Search results

241 - 252 of 403 for "Môn"

241 - 252 of 403 for "Môn"

  • MORRIS-JONES, Syr JOHN (MORRIS) (1864 - 1929), ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol Ganwyd 17 Hydref 1864 yn Nhrefor, Llandrygarn (Môn), ond symudodd ei deulu yn 1868 i Lanfair-pwll, ac yno yr aeth i'r ysgol. Aeth yn 1876 i ysgol Friars, Bangor, dan D. Lewis Lloyd, ac aeth Lloyd yn 1879 ag ef gydag ef i Ysgol Aberhonddu. Cafodd ysgoloriaeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1883, a graddiodd mewn mathemateg yn 1887. Yn fyfyriwr, bu'n darllen llawysgrifau a llyfrau Cymraeg yn y
  • MOSTYN family Mostyn Hall, have had the gyfte and bestowing of the Sylver harpe appertayning to the Cheff of that facultie.' Bu farw 19 Medi 1576. Mab hynaf William Mostyn o'i wraig gyntaf (Margaret, merch Robert Powel, Whittington) oedd THOMAS MOSTYN (1535? - 1618), Syr Thomas Mostyn yn ddiweddarach. Bu'n siryf Môn (ddwywaith), Sir y Fflint (ddwywaith), a Sir Gaernarfon (unwaith); bu hefyd yn ' Custos Rotulorum ' Sir
  • MUTTON, Syr PETER (1565 - 1637), barnwr a gwleidyddwr brif ustus Môn. Yr oedd eisoes yn ŵr o ddylanwad yng ngogledd Cymru. Dug ei ail briodas, ag Ellen, chwaer John Williams, esgob Lincoln, ef yn ddiamau i gysylltiad agosach â materion cenedlaethol. Yn ogystal a bod yn aelod o'r Cyngor dros Gymru, etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Ddinbych (1604) a sir Gaernarfon (1624). Ni wyddys am unrhyw hanesion arbennig ynglŷn â'i yrfa wleidyddol, ac eithrio
  • NED MÔN - see JONES, EDWARD
  • OWAIN MÔN - see JONES, EDWARD
  • OWEN family BODEON, BODOWEN, Saif Bodeon ym mhlwyf Llangadwaladr ym Môn, o fewn ychydig bellter i blas Bodorgan; bu llawer o gyd-gerdded politicaidd rhwng y ddau deulu, ond ymron ddim o gyfathrach priodi. Gŵr amlwg ym Môn yn oes Elisabeth oedd OWEN AP HUGH o Fodeon, siryf ddwywaith, ac aelod seneddol yn 1545 dros Niwbwrch (yn ôl yr hen drefn). Un o bobl y gyfraith oedd ei fab ef, y Syr HUGH OWEN cyntaf, a phrif ynad tref
  • OWEN family Orielton, Chwaraeodd Oweniaid Orielton ran flaenllaw yn hanes Sir Benfro am yn agos i dair canrif. Daeth y stad, Orielton yn Castle Martin, i feddiant yr Oweniaid trwy briodas HUGH AB OWEN ag Elizabeth Wirriott yn 1571. Mab hynaf oedd HUGH OWEN (a roes y gorau i ddefnyddio'r 'ab') i Owen ap Hugh, Bodowen (neu Bodeon), Môn, a hawliai ei fod yn disgyn o'r Hwfa ap Cynddelw y dywedid ei fod yn stiward i Owain
  • OWEN, Syr GORONWY (1881 - 1963), gwleidydd . Daeth yn henadur y cyngor ym mis Mai 1945 fel olynydd D. Lloyd George. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig yn anghenion a phroblemau'r sir ac yr oedd yn barod bob amser i roi o'i amser i geisio eu datrys. Bu'n gadeirydd y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Môn a Chaernarfon ac yn ddiweddarach ar gyfer Trefaldwyn a Meirionnydd, ac yn gadeirydd y Territorial and Auxiliary Forces Association ym Môn ac
  • OWEN, HUGH (1575? - 1642) Gwenynog,, cyfieithydd Ganwyd tua 1575 yn fab i Owen ap Hugh ap Richard, perchennog stad fechan Gwenynog ym mhlwyf Llanfflewyn, Môn. Nid oes sicrwydd iddo erioed fod mewn prifysgol, ond dywedir ei fod yn hyddysg, nid yn unig yn y gyfraith, ond mewn mwy nag un o ieithoedd tramor, ' yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan.' Yn ystod chwarter cyntaf y 17eg ganrif gweithredai am
  • OWEN, HUGH (1880 - 1953), hanesydd Ganwyd 8 Mai 1880 yn Niwbwrch, Môn, yn fab i Hugh a Jane Owen. Symudodd y teulu i Aigburth, Lerpwl, yn 1883. Addysgwyd ef yn ysgolion S. Michael's Hamlet ac Oulton, a Phrifysgol Lerpwl. Wedi derbyn tystysgrif dysgu yn 1901 bu'n athro hanes mewn ysgolion yn Llundain, Lerpwl a Threffynnon cyn ei benodi'n bennaeth yr adran hanes yn ysgol Llangefni yn 1918, swydd y parhaodd ynddi nes iddo ymddeol yn
  • OWEN, JOHN (1698 - 1755), canghellor eglwys Bangor Ddulyn breswylio yng Nghaergrawnt, oblegid cyfrifid iddo'r tymhorau yr oedd wedi eu bwrw yn ei brifysgol wreiddiol. Sut bynnag, penodwyd John Owen yn ficer Llannor a Dyneio (h.y. Pwllheli), 1 Mehefin 1723. Ym Mehefin 1742 penodwyd ef yn ganon ym Mangor, ac ar ddiwedd Ionawr 1743 yn ganghellor; rhoddwyd iddo hefyd (ddiwedd Rhagfyr 1745) reithoraeth Llantrisant ym Môn. Bu farw rywbryd cyn 8 Tachwedd 1755
  • OWEN, JOHN (d. 1759), bardd, telynor, llythyrwr nai i Forrisiaid Môn (mab i'w chwaer Ellen a'i phriod Owen Davies); ganwyd, yn ôl pob tebyg, yng Nghaergybi yn ystod tridegau cynnar y 18fed ganrif (y mae'r cofnodion plwyfol cyn 1737 ar goll). Pan oedd yn fachgen ifanc aeth i fyw at Lewis Morris yng Ngheredigion a bu'n cynorthwyo ei ewythr yno, ac wedi hynny yn Llundain, gyda'r ymgymeriadau diwydiannol a'i helbulon cyfreithiol. Eithr oerodd y