Search results

769 - 780 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

769 - 780 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, ALCWYN CARYNI (1828 - 1902), hynafiaethydd am dref a sir Gaerfyrddin. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1867 enillodd y brif wobr lenyddol am ei 'History of Carmarthenshire'. Dichon taw'r hanes yma (NLWMS 12369-12371B) oedd un o'i drysorau mwyaf gwerthfawr, a pharhaodd i ychwanegu manylion ato hyd ei farw. Yn gasglwr trefnus a gofalus gyda chymhelliad cryf i chwilio a darganfod, gwnaeth Alcwyn Evans fwy nag unrhyw un arall i ymchwilio
  • EVANS, ALFRED THOMAS (Fred, Menai; 1914 - 1987), gwleidydd Llafur dros Gaerffili, a bu hefyd yn ysgrifennydd trefniadol i blaid Lafur etholaeth Caerffili, 1962-66. Pan fu farw Edwards ym 1968, etholwyd Fred Evans i'r Senedd fel AS dros yr un etholaeth mewn is-etholiad a welodd gwymp syfrdanol ym mwyafrif yr ymgeisydd Llafur o dros 21,000 o bleidleisiau i lai na 2,000 oherwydd sialens rymus ar ran y Dr Phil Williams (Plaid Cymru). Ailetholwyd ef ym 1970 ac ym 1974
  • EVANS, ANNIE FLORENCE (1884 - 1967), diwygwraig a chenhades Ganwyd Florrie Evans ar 15 Rhagfyr 1884 yng Ngheinewydd, Sir Aberteifi, yr ail o bedwar o blant David Owen Evans (1853-1918), llongwr, a'i wraig Margaret (g. Jones, 1853-1929). Roedd y teulu'n byw yn 5 Marine Terrace yn 1881, ac yn 4 Lewis Terrace yn 1891. Erbyn 1901, yn dilyn dyrchafiad y tad yn gapten, roeddent wedi symud i 12 Marine Terrace a'r tŷ hwnnw fu eu cartref oddi ar hynny. Mynychodd
  • EVANS, ARISE (fl. 1607-60), dewin a phroffwyd 1629; cyn hir gwnaeth ymgais, aflwyddiannus, i rybuddio Siarl I yn ei wyneb am y peryglon oedd o'i flaen; ond llwyddodd i gael gair gyda'r iarll Essex, a dweud am y dyrchafiadau oedd yn dod iddo. Ymddiddorai yn y llu sectau a godai yn sgil y rhyddid newydd, gan feirniadu'n llym y rhan fwyaf ohonynt, yn enwedig y syniadau am yr Ail Ddyfodiad a goleddid gan Christopher Feake a William Aspinwall. Yn
  • EVANS, BENJAMIN (1740 - 1821), gweinidog Annibynnol Ganwyd 23 Chwefror 1740 yn Ffynnon Adda, plwyf Meline, Sir Benfro. Ymadawodd â'r ysgol yn Hwlffordd am fferm ei dad yn 15 oed. Yr oedd ei dad yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr, ond aeth ef gyda'i fam yn aelod at yr Annibynwyr yn Nhrewyddel yn 24 oed. Dechreuodd bregethu yno, ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanuwchllyn yn 1769. Lledodd derfynau ei enwad yn y Gogledd yn wyneb gwrthwynebiad ac erlid, a
  • EVANS, BERIAH GWYNFE (1848 - 1927), newyddiadurwr a dramodydd Ganwyd 12 Chwefror 1848, mab y Parch. Evan Evans, Nant y Glo, sir Fynwy - enw morwynol ei fam oedd Mary Valentine. Bu yn Ysgol Frutanaidd Beaufort ac aeth yn athro ysgol. Bu'n athro yn ysgolion Gwynfe a Llangadog, Sir Gaerfyrddin; yn ystod ei gyfnod yng Ngwynfe sefydlodd y cylchgrawn Cyfaill yr Aelwyd, 1880, ac fel golygydd y cylchgrawn hwnnw y daeth yn adnabyddus gyntaf i Gymru. Yr oedd yn arfer
  • EVANS, CADWALADR (1664 - 1745), Crynwr Cymreig Ganwyd yn Frongoch, plwyf Llanfor, Sir Feirionnydd, o deulu yn hawlio eu bod yn disgyn o Marchweithian. Ymunodd â'r Crynwyr, ymfudodd i Gwynedd, Pennsylvania, a derbyniwyd ef i weinidogaeth y Crynwyr. Bu farw yn 1745. Cofir amdano hefyd oherwydd fod Abraham Lincoln yn or-orŵyr iddo.
