Search results

781 - 792 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

781 - 792 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, DANIEL SILVAN (1818 - 1903), geiriadurwr Y Bardd Cwsc yn 1865. Yn 1868 ysgrifennodd gyfieithiadau i lyfr Skene, The Four Ancient Books of Wales. Golygodd Cambrian Bibliography ' Gwilym Lleyn ' yn 1869, ac ymddangosodd tair cyfran o'i eiddo i atodiad ar y cyhoeddiad hwn yn Revue Celtique rhwng 1870 ac 1875, ond nis cwplawyd. Yn 1870 ysgrifennodd gyfran o'r fersiwn Gymraeg i lyfr o ffurf-weddïau Pabyddol yn y Llydaweg, Liherieu hag Avieleu
  • EVANS, DANIEL SIMON (1921 - 1998), ysgolhaig Cymraeg Ganwyd D. Simon Evans ym Mroderi, Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, 29 Mai 1921. Ef oedd plentyn hynaf David Evans (bu farw 1948) a'i wraig Sarah Jane (ganwyd Lewis), ac yr oedd ganddo chwaer a brawd, sef yr Athro D. Ellis Evans. Bu teulu David Evans yn amlwg ym mywyd y gymuned yn Llanfynydd ac yn arbennig yn y capel Methodistaidd, Capel Banc y Spite, ers cenedlaethau a bu'r fro honno'n agos at galon
  • EVANS, DAVID (1744 - 1821) Maesyberllan, gweinidog y Bedyddwyr Ganwyd ger Aberporth, Sir Aberteifi, mab David Evans, pysgotwr. Bu'n gwasnaethu ar amryw ffermydd o 1754 hyd 1774. Anaml yr âi i gapel cyn iddo ddechrau mynychu capel Hawen (A) yn 1767. Gwrthododd ymuno â'r Annibynwyr a'r Methodistiaid, a mynnodd ei fedyddio yng Nghilfowyr yn 1770, pan oedd yn hwsmon y Ddolgoch, Troedyraur, ac fe'i cymhellwyd i bregethu 'n union. Wedi priodi yn 1774, cymerth
  • EVANS, DAVID (1814 - 1847), gweinidog Wesleaidd Wesleyaidd (1845-6). Brwydrodd ag afiechyd am flynyddoedd; pallodd ei iechyd i ddechrau yn ystod ei dymor yn Hoxton, ac ar ddiwedd ei dymor ym Manceinion gorfu iddo ymneilltuo o'r weinidogaeth reolaidd am flwyddyn (1843), a thrachefn ar derfyn ei dymor yn Llanidloes (Awst 1847). Priododd Elizabeth Williams, Aberystwyth, yn 1841, a ganed iddynt fab a merch (David ac Annie Maria). Cyhoeddodd Duwdod Priodol
  • EVANS, DAVID (1705 - 1788), offeiriad, llenor, a cherddor Ganwyd yn Llangynyw, Sir Drefaldwyn, mab i'r Parch. D. Evans, Llangynyw. Addysgwyd ef yn Rhydychen; graddiodd yn B.A. yn 1728, ac yn M.A. yn 1731, ac yn ddiweddarach yn D.D. Cafodd ficeriaeth gorawl Llanddwyn yn 1734 a rheithoriaeth Llanerfyl yn 1737. Yn 1737 newidiodd Lanerfyl am Lanymynech, lle y bu yn ficer am y gweddill o'i oes. Yn 1772 cafodd ganoniaeth Llanelwy. Yr oedd yn ysgolhaig gwych
  • EVANS, DAVID (1773 - 1828), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 10 Mawrth 1773 yn y Dolau, sir Faesyfed, yn fab i David Evans (1740 - 1790), gweinidog y lle. Pan ymadawodd olynydd ei dad, pwyswyd arno yntau i gymryd ei le, ac urddwyd ef 1 Tachwedd 1798. Cenhadai'n egnïol yn siroedd Henffordd a Maesyfed; gyda Kilpin, Llanllieni, ffurfiodd eglwys Kington. Adfywiodd eglwys y Roc. Bu'n ysgrifennydd cymanfa'r de-ddwyrain am 20 mlynedd. Bu farw 30 Awst 1828.
