Search results

1141 - 1152 of 1867 for "Mai"

1141 - 1152 of 1867 for "Mai"

  • MORGAN, JOHN RHYS (Lleurwg; 1822 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, darlithydd, bardd, a llenor ei enwad, ei ardal, a'r wlad yn gyfan. Tyfodd eglwys Seion, Llanelli, gymaint o dan ei weinidogaeth nes gorfod agor amryw o ganghennau, e.e. yn Greenfield (i'r Saeson, 1858), Moriah (1872), a Chalfaria (1881), ac etholwyd yntau yn 1878 yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd ac yn areithydd brwd o blaid Rhyddfrydiaeth. Efallai mai darlithio oedd ei gryfder pennaf; y mae ar
  • MORGAN, OWEN (Morien; 1836? - 1921), newyddiadurwr ac ysgrifennwr ar bynciau amrywiol Bu farw 16 Rhagfyr 1921 (Western Mail), ac ar yr achlysur hwnnw dywedwyd ei fod dros 80 oed a'i fod yn fab i Thomas T. Morgan a'i wraig, Margaret, o Ben-y-graig, Rhondda. Cuddiasai ei oedran yn gyson. Yng nghopi'r esgob o gofrestr plwyf Ystradyfodwg cofnodir bedyddio Owen, mab Thomas a Margaret Morgan o Dinas [Rhondda], 23 Chwefror 1836, ac ymddengys yn weddol sicr mai at wrthrych yr ysgrif hon y
  • MORGAN, PHILIP (d. 1435), esgob Caerwrangon (1419) ac Ely (1426) Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yng nghofrestrau esgobion Tyddewi, 28 Mai 1398, lle y disgrifir ef fel doethur yn y gyfraith a rheithor ' Aberedow.' Yn y Papal Letters, 17 Kal. Mehefin 1401, gwelir caniatâd iddo ef, a oedd bellach yn is-ddiacon, i ohirio ei ordeiniad fel diacon ac offeiriad am 10 mlynedd, a chawn gyfeiriad arall ato yn yr un llythyrau, 6 Kal. Mehefin 1405, lle rhoddwyd iddo, a oedd
  • MORGAN, ROBERT (1621 - 1710), gweinidog gyda'r Bedyddwyr . Ni wyddys dydd ei farw, ond fe'i claddwyd yn Llandeilo-Talybont ar 5 Ebrill 1710. Bu'n cadw ysgol yn ei gartref, a dywedir ei fod yn brydydd. Ganed iddo chwech o blant, gan gynnwys David; John, a fu farw ar gychwyn ei weinidogaeth yn Warwick, 12 Mai 1703, yn 24 oed; Hannah, gwraig Arthur Melchior, y ceir ei henw hi a'i gŵr ymhlith yr aelodau a ollyngwyd o Abertawe i Bennsylfania yn 1710; a Robert
  • MORGAN, THOMAS (1543 - c. 1605), Pabydd a chynllwynwr Honnai ei fod yn hanfod o ' right worshipful family of Monmouthshire '; tybia awdur yr erthygl arno yn y D.N.B. mai teulu Morgan, Llantarnam ydoedd hwn, tyb David Mathew (Celtic Peoples and Renaissance Europe, 89) ydyw mai perthyn i'r teulu Morgan, Machen yr oedd, eithr ni ellir ei gysylltu â'r naill deulu na'r llall fel y rhoddir eu hachau yn Clark, Limbus, 311-3, 322-3. Ar ôl cael addysg yn
  • MORGAN, THOMAS (1720 - 1799), gweinidog gyda'r Annibynwyr chanfyddai wendidau ym mhregethau 'Pantycelyn' a hyd yn oed Rowland; a chyfeillachai fwyfwy â Philip Pugh a Christmas Samuel; nid gormod yw dweud ei fod wedi cefnu ar Fethodistiaeth erbyn diwedd ei dymor yng Nghaerfyrddin. Ond er inni gofio ei gyfeillgarwch â'i gydfyfyriwr David Lloyd o Lwynrhydowen, ni ellir cytuno â Walter J. Evans mai Armin oedd; bu'n Isel-Galfin hyd ddiwedd ei oes. Tecach yw dywedyd