  • EVANS, CARADOC (1878 - 1945), awdur Ganwyd 31 Rhagfyr 1878 yn Pant-y-croy, Llanfihangel-ar-Arth, Sir Gaerfyrddin, mab William Evans, arwerthwr, a Mary (née Powell) - a'i fedyddio o dan yr enw David. Treuliodd y rhan fwyaf o'i febyd yn Lan-las, Rhydlewis, gan fynychu ysgol y bwrdd yno cyn cael ei brentisio mewn busnes gwerthwr dilladau, etc. Bu'n gweithio fel cynorthwyydd mewn siopau yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, a Llundain. Yn
  • EVANS, CHRISTMAS (1766 - 1838), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru Ganwyd yn yr Esgaerwen, ym mhlwyf Llandysul, Sir Aberteifi, ddydd Nadolig 1766, mab Samuel Evans, crydd, a'i wraig Joanna. Prentis plwyf, gwas fferm yn amaethdai'r fro, yn eu plith cartref yr enwog David Davis, Castellhywel - dyna ei hanes yn llanc. Ymuno ag eglwys D. Davis pan oedd oddeutu 18 oed, dysgu darllen Cymraeg, cael mynd tros dro i ysgol ei feistr a dysgu rhywfaint o Saesneg a Lladin
  • EVANS, CLIFFORD GEORGE (1912 - 1985), actor Ganwyd Clifford Evans yn Senghennydd, sir Forgannwg, ar 17 Chwefror 1912, yr ifancaf o dri o blant David Evans, dilledydd, a'i wraig Dinah, hetwraig. Roedd ganddo frawd, Kenneth, a chwaer, Pearl. Pan ymrestrodd ei dad i fynd i'r rhyfel aeth Cliff i fyw gyda rhieni ei fam ym Mronwydd, sir Gaerfyrddin. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf. Yn un ar ddeg oed aeth i Ysgol Ganolradd Llanelli, lle cafodd ei
  • EVANS, DANIEL (Daniel Ddu o Geredigion; 1792 - 1846), offeiriad a bardd Ganwyd 5 Mawrth 1792 ym Maesmynach, fferm ym mhlwyf Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi. Bu yn ysgol ramadeg Llanbedr pont Steffan, tan y Parch. Eliezer Williams; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen; cafodd ei B.A. yn 1814, ei M.A. yn 1817, a'i B.D. yn 1824. Yn 1817 gwnaed ef yn gymrawd o'r coleg. Bu am ryw gyfnod, ar ôl gadael y coleg, yn gaplan yn y Royal Military Asylum, Northampton. Gadawodd y swydd
  • EVANS, DANIEL (1774 - 1835), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Eglwyswrw, Sir Benfro, 16 Ionawr 1774, a symud i Drewyddel yn blentyn. Wedi cael mwy o ysgol na'r cyffredin, cafodd ei brentisio yn deiliwr gwlad. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn 15 oed, a dechreuodd bregethu cyn ei fod yn 18 oed. Gwasnaethai'n gyson yn yr eglwysi ar y Sul, a phregethai lawer ar hyd y tai yn yr wythnos. Gwahoddwyd ef i fod yn gynorthwywr Isaac Price, Llanwrtyd, yn