  • EVANS, DAVID (1874 - 1948), cerddor Ganwyd 6 Chwefror 1874 yn Resolfen, Sir Forgannwg, mab Morgan a Sarah Evans. Cafodd ei addysg yn Arnold College, Abertawe, a choleg y Brifysgol, Caerdydd, a dilyn Dr. Joseph Parry, yn 1903, yn bennaeth adran cerddoriaeth yn y coleg (a chael y gadair yn 1908). Daeth i amlygrwydd yn gynnar yng Nghymru fel cyfansoddwr - gyda'r gweithiau hyn: - 'Llawenhewch yn yr Ior' (oratorio fechan, a berfformiwyd
  • EVANS, DAVID (1793 - 1861), lliwiedydd gwydr Bedyddiwyd ef 21 Ebrill yn Llaneglwys, Llanllwchaiarn, Sir Drefaldwyn, mab David a Mary Evans. Prentisiwyd ef i Mr. (wedi hynny Syr) J. Betton o'r Amwythig; yn 1815 daeth yn bartner â Betton. Gwaith Evans oedd y ffenestri lliwiedig ym mhlas Hawkstone Park, Sir Amwythig, a gynlluniwyd yn gywrain ganddo. Rhwng 1822 a 1828 gwnaed atgyweiriadau helaeth ar ffenestri capel Coleg Winchester gan Evans a
  • EVANS, DAVID (1842 - 1914), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 15 Ionawr 1842 yn Penybontfawr, Sir Drefaldwyn. Bu'n gweithio yn ffatri ei dad ac yr oedd yn un o'r rhai y dylanwadwyd arnynt gan ddiwygiad crefyddol 1859. Dechreuodd bregethu yn Llanfyllin. Aeth i ysgol yn Llundain, lle yr oedd ei frawd Owen Evans (1829 - 1920), yn weinidog, i baratoi ar gyfer coleg. Bu yn athrofa'r Bala, 1860-3. Bu'n weinidog yn Rhosymedre, 1863-9, y Bermo a'r Cytiau
  • EVANS, DAVID (fl. 1710?-45?), gweinidog Annibynnol cynnar yn y Welsh Tract, etc., Pennsylvania, ac awdur Serch nad oes sicrwydd ddarfod ei eni yng Nghymru - dywed rhai awdurdodau ei fod yn fab i'r Parch. William Evans, Pencader, Sir Gaerfyrddin, a ymfudodd i'r America - caiff gyfeirio'n fyr ato yma am ei fod yn un o awduron Cymreig cynharaf yr America. Cyhoeddwyd tri llyfr, o leiaf, o'i waith, sef (a) A Help for Parents and Heads of Families … By David Evans, a Labourer in the Gospel at Tredyffren
  • EVANS, DAVID (1879 - 1965), gwas sifil ac emynydd yng Nghynwil Elfed, Sir Gaerfyrddin hyd 1913. Ond erbyn hynny yr oedd wedi penderfynu newid llwybr ei yrfa oherwydd yn 1912 yr oedd wedi sefyll Arholiad y Gwasanaeth Sifil ar gyfer staff allanol Comisiwn Yswiriant Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd ef yn gyntaf ar restr yr ymgeiswyr llwyddiannus a chychwynnodd ar ei ddyletswyddau ddechrau 1914. Treuliodd y saith mlynedd nesaf yn gweithio ym Merthyr Tudful
  • EVANS, DAVID (Dewi Dawel; 1814 - 1891), teiliwr, tafarnwr, bardd, etc. waith Mr. Herbert Davies, Edwinsford Arms, yn lladd dau gadno a'i nerth ei hun.' Cyfansoddodd englynion i ofyn am y gyfrol gyntaf o Salmau yr Eglwys yn yr Anialwch (Edward Williams, ' Iolo Morganwg '). Adargraffwyd yn The Life and Work of William Williams, M.P. (gan Daniel Evans, 1939), nifer o benillion o'i waith ar 'addysgiaeth yng Nghymru ' yn dilyn yr adroddiad ar addysg a elwir ' Brad y Llyfrau