Search results

745 - 756 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

745 - 756 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • ELLIS, SAMUEL (1803 - 1852), peiriannydd Ganwyd ym Melinrhyd, Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, yng ngwanwyn 1803, yn un o wyth plentyn Hugh Ellis, melinydd, saer melinau, ac adeiladydd. Aeth i'r ysgol yn Llanfair Caereinion, a daeth ei ddawn at wneud dyfeisiadau mecanyddol i'r amlwg yn gynnar. Yn 1826 aeth i Fanceinion ac yno yn 1832 ffurfiodd bartneriaeth ag un Mr. Norton i weithio ffowndri. Daeth y bartneriaeth i ben yn 1838, ac fe brynodd
  • ELLIS, TECWYN (1918 - 2012), addysgwr, ysgolhaig ac awdur Ganwyd Tecwyn Ellis ar 24 Ebrill 1918 yng Nghae Crydd, tyddyn bychan ar stad y Pale yng Nghaletwr, Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn unig blentyn i David John Ellis a'i wraig Madge (ganwyd Edwards). Fel brodor o Benllyn, ac o Edeirnion yn ddiweddarach, roedd ei adnabyddiaeth o'r cymydau hyn - eu hanes, eu traddodiadau a'u teuluoedd - yn ddihysbydd. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Llandderfel; ysgol
  • ELLIS, THOMAS (c. 1819 - 1856), dwyreinydd Ganwyd yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn, tua 1819, a chan nad oes gyfeiriad ato yng nghofrestr y plwyf, y mae'n debyg iddo gael ei fedyddio yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yno. Mynychai ysgol Morris Davies, ond disgybl gwan ydoedd, ac ymunodd â'i dad fel crydd. Wedi hynny crwydrodd i Lerpwl; yno ymddiddorodd mewn ieithoedd dwyreiniol. O 1848 hyd 1850 dywedir iddo gynorthwyo Samuel Bagster i
  • ELLIS, THOMAS (1625 - 1673), offeiriad a hynafiaethydd (drwy farn y diweddar Syr John Edward Lloyd) cymylwyd mwy ar ei enw da gan y gred nad ef oedd gwir awdur y Memoirs of Owen Glendower, a briodolid iddo, ond Robert Vaughan - mai copïwr yn unig oedd Ellis, neu arolygwr ar y gorau.
  • ELLIS, THOMAS (1711/12 - 1792), clerigwr Ganwyd yng Ngallt-melyd, Sir y Fflint, yn fab i Edward Ellis. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 5 Chwefror 1727-8, yn 16 oed; graddiodd yn 1731, ac yn B.D. yn 1741 (Foster, Alumni Oxonienses), bu'n gymrawd o'r coleg 1731-61 (Hardy, Jesus College), ac ymhellach ymlaen efe oedd y cymrawd hynaf. Yn 1737 cafodd gan ei goleg guradiaeth (neu ' lectureship') Caergybi. Yno bu'n weinidog hynod
  • ELLIS, THOMAS IORWERTH (1899 - 1970), addysgydd ac awdur ysgoloriaeth Gymreig yn y clasuron). Graddiodd B.A. 1920, B.A. (Rhyd.) 1924, M.A. (Rhyd.) 1927, M.A. (Cymru) 1930. Gwasanaethodd yn y fyddin gyda'r Magnelwyr Brenhinol, 1918. Bu'n athro'r clasuron yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Caerdydd, 1924-28; darlithydd yn y clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, 1928-30; prifathro ysgol sir y Rhyl, 1930-40; darlithydd yn y clasuron, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont
  • ELLIS, THOMAS PETER (1873 - 1936), barnwr I.C.S. (h.y. gwasanaeth gwladol yr India), awdurdod ar gyfreithiau arferiadol y Punjab a chyfreithiau Cymru yn y Canol Oesoedd ddychwelyd i Gymru ymunodd â'r Eglwys Rufeinig, ac yn rhan olaf ei fywyd rhoes lawer o amser i astudio hanes Catholigiaeth yng Nghymru. Bu farw yn y Royal Southern Hospital, Lerpwl, 7 Gorffennaf 1936. Ymhlith ei gyhoeddiadau yn yr India ceir The Ivory Industry in the Punjab, The Law of Pre-emption in the Punjab, A Judge's Note-Book, Notes on Punjab Custom, (golygydd) Rattigan's Punjab Customary Law (8fed
  • ELLIS, WILLIAM (Gwilym ab Elis; 1752 - 1810), emynydd a baledwr Ganwyd yn Tynant, plwyf Llanycil, mab Ellis a Jane William. Ellen oedd enw'i wraig, a thrigent yn nhreddegwm Ismynydd yn 1780; ganwyd pedwar o blant iddynt rhwng 1780 a 1790. Bu farw Rhagfyr 1810, a'i gladdu yn Llanycil. Ef a gyhoeddodd Ychydig o Hymnau, etc. (d.d.) o waith Edward Parry, Llansannan, William Evans o'r Bala, ac eraill. Argraffwyd y llyfr 'tros ddyn tlawd a elwir William Ellis.' Y
  • ELSTAN GLODRYDD, 'tad' y pumed o lwythau brenhinol Cymru Er na wyddys odid ddim amdano, fe dâl ei enw'n bennawd i grynodeb (a dynnwyd o Lloyd, A History of Wales) o hanes arglwyddi diweddarach 'Rhwng Gŵy a Hafren,' cantrefi Maelienydd ac Elfael - gweler yr ach ar t. 770 o A History of Wales gan Lloyd. Yr oedd gan Elstan (A History of Wales, 406) fab, CADWGAN, a chan hwnnw dri mab. Un ohonynt oedd IDNERTH, yntau â thri mab; o'r rheini cafodd MADOG (bu
  • ELWYN-EDWARDS, DILYS (1918 - 2012), cyfansoddwraig chyfieithiadau Cymraeg), megis 'Sweet Suffolk Owl', a 'The Bird of Christ', ond troes yn ddiweddarach i osod geiriau gwreiddiol gan feirdd o Gymry megis R. Williams Parry. Bu farw 13 Ionawr 2012 mewn cartref nyrsio yn Llanberis.
  • EMANUEL, HYWEL DAVID (1921 - 1970), llyfrgellydd ac ysgolhaig Lladin Canol Ganwyd 14 Mai 1921 ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i William David Emanuel, ysgolfeistr, a'i wraig Margaret (ganwyd James). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y bechgyn, Llanelli, ac yna yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn Lladin yn 1941. Wedi pum mlynedd o wasanaeth tramor yn y Llynges yn ystod y rhyfel, penodwyd ef yn 1947 yn geidwad cynorthwyol yn
  • EMERY, FRANK VIVIAN (1930 - 1987), daearyddwr hanesyddol Ganed Frank Emery ar 15 Mehefin 1930 yng nghartref ei rieni yn Stryd Mownt, Tre-gwyr, Sir Forgannwg. Ganed ei fam Bronwen Myfanwy (Williams gynt) ym Merthyr Tudful yn 1897. Ganed ei dad, William ('Bill') Emery (1897-1962), ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, Sir Forgannwg. Ar enedigaeth Frank, cricedwr proffesiynol oedd ei dad: batiwr llaw dde a bowliwr llaw dde cyflymdra cymedrol. Ym mlynyddoedd