Search results

1165 - 1176 of 1867 for "Mai"

1165 - 1176 of 1867 for "Mai"

  • MORRIS, LEWIS (Llewelyn Ddu o Fôn; 1701 - 1765), bardd ac ysgolhaig wraig yn yr ymdrechion hynny. Honnir weithiau iddo farw'n dlawd; ond yn ei eiriau ef ei hunan 'nid oedd mewn angen, nac ychwaith mewn esmwythyd' yn niwedd ei oes - gwir mai rhyw £66 oedd yr amcangyfrif o'i eiddo personol pan fu farw, ond yr oedd gan ei wraig stad fechan, a gall hefyd fod rhyw gymaint o elw i'w ddisgwyl oddi wrth ei anturiaethau yn y plwm. Eto i gyd, ni ddeil hyn ar y gorau mo'i
  • MORRIS, RICHARD (1703 - 1779), sylfaenydd Cymdeithas y Cymmrodorion Ail fab Morris ap Rhisiart Morris (Morris Prichard) a brawd i Lewis, William, a John Morris. Ganwyd 2 Chwefror 1702/3 yn y Fferem, Llanfihangel Tre'r Beirdd. Bu'n gweithio gyda'i dad, ac y mae gennym restr yn ei law ef ei hunan o gelfi pren a wnaethpwyd ganddo yn y gweithdy yn 15 oed. Yn ôl papurau y diweddar Iolo A. Williams fe aeth Richard i Lundain 1 Awst 1722 a'i frawd Lewis ar y 7 Mai 1723
  • MORRIS, ROBERT (d. 1768), diwydiannwr Clase, yn gartref i ddeugain teulu o'i lowyr (gyda chrydd a theiliwr at eu gwasanaeth); ond iddo ef yn ddieithriad y mae'r llyfrau teithio (John Evans, Malkin, Wood, etc.) yn priodoli codi'r pentre 'Morriston,' Treforus, y dywedir mai William Edwards y gweinidog a'r saer o Eglwysilan a'i cynlluniodd. Urddwyd John Morris yn farwnig yn 1806; aeth i fyw i Sketty Park, a bu farw 25 Mehefin 1819. Erys y
  • MORRIS, WILLIAM (1705 - 1763), llythyrwr a llysieuegwr 3ydd mab Morris ap Rhisiart Morris, a brawd i Lewis, Richard, a John Morris; ganwyd 6 Mai 1705 yn y Fferem, Llanfihangel Tre'r Beirdd. Awgryma ef ei hunan mai gŵr tal main ydoedd; efallai ei fod hefyd yn gwargrymu, oblegid y mae ei nai John Owen yn ei lysenwi'n 'Gwilym Gam' - ond efallai hefyd mai ei 'grintachrwydd' a oedd wedi digio ei nai hoyw; nid oedd haelfrydedd ei frawd Richard gan William
  • MORRIS, WILLIAM (fl. 1829-73?), cynorthwywr i'r Comisiynwyr Addysg yng Nghymru, 1846-7, awduron Llyfrau Gleision enwog 1847 yn ganiataol mai Weslead ydoedd. Mewn gwirionedd, Methodist Calfinaidd gweithgar ydoedd, yn enwedig gyda'r ysgolion Sul. Bu'n gohebu gydag Ebenezer Richard o Dregaron yn 1829 ynghylch yr ysgolion hyn, ac yn 1830 ynghylch y cyfarfodydd dau-fisol lle y cyfarfyddai cynrychiolwyr i edrych i mewn i stad yr achos a chateceisio'r gwahanol ddosbarthiadau. Cyn hyn, yn 1826, cyhoeddasai Cyfarwyddwr i
  • MORRIS-JONES, Syr JOHN (MORRIS) (1864 - 1929), ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol Bodleian ac yn dilyn darlithiau John Rhys; yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr (6 Mai 1886) Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Yn Ionawr 1889 (wedi dal yn y cyfamser ysgoloriaeth i astudio Celteg) fe'i penodwyd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd - rhoddwyd iddo gadair athro yn 1895. Priododd (1897) â Mary Hughes, Siglan, Llanfair; cawsant bedair merch. Urddwyd ef yn farchog yn 1918; cafodd LL.D. er
