeiriad, Medi 1837. Trwyddedwyd ef i guradiaeth Llanfihangel-genau'r-glyn yn 1836, ac ar ôl gwasnaethu yno ac yng Nghapel Bangor aeth, yn Chwefror 1840, yn gurad i Lanedwen a Llanddaniel-fab ym Môn. Bu yno hyd ei farw, 2 Rhagfyr 1850, a chladdwyd ef ym mynwent Llanidan. Cyfieithodd waith W. Gurney (dwy gyfrol) dan y teitl Geiriadur Ysgrythyrol, 1831, a
  • JONES, JOHN (EMLYN) (Ioan Emlyn; 1818 - 1873), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd a llenor . Ymgymerth â dal ymlaen ar Y Parthsyllydd, gwaith daearyddol a adewsid heb ei orffen gan John Jenkins o'r Hengoed a Thomas Williams, ' Gwilym Morgannwg ', a daliodd ati hyd ei farw - cwpláwyd y gwaith gan J. Spinther James yn 1875. Enillodd y gadair yn eisteddfod genedlaethol Dinbych (1860) ac mewn eisteddfod daleithiol ym Môn (1871), a chyhoeddodd yn 1871 awdlau anfuddugol a anfonasai i eisteddfodau
  • JONES, JOHN (1786? - 1863), clerigwr a hynafiaethydd Mab i John Jones, Lleddfa, Machynlleth. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor; aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen yn Chwefror 1804 (ymaelododd yn yr un flwyddyn yn Lincoln's Inn), a graddiodd yn 1808. O 1809 hyd 1815 bu'n gurad Llanfihangel-ysgeifiog (Môn), o 1815 hyd 1819 yn gurad Llanfair-is-gaer, ac o 1819 hyd ei farwolaeth yn rheithor Llanllyfni. Cyhoeddodd saith o bregethau, ond mewn hynafiaethau
  • JONES, JOHN (1650 - 1727), deon, addysgydd a hynafiaethydd Ganwyd yn Plas Gwyn, Pentraeth, sir Fôn, 2 Mehefin 1650, mab Rowland Jones a Margaret, merch John Williams, Chwaen Issa, Llantrisant, Môn. Ymbriododd ŵyres ei frawd a Paul Panton, yr hynafiaethydd a pherchennog llawysgrifau a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Wedi graddio yn 1668 (D.D. 1689 a M.D. 1679; Venn, Alumni Cantabrigienses) yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, derbyniodd urddau