  • MORGAN, THOMAS (1737 - 1813), gweinidog Undodaidd mai ef oedd un o'r rhai cyntaf i fuch-frechu ym Morgannwg. Credai Walter J. Evans (Yr Ymofynydd, 1900) mai ef oedd y Thomas Morgan a fu yn academi Caerfyrddin o ganol 1769 hyd ganol 1772; nid ymddengys hynny'n anghredadwy, ond dylid cofio nad oes gennym ond yr enw noeth, ' Thomas Morgan,' heb unrhyw awgrym o hanes blaenorol y gwr hwnnw, yn llyfr cyfrifon y Bwrdd Presbyteraidd (y mae llyfr cofnodion
  • MORGAN, WALTER (fl. 1695), awdur nawddogaeth pan gyflwynodd deon a chabidwl Caerloyw ŵr o'r enw James Harries i'r fywoliaeth, a sefydlwyd y diwethaf, 7 Mehefin 1695 (Llandaff Subscription Books, iv), ac arhosodd ef yno hyd 1728. Ni wyddys yn sicr ai'r Walter Morgan hwn yw'r un a enwir gan Foster, mab Thomas Morgan o Landeilo, a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 30 Mai 1682, yn 21 oed, neu ddyn o'r un enw a fu'n rheithor Eglwysilan
  • MORGAN, Syr WALTER VAUGHAN (1831 - 1916), arglwydd faer Llundain Ganwyd 3 Mai 1831, yn chweched mab i Thomas Morgan o Pipton, y Clas-ar-Ŵy (Glasbury), Brycheiniog, a'i wraig Elizabeth (Vaughan) - yr wythfed mab oedd OCTAVIUS VAUGHAN MORGAN, F.S.A. (1837 - 1896), aelod seneddol Rhyddfrydol dros Battersea, 1885-92; ar y teulu, gweler Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iii, 90. Yn wyneb colledion y teulu, aeth amryw o'r meibion i
  • MORGAN, WILLIAM (1750 - 1833), actiwari a gwyddonydd Ganwyd William Morgan yng Nghastellnewydd, Penybont-ar-Ogwr, Morgannwg, ar 26 Mai 1750, y trydydd o wyth o blant a mab cyntaf William Morgan (1708-1772), apothecari a meddyg, a'i wraig Sarah (ganwyd Price, 1726-1803), chwaer yr athronydd Richard Price. Rhoddir union ddyddiad ei eni gan Caroline Williams, bywgraffydd y teulu a gor-nith i William, ond y dyddiad ar ei feddrod yw 6 Mehefin 1750. Yr
  • MORGAN, WILLIAM (c.1545 - 1604), esgob a chyfieithydd -achosion ei elynion, yn Llys y Seren ac o flaen Cyngor y Gororau, 1589-91. Tystia cofnodion Llys y Seren mai offeiriad cydwybodol oedd Morgan ar y cyfan, yn cael ei flino lawer gan falais ei elynion. Y mae'n bosibl i Morgan ddechrau ar y gwaith o gyfieithu'r Beibl cyn gadael Caergrawnt; y mae'n sicr iddo'i orffen yn Llanrhaeadr - cryn gamp ag ystyried y gecraeth annifyr a fu yno. Trwy radlonrwydd Gabriel
  • MORGAN, WILLIAM (Gwilym Gellideg; 1808 - 1878), bardd gynhyrchion gwobrwyedig yr oedd: ' Awdl Gweledigaeth Pedr ' (Merthyr, 1836), ' Cywydd o glod i Wenynen Gwent ' (Merthyr, 1837). Cyhoeddwyd detholiad o'i waith o dan y teitl Cerbyd Awen (Merthyr, 1846). Ysgrifennodd faled, ' Ple byddaf mhen can mlynedd? ' y gwerthwyd miloedd o gopïau ohoni mewn ffeiriau, tafarnau, etc. Bu farw mewn tlodi, 29 Mai 1878, a chladdwyd ef ym mynwent Cefn, gerllaw Merthyr Tydfil.