  • MORRIS-JONES, JOHN HENRY (1884 - 1972), gwleidydd Rhyddfrydol\/Rhyddfrydol Cenedlaethol . Gwasanaethodd yn ddiweddarach fel cadeirydd ei ranbarth o'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol ac o Gymdeithas Feddygol Bae Colwyn. Ym mis Mai 1929 etholwyd ef yn AS Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Ddinbych, sedd dra diogel, i olynu Ellis W. Davies a oedd yn ymddeol oherwydd gwaeledd. Ymunodd Morris-Jones â'r grwp o aelodau seneddol Rhyddfrydol Cenedlaethol o dan arweiniad Syr John Simon yn Awst 1931. Parhaodd fel
  • MORTIMER, ROGER de (4ydd iarll y Mars ('March'), 4ydd iarll Wlster), (1374 - 1398) Ganwyd ym Mrynbuga 11 Ebrill 1374, yn fab i Edmund de Mortimer (gweler yr ysgrif ar deulu Mortimer) a'i wraig Philippa ferch Lewnel (Lionel) dug Clarens (ail fab y brenin Edward III - y mae'r briodas yn bwysig, gan mai drwyddi hi yr hawliai ei disgynyddion y flaenoriaeth ar deulu ' Lancaster,' disgynyddion trydydd mab y brenin hwnnw). Bu farw rhieni Rhosier pan nad oedd ef ond plentyn, ac felly
  • MORTON, RICHARD ALAN (1899 - 1977), biocemegydd Ganwyd Alan Morton ar 22 Medi 1899 yn Garston, un o faestrefi Lerpwl, yn unig fab a phlentyn ieuengaf John Morton, gyrrwr trenau a anwyd yn Wrecsam, a'i briod Ann (g. Humphreys) o Nantgwynant a ddaeth i Lerpwl fel morwyn. Er mai Alun oedd ei enw bedydd, fel Alan yr adwaenid ef ar hyd ei oes. Perthynai'r teulu i gapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Garston ac roeddent yn weithgar yn y
  • MORYS, HUW (Eos Ceiriog; 1622 - 1709), bardd ei brentisio saith mlynedd i 'ddysgu trad,' ac fe ymddengys mai dyma'r unig dystiolaeth i gefnogi'r traddodiad am ei brentisio yn farcer yn y Gwaliau yn ardal Owrtwn, Sir y Fflint. Dywedir iddo dorri ar ei brentisiaeth a dychwelyd adref i helpu ei dad hefo gwaith y fferm. Y mae'n sicr, fodd bynnag, iddo dderbyn nawdd uchelwyr cylch Llansilin. Sonia amdano'i hun yn derbyn nawdd Syr William Williams
  • MOSES, DAVID LEWIS (1822 - 1893), bardd ac ysgolfeistr Ganwyd 1 Mai 1822 yng Nghwmpib, Cribyn Clotas, Llanbedr-Pont-Steffan. Yr oedd o'r un teulu â David Davis, Castell Hywel. Pan yn 12 oed, symudodd i Flaenbidernyn ger Pencarreg. Pum mlynedd ar ôl hynny agorodd ysgol ddyddiol ym Mhencarreg. O Bencarreg aeth i gadw ysgol yn Rhydcymerau, ac oddi yno i Frynaman a Chwmtwrch. Dychwelodd o'r diwedd i Frynaman, lle y bu yn gweithio fel clerc i gwmni gwaith
  • MOSS, GWENFRON (1898 - 1991), Cenhades yn China ac India wasanaethu fel cenhades ac y mae'n amlwg fod galwad China yn peri cyfaredd iddi. Aeth i Gynhadledd Genhadol Swanwick yn haf 1925, ac yno y bu iddi deimlo i sicrwydd mai dyna a fyddai gwaith ei bywyd hi. Cysylltodd ar unwaith â'r Ty Cenhadol gan gynnig ei gwasanaeth i Gymdeithas Genhadol Llundain (L.M.S.). Treuliodd ddwy flynedd yn paratoi yn Neuadd Carey, Birmingham, cyn cael ei phenodi i Ogledd China ym