Search results

1525 - 1536 of 1867 for "Mai"

1525 - 1536 of 1867 for "Mai"

  • SEABORNE-DAVIES, DAVID RICHARD (1904 - 1984), cyfreithiwr a gwleidydd Cenedligrwydd. Ym mis Mai 1945, yn dilyn dyrchafiad David Lloyd George, yr AS dros Fwrdeistrefi Caernarfon ers 1890, i Dy'r Arglwyddi yn y mis Ionawr blaenorol, llwyddodd i gadw'r Bwrdeistrefi'n driw i'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad, gan ennill 27,754 o bleidleisiau yn erbyn yr Athro J. E. Daniel, a safai dros Blaid Cymru, yr unig ymgeisydd arall yn yr etholiad. Penderfynodd y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur
  • SEAGER, JOHN ELLIOT (1891 - 1955), perchennog llongau Ganwyd 30 Gorffennaf 1891, yn fab hynaf Syr William Henry Seager a Margaret Annie (ganwyd Elliot), a brawd George Leighton Seager. Priododd, 26 Mai 1922, â Dorothy Irene Jones o Bontypridd, a bu iddynt bedwar o blant. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg y Frenhines, Taunton, cyn ymuno â chwmnïau llongau ei dad lle y cafodd brofiad eang o oruchwylio'r gwaith, rheoli'r llongau masnach
  • SEFNYN (fl. ail hanner y 14eg ganrif), bardd Canodd awdl foliant i Dudur ap Goronwy o Drecastell a Phenmynydd (bu farw 1367), ac awdl farwnad i Iorwerth Gyriawg, bardd o Fôn a flodeuai o gwmpas 1360. Canai hefyd foliant gwragedd, megis rhyw Angharad 'gymar Dafydd '; yn gymysg annhrefnus y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Y mae'n dra thebyg mai ef oedd tad y bardd Gwilym ap Sefnyn.
  • SEISYLL ap CLYDOG (fl. 730), brenin cyntaf tiriogaeth unedig Ceredigion ac Ystrad Tywi Yn ôl achau cynnar yr oedd yn disgyn o Ceredig ap Cunedda Wledig, sef y gŵr y tybir mai ef oedd rheolwr Brythonig Ceredigion ac y galwyd y diriogaeth honno ar ei enw. Ar y cyntaf rheolai dros Geredigion yn unig ond yn ddiweddarach ychwanegodd y rhannau hynny o hen Ddyfed a elwir yn Cantref Mawr, Cantref Bychan, a Chantref Eginog, neu, gyda'i gilydd, Ystrad Tywi. O'r herwydd rhoddid yn fynych yr
  • SEYLER, CLARENCE ARTHUR (1866 - 1959), cemegydd a dadansoddydd cyhoeddus , hydrogen ac ocsygen, ond fod yn rhaid eu dosbarthu yn betrolegol ac yn betrograffaidd. Yn ei farn ef nid oedd y dosbarthiad mwynyddiaethol rhyngwladol cydnabyddedig a ddefnyddid gan Marie Stopes a phalaeobotanegwyr eraill yn ddigon manwl, am mai litholegol ydoedd yn sylfaenol a bod yn rhaid i'r dosbarthiad fod yn ficrobetrolegol yn hytrach na phetrolegol foel er mwyn asesu'n briodol weddillion adeilaeth
  • SHADRACH, AZARIAH (1774 - 1844), ysgolfeistr, gweinidog gyda'r Annibynwyr, awdur , Pennal, Derwen-las, a Threfriw, ac yn pregethu o le i le. Yn 1802 urddwyd ef yn weinidog yn Llanrwst. Symudodd yn 1806 i gymryd gofal eglwysi Talybont a Llanbadarn Fawr, Sir Aberteifi. Yn 1816 dechreuodd bregethu cyson i'r Annibynwyr yn Aberystwyth, a chorfforodd eglwys yno, 30 Mai 1819. Rhoes i fyny ofal ei eglwysi er mwyn gosod yr eglwys yn Aberystwyth ar ei thraed. Aeth yn gyfrifol am gasglu at godi
  • SHEEN, THOMAS (1718 - 1790), cynghorwr Methodistaidd ac Antinomiad , megis Moses Lewis a Thomas Meredith. Credir mai rhyw gymysgedd o gyfriniaeth a Monoffysiaeth (neu Apolinariaeth, efallai) oedd ei athrawiaeth ef a'i gymheiriaid. Canodd un o'i ddilynwyr, Walter Watkin o Aberhonddu, farwnad i'w goffadwriaeth. Bu farw 28 Chwefror 1790.
  • SHEPPARD, ARNOLD ALONZO (1908 - 1979), paffiwr Ganwyd Arnold Sheppard ar 14 Mai 1908 yn 35 Stryd Sophia, Tre-biwt, Caerdydd (yr ardal a elwir Tiger Bay), trydydd plentyn Alonzo Sheppard (g. 1885), morwr o Barbados, a'i wraig Beatrice Louisa (g. Eley, 1887-1948) o Sain Ffagan, Caerdydd. Ei frodyr a chwiorydd oedd: Beatrice Eley (g. 1906, tad anhysbys), William Charles Sheppard (1907-1978), Lucy Sheppard (a fu farw'n fuan wedi ei geni yn 1909
  • SHIPLEY, WILLIAM DAVIES (1745 - 1826), clerigwr Ysgeifiog; 6 Chwefror 1771, yn ficer Wrecsam; 11 Ebrill 1772, yn rheithor (segur) Llangwm. Cymerodd yn gyfnewid am y rheithoraeth hon reithoraeth segur Corwen (8 Ionawr 1774) ac yna ficeriaeth Llanarmon-yn-Iâl (10 Ionawr 1782). Gwnaed ef hefyd yn ganghellor yr esgobaeth (19 Tachwedd 1773) ac yn ddeon (27 Mai 1774). Daliodd y swyddi hyn hyd ei farw ym Modryddan, Rhuddlan, Sir y Fflint, 7 Mai 1826. Claddwyd
  • SHORT, THOMAS VOWLER (1790 - 1872), esgob Llanelwy bu farw yn ficerdy Gresford, 13 Ebrill 1872; claddwyd ef yn Llanelwy. Cyhoeddodd gryn nifer o lyfrau ar bynciau diwinyddol ac addysgol. Efallai'n wir mai addysg oedd ei brif ddiddordeb; cyfrannodd yn hael, allan o'i gyflog ac o'i incwm personol, at godi ysgolion yn ei esgobaeth - pan fu farw nid oedd blwyf yn yr holl esgobaeth heb ysgol. Ymddiddorai hefyd yn nulliau cyfrannu addysg; noder yn
  • SIBLY, Syr THOMAS FRANKLIN (1883 - 1948), daearegwr, gweinyddwr prifysgol ddadleuwr grymus ac yn weinyddwr o'r radd flaenaf. Dywedir mai ef a sicrhaodd na fu gan y coleg newydd unrhyw gymhlethdod israddol yn ei berthynas â cholegau hŷn y Brifysgol o'r dechrau cyntaf. Yn 1926 penodwyd ef yn Brif Swyddog Prifysgol Llundain, teitl a newidiwyd ar ei benodiad ef i Brifathro, a daeth yn Isganghellor Prifysgol Reading 1929-1946 lle y gwnaeth lawer i hybu datblygiad y brifysgol ieuanc
  • SIDDONS, SARAH (1755 - 1831), actores Ganwyd 5 Gorffennaf 1755 yn nhafarn y 'Shoulder of Mutton' (heddiw, 'The Siddons'), Aberhonddu, i Roger Kemble a'i wraig Sarah Ward - bu ei rhieni'n actio yng nghwmni John Ward, yn Aberhonddu ac ar y goror. Ym mis Mai 1772 ymunodd actor o'r enw William Siddons (o Walsall) â'r cwmni, ac ar waethaf gwrthwynebiad ei rhieni - a'i droi yntau allan o'r cwmni am wneud apêl ar gân i'r gynulleidfa yn