Search results

61 - 72 of 1867 for "Mai"

61 - 72 of 1867 for "Mai"

  • BLEDRI (d. 1022), esgob Llandaf Gwent, fe'i clwyfwyd pan oedd yn ceisio cyfamodi rhwng y ddwy blaid; ysgymunwyd y brenin a'i filwyr ar unwaith gan synod a gosodwyd y tir o dan waharddiad. Cafwyd heddwch o'r diwedd ar delerau a gynhwysai roddi i Landaf dref fechan frenhinol y tybir mai Undy ydoedd. Yn ' Brut Gwent ' rhydd Edward Williams ('Iolo Morganwg') glod fel ysgolhaig iddo a'i alw 'Y Doeth'; rhydd hefyd hanes gorchmynion Bledri
  • BLEGYWRYD (fl. c. 945), awdurdod ar hen gyfreithiau Cymru Tystia amryw o'r MSS. hynaf o'r cyfreithiau i bwysigrwydd Blegywryd yng ngwaith y cyngor y parodd Hywel Dda ei gynnull yn y Ty-gwyn-ar-Daf yn Nyfed, c. 945. Sonnir am ddewis 13 o ddoethion o blith y cynulliad mawr i drefnu a golygu'r cyfreithiau, a chan mai Blegywryd yw'r unig un ohonynt a grybwyllir wrth ei enw, tebyg mai ef oedd bennaf. Gelwir ef yn ' athro,' 'yr un ysgolhaig doethaf
  • BLIGH, STANLEY PRICE MORGAN (1870 - 1949), tirfeddiannwr ac awdur 1914 alw am ei holl egni i gynhyrchu bwyd a gwella tir. Ar ôl sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919 gellid cyfrif Cilmeri yn estyniad ohoni gan fod croeso yno i'r gwyddonwyr gynnal llu o arbrofion ar wella porfeydd sâl. Ystyriai R. G. Stapledon mai Stanley Bligh oedd yr arloeswr gwella tir glas mwyaf nodedig yn y wlad. Cadwai Adran Amaeth Prifysgol Rhydychen gyfrifon manwl o holl gostau gwella tir
  • BONARJEE, DOROTHY NOEL (1894 - 1983), bardd a chyfreithiwr drysorydd y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau, ac yn aelod o fwrdd golygyddol cylchgrawn y myfyrwyr, The Dragon, lle cyhoeddodd nifer o gerddi. Enillodd gryn fri ymhlith ei chyfoedion yn 1914 pan ddyfarnwyd cadair farddol eisteddfod y coleg iddi am ei cherdd am Owain Lawgoch. Roedd wedi cystadlu dan y ffugenw 'Shita', a chafodd 'gymeradwyaeth fyddarol' pan ddatgelodd mai hi oedd awdur y gerdd (The Cambrian
  • BOOTH, FLORENCE ELEANOR (1861 - 1957), Iachawdwriaethwraig a diwygwraig gymdeithasol roedd wedi gwasanaethu gyda Catherine, a siaradodd yn gyhoeddus mewn Ffrangeg rhugl. Arweiniodd Gyngres y Ffindir ym Mehefin y flwyddyn honno, ac adroddwyd mai hwnnw oedd 'the mightiest thing in the history of the Territory.' Cafwyd Cyngres yn yr Almaen ym mis Gorffennaf. Dros y misoedd dilynol arweiniodd ymgyrch fuddugoliaethus yng Ngwlad Belg ac fe'i derbyniwyd gan y Frenhines Wilhelmina yn
  • BOWDEN, HERBERT WILLIAM (BARWN AYLESTONE), (1905 - 1994), gwleidydd dyletswyddau arbennig yr Awyrlu Brenhinol fