Search results

13 - 24 of 269 for "Owain"

13 - 24 of 269 for "Owain"

  • CHERLETON family JOHN CHERLETON (1268 - 1353) Mab Robert, Arglwydd Cherleton yn Wrockwardine, Sir Amwythig. Yn 1309 priododd Hawys (Hawise) Gadarn, chwaer ac aeres Gruffydd ab Owain (bu farw 1309), arglwydd Powys. Yr oedd y Cherletoniaid (Charltoniaid) felly yn arglwyddi y 'rhan honno o Gymru yn y 14eg ganrif a dechrau'r 15fed. Gwrthwynebwyd gwaith John Cherleton yn meddiannu Powys gan Gruffydd ap Gruffydd
  • CHRISTINA Ail wraig Owain Gwynedd, merch Gronw (bu farw 1124) ab Owain ab Edwin, ac felly'n gyfnither i'w gwr. Ni chydnabyddid y briodas gan yr Eglwys a cheisiodd yr archesgob Becket a'r pab Alexander III ganddynt ymwahanu, beth amser cyn marw Owain. Eithr parhaodd Owain, a garai ei wraig yn fawr, yn ystyfnig; o'r herwydd bu farw o dan ysgymundod. Wedi ei mynd yn weddw rhoes Christina gynhorthwy sylweddol
  • CLARE family GILBERT I (bu farw 1115?), a blannwyd gan Harri I yng Ngheredigion a Dyfed yn 1110, fel cosb ar Owain ap Cadwgan, ac a gododd gestyll cyntaf 'Llanbadarn' (h.y. Aberystwyth) ac Aberteifi. Mab arall i Richard oedd WALTER (bu farw 1138 - y mae cryn gymysgu rhwng hwn a nai iddo o'r un enw), y rhoddwyd iddo (cyn 1119) diroedd yng Ngwent Iscoed, a chastell Casgwent; ef a sefydlodd (1131) abaty Tintern; bu
  • CYNAN ab OWAIN (d. 1174), tywysog mab Owain Gwynedd, ond ni wyddys pwy oedd ei fam. Yn 1145 ymosododd ef a Hywel ei frawd ar Aberteifi; anrheithiwyd y dref ond ni chymerwyd mo'r castell. Ddwy flynedd yn ddiweddarach goresgynnodd y brodyr Feirionnydd a bwrw allan eu hewythr Cadwaladr; gan iddynt ymosod o gyfeiriadau gwahanol ymddengys fel petai Cynan wedi ymsefydlu yn Ardudwy. Yn 1150 dywedir ei garcharu gan ei dad. Cymerth ran
  • CYNAN ap HYWEL (d. 1242?), tywysog a sefydlwyd gan ei dad Hywel Sais (bu farw 1204) yn St Clears ac a gydunai fel rheol â Maelgwn ap Rhys yn y cwerylon teuluol. Ceir sôn amdano gyntaf yng ngosgorddlu Maelgwn pan gymerwyd ef yn garcharor yn 1210 gan ei gefndyr Rhys ac Owain yr amser yr ymosodwyd ganddynt ar wersyll eu hewythr yn Cilcennin. Daw i'r golwg yn nesaf yn 1223, pryd y'i ceir yn erbyn Llywelyn, tywysog y Gogledd, ac yn
  • CYNDDELW BRYDYDD MAWR (fl. 1155-1200), pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif i ganu clod Owain Gwynedd, a gwelir ei awen yn ei hanterth ym ' Marwnad Owain ' (1170). O hynny ymlaen i ddiwedd y ganrif fe'i ceir yn canu i amryw o brif dywysogion Gwynedd, Powys, a Deheubarth, ac ar un olwg, felly, Cynddelw yw bardd cyntaf Cymru gyfan, a barnu wrth yr hyn sydd ar gadw o'n barddoniaeth. Canodd awdlau hefyd i Dduw. Mawl Feifod yn bennaf yw ei 'Gân Tysiliaw.' 'Marwysgafn Cynddelw
  • CYNDEYRN (518? - 603), sant, sylfaenydd Glasgow Ymddengys yn yr achrestrau Cymreig fel Cyndeyrn, mab Owain ab Urien, ac wyr Urien Rheged. Y mae Owain yn gymeriad pwysig yn y rhamantau yn Llyfr Coch Hergest, ac ymddengys ef a'i dad, Urien, yn y farddoniaeth Gymraeg gynnar a edrydd hanes brwydrau tywysogion Brythonig y Gogledd yn erbyn Hussa, mab Ida - gweler yr erthyglau ar Lywarch Hen a Thaliesin. Cysylltir y teulu, fodd bynnag, â Strathclyde
  • DAFYDD ab IEUAN ab IORWERTH (d. 1503), esgob Llanelwy Yn ôl yr achau yr oedd yn disgyn o Dudur ap Rhys Sais. Yn Trefor, ger Llangollen, yr oedd cartref y teulu - yn ' Gavella Rosseriet,' efallai (gweler G. P. Jones, Extent of Chirkland, 15). Daeth Dafydd ab Ieuan yn warden ysgol Rhuthyn ac yn abad Valle Crucis, gan ddilyn John ap Richard (gweler Peniarth MS 176 (53)), yn Valle Crucis. Yr oedd yr abad yn noddwr hael i'r beirdd ac y mae Gutun Owain a
  • DAFYDD ab OWAIN (d. 1512), abad ac esgob Gŵr o Lasgoed ym Meifod a mab Owain ap Deio ap Llywelyn ab Einion ap Celynin. Bu'n astudio'r gyfraith ganon a sifil yn Rhydychen, a dywedir iddo ennill gradd Doethur Cyfraith. Ymddengys iddo ymarfer a'i ddysg gyfreithiol yng ngwasanaeth Sion, iarll Caerwrangon, prif ustus Gogledd Cymru rhwng 1461 a 1467. Os felly, cefnogai deulu Iorc, ond y mae tystiolaeth y beirdd yn dangos iddo, fel eraill
  • DAFYDD ab OWAIN - see OWAIN, Syr DAFYDD
  • DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (d. 1203) Mab Owain Gwynedd a'i wraig Christina, merch Gronw ab Owain ab Edwin. Gan fod y tad a'r fam yn gefnder a chyfnither nid oedd eu priodas yn cael ei harddel gan yr Eglwys ac felly ystyrid y plant yn anghyfreithlon. Clywir sôn am Ddafydd y tro cyntaf yn 1157 pryd y cymerth ran yn ymgyrch sydyn coed Penarlâg lle y bu Harri II agos â cholli ei fywyd. Yn 1165 yr oedd wedi ymsefydlu yn nyffryn Clwyd
  • DAFYDD ap GRUFFYDD (d. 1283), tywysog Gwynedd trydydd mab Gruffydd ap Llywelyn a Senena, a brawd iau i Owain a Llywelyn ap Gruffydd. Nid oes sicrwydd am flwyddyn ei eni. Gwyddom nad oedd yn ddigon hen i fod â rhan fel Owain a Llywelyn yn nhelerau cytundeb Woodstock (1247); gwyddom hefyd ei fod yn 1262 - er i bob golwg yn parhau o dan ofal ei fam - yn arglwydd Cymydmaen yng ngorllewin eithaf Gwynedd : felly tybiwn iddo gyrraedd oedran gŵr