Search results

253 - 264 of 403 for "Môn"

253 - 264 of 403 for "Môn"

  • OWEN, NICHOLAS (1752 - 1811), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd 2 Ionawr 1752 yn Llandyfrydog, Môn, yn ail fab i Nicholas Owen (a fu farw 17 Awst 1785), gŵr gradd (1740) o Goleg Iesu, Rhydychen, rheithor Llansadwrn 1747-50), a rheithor Llandyfrydog a Llanfihangel-tre'r-beirdd 1750-85. O Bencraig, Llangefni, yr oedd y teulu; rhydd J. E. Griffith (Pedigrees, 51) daflen ohonynt, y gellir ei chyfannu o lawysgrifau Bangor 4602-7 yng Ngholeg y Gogledd. Yr
  • OWEN, RICHARD (y diwygiwr; 1839 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn 1839, mab John a Mary Owen, Ystum Werddon, Llangristiolus, Môn. Oherwydd marw ei dad pan oedd Richard yn 11 oed a cholli'r brawd hynaf ymhen tua blwyddyn, bylchog fu cwrs ysgol y bachgen. Pan amlygodd awydd i fyned i'r weinidogaeth teimlai'r arweinwyr fod cryn lawer o waith paratoi arno. Fel y tyfai i fyny gofynnai eglwys fach Cana ar gwr yr ardal am ei gymorth, a daeth yntau i deimlo
  • OWEN, RICHARD GRIFFITH (Pencerdd Llyfnwy; 1869 - 1930) . Enillodd yn eisteddfod Corwen ar drefnu alawon Cymreig i'r gerddorfa, ac 'O, na byddai'n haf o hyd' yn eisteddfod Môn. Cafodd y wobr am gantawd ddirwestol yn eisteddfod Lerpwl, a llawer o wobrwyon eraill am anthemau a darnau cerddorol. Gadawodd mewn llawysgrif gyfansoddiadau cerddorfaol, cantawd, a darnau offerynnol. Cyhoeddodd gasgliad o donau dan yr enw Llais y Durtur, a cheir tonau o'i waith yn Llyfr
  • OWEN, ROBERT (1885 - 1962), hanesydd, llyfrbryf ac achyddwr Ganwyd ym Mhen-y-parc, (Twllwenci ar lafar), Llanfrothen, Meirionnydd, 8 Mai 1885 [yn fab i Jane Owen yn ôl NLW MS 19295B], a'i fagu gan ei nain, Ann Owen, merch i wehydd o Aberffraw, Môn. Gadawodd ysgol elfennol Llanfrothen yn 13 oed i fynd yn was bach ar fferm Plas Brondanw. Bu'n gweini ar ffermydd yn yr ardal am dair blynedd cyn cael swydd yn glerc yn chwarel Parc a Chroesor. Treuliodd 30
  • OWEN, THOMAS (1748 - 1812), clerigwr a chyfieithydd bedyddiwyd 3 Medi 1748, mab Thomas a Margaret Owen, Rhiwlas, ym mhentre Pentraeth, Môn. Ar 20 Mawrth 1767 ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan raddio yn B.A. yn 1770. Yn gynnar yn 1771, geilw ei hun yn ddirprwy i lyfrgellydd Bodley. Urddwyd ef yn ddiacon yn Ordeiniad y Drindod, 1771, gan esgob Rhydychen ar lythyr gollyngdod oddi wrth esgob Bangor, gyda hawl i guradiaeth Llanddeusant ym Môn
  • OWEN, THOMAS ELLIS (1764 - 1814), clerigwr Llandyfrydog gyda Llanfihangel-tre'r-beirdd; yr oedd hefyd o ddiwedd 1812 yn gurad parhaol Penmynydd - i gyd ym Môn, ym Miwmares y cartrefai. Bu farw 1 Rhagfyr 1814, a chladdwyd yn Llanfair-is-gaer (Y Felinheli), lle y mae tabled goffa iddo. Y mae'n hysbys fel awdur dau bamffled gwrth-Fethodistaidd, Hints to Heads of Families, 1801 (dau arg., 3ydd yn 1802), a Methodism Unmasked, 1802; atebwyd y blaenaf gan
  • OWEN, WILLIAM (1785 - 1864), hynafiaethydd Ganwyd 1785 ym Miwmares, a bu'n ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno. Gwasnaethodd fel môr-filwr yn y rhyfel yn erbyn Napoleon. O 1824 ymlaen cysylltir ei enw â thref Caernarfon, lle yr adwaenid ef fel William Owen ' Y Pab.' Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, derbyniodd y llysenw hwn mewn canlyniad i ryw bamffled a gyhoeddodd yn 1829 yn amddiffyn y safiad a wnaeth ardalydd Môn yn Nhŷr Arglwyddi dros
  • OWEN, WILLIAM HUGH (1886 - 1957), gwas sifil Ganwyd 16 Chwefror 1886 yn fab i Thomas Owen, Caergybi, Môn. Ymunodd ag adran forwrol y London and North Western Railway yn 1906 cyn dod yn un o staff personol David Lloyd George a chyflawni nifer o genadaethau pwysig ar ei ran. Ar ddechrau Rhyfel Byd I ymunodd â'r Peirianwyr Brenhinol a mynd i Ganada yn 1917 a chynrychioli'r Swyddfa Ryfel yno fel cyfarwyddwr camlesi a dociau. Yr oedd yn gyfrifol
  • P. A. MÔN - see JONES, BENJAMIN
  • PAGET family Plas Newydd, Llanedwen Olrheinir cyswllt y teulu hwn â Phlas Newydd ac Ynys Môn i briodas Syr NICHOLAS BAYLY, Plas Newydd, â Caroline, merch ac aeres Thomas, Arglwydd Paget o Beaudesert, sir Stafford, yn 1737. Mabwysiadodd eu mab HENRY BAYLY (1744 - 1812) yr enw Paget pan etifeddodd arglwyddiaeth Beaudesert yn 1769; ac yn 1784 gwnaed ef yn iarll Uxbridge. Gwnaeth lawer i gadarnhau safle wleidyddol a chymdeithasol ei
  • PAGET, GEORGE CHARLES HENRY VICTOR (7fed Ardalydd Môn), (1922 - 2013), milwr, hanesydd, cadwraethwr Ganwyd Henry Anglesey yn Llundain ar 8 Hydref 1922, yn unig fab i Charles Henry Alexander Paget, 6ed Ardalydd Môn (1885-1947), milwr a gŵr llys, a'i wraig y Fonesig Victoria Marjorie Harriet (ganwyd Manners, 1883-1946). Roedd ganddo bum chwaer: y Fonesig Alexandra Mary Cecilia Caroline (1913-1973), y Fonesig Elizabeth Hester Mary (1916-1980), y Fonesig Mary Patricia Beatrice Rose (1918-1996), y
  • PANTON, PAUL (1727 - 1797), bargyfreithiwr a hynafiaethydd (1688 - 1755), cofiadur Biwmares. Yr oedd ei mam hithau'n aeres stadau Derwen, sir Ddinbych, a Llwyngwern, Llanuwchllyn. Yn ychwanegol at ei gyfrifoldeb ym mywyd cyhoeddus Môn fel ysgwïer Plas Gwyn, a gymerai o ddifrif er llawenydd i'r Morrisiaid, yr oedd gan Paul Panton ddiddordeb ymarferol mewn glofeydd, mwynfeydd, a diwydiannau yn ardal Holywell. Ys dywedai William Morris wrth ei gymeradwyo i sylw