Search results

61 - 72 of 1353 for "dafydd ap gwilym"

61 - 72 of 1353 for "dafydd ap gwilym"

  • CADFAN (fl. 620), tywysog Mab Iago ap Beli (bu farw 613) o linach Maelgwn Gwynedd. Gwyddys iddo deyrnasu dros Wynedd, ond nid oes dim arall o'i hanes ar gael. Y mae ei garreg fedd (dechrau'r 7fed ganrif) yn eglwys Llangadwaladr, sir Fôn, ac arni'r arysgrif: 'Catamanus rex sapientisimus opinatisimus (“mwyaf enwog”) omnium regum.' Rhydd traddodiad le iddo ym mucheddau'r santes Gwenffrewi a'r sant Beuno; ffug gan mwyaf
  • CADWALADR (d. 664), tywysog Mab Cadwallon ap Cadfan. Pan fu farw tad Cadwaladr yn 633 syrthiodd Gwynedd i ddwylo anturiaethwr, Cadafael ap Cynfedw, a deyrnasodd hyd nes iddo orfod cilio'n ôl mewn gwaradwydd o frwydr Winwedfeld yn 654. Daeth Cadwaladr i'w etifeddiaeth yr adeg hon, ond daeth pla mawr 664 a chollodd ei fywyd. Er mai teyrnasiad di-ddigwyddiad a gafodd, daeth Cadwaladr yn ŵr pwysig yng ngolwg beirdd a barddas
  • CADWALADR (d. 1172), tywysog Trydydd mab Gruffydd ap Cynan (bu farw 1137) a'i wraig Angharad. Clywir sôn amdano gyntaf yn 1136, pryd y bu i'w frawd Owain ac yntau, wedi marw Richard Fitz Gilbert, arglwydd Ceredigion, fynd ar gyrch i'r dalaith honno a chymryd y pum castell gogleddol, Aberystwyth yn eu plith. Ddiwedd y flwyddyn daethant eilwaith gyda llu mawr o farchogion wedi eu gwisgo mewn dur, a gwŷr traed, ac ysgubo trwy
  • CADWALADR ap RHYS TREFNANT (fl. 1600), bardd Ychydig iawn a wyddys amdano, ac ychydig o'i waith sydd ar gael. Canodd i wŷr Maldwyn yn bennaf; gyrrodd eog a chywydd i Syr Edward Herbert, arglwydd Powys; ysgrifennodd hefyd i Huw ap Iefan o Fathafarn ac i Lewys Gwyn.
  • CADWALADR, DAFYDD (1752 - 1834), cynghorwr gyda'r M.C. Ail fab Cadwaladr a Chatrin Dafydd o Erw Ddinmael, Llangwm, teulu a fu'n byw ar y tyddyn hwnnw am genedlaethau ac a oedd yn nodweddiadol o'r fro - yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau. Rhigymai Dafydd yntau pan yn llanc; ond ni ddysgodd ddarllen ond trwy graffu ar y llythrennau ar gefnau'r defaid a phigo ei ffordd wedyn drwy'r Llyfr Gweddi. Daeth yn ddarllenwr mawr, a chan fod ganddo gof
  • CADWALADR, EDWARD (fl. 16eg ganrif), bardd Y mae dau ddarn o'i waith ar gael - englyn yn ateb i un gan Dafydd Cadwaladr (Peniarth MS 93, t. 204) a cherdd yn y mesur rhydd, sef 'Cyffes ostyngedig o bechode gidag erfynion o drugaredd' (NLW MS 11990A, t. 153).
  • CADWALLON ap CARADOG ap IESTYN - see MORGAN ap CARADOG ap IESTYN
  • CADWGAN (d. 1241), esgob Bangor Cafodd Cadwgan ei esgobaeth pan fu farw Robert yn 1212. Y pryd hwn yr oedd Llywelyn ap Iorwerth yn ben llywodraethwr ar Ogledd Cymru; trwy ei ddylanwad ef, y mae'n ddiamau, y cafodd Cadwgan yr esgobaeth. Ac ni bu i'r brenin John ychwaith, a oedd ar y pryd yn ceisio cael cymorth y Cymry yn erbyn ei farwniaid, roddi unrhyw rwystr ar ei ffordd. Ar 13 Mawrth caniatâwyd i'r cabidwl ethol abad y Tŷ
  • CADWGAN (d. 1111), tywysog Ail fab Bleddyn ap Cynfyn (a fu farw 1075). Clywir sôn amdano gyntaf yn 1088, pryd yr ymosododd ar Ddeheubarth, gyda'i frodyr Madog a Rhiryd, a gyrru Rhys ap Tewdwr yn alltud. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn dychwelodd Rhys gyda llynges o Iwerddon; cyfarfu â gwŷr Powys mewn brwydr y collodd Madog a Rhiryd eu bywydau ynddi ond o'r hon y gallodd Cadwgan ddianc. Rhoes marw Rhys yn 1093 gyfle i
  • CARADOG ab IESTYN (fl. 1130), sylfaenydd teulu 'Avene' ym Morgannwg Mab Iestyn ap Gwrgant. Gŵyr haneswyr amdano am fod dau gyfeiriad ato yn ' Llyfr Llandaf.' Yn y cyntaf enwir ef ymysg y gwŷr lleyg mewn siarter sydd yn tystio i Caradog ap Gruffydd (bu farw 1081) roddi tir yn Edlygion i'r esgob Herwald; yn yr ail disgrifir ef yn bennaeth a chanddo lu rhyfel y gwnaeth ef iawn i'r unrhyw esgob oblegid drwgweithredoedd y llu hwn gan roddi iddo faenor yn nyffryn afon
  • CARADOG ap GRUFFYDD ap RHYDDERCH (d. 1081) Ŵyr Rhydderch ab Iestyn, gŵr o ddylanwad yn Ne Cymru hyd ei farw yn 1033, a mab Gruffydd ap Rhydderch, cydymgeisydd Gruffydd ap Llywelyn, gan yr hwn y'i lladdwyd yn 1055. Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb
  • CARADOG FYNACH (d. 1124), meudwy Ganed ef o deulu da ym Mrycheiniog, a chafodd addysg leyg. Oherwydd ei gyraeddiadau, a gynhwysai ganu'r delyn, a'i dymer gymdeithasgar, cafodd fynd i wasanaethu Rhys ap Tewdwr (bu farw 1093). Dringodd yn uchel yn ffafr y tywysog hwnnw, ond bu mor anffortunus â cholli dau filgi gwerthfawr y rhoddwyd eu gofal arno, colled a gostiodd iddo golli ffafr Rhys. Oblegid bygythion cas ei feistr gorfu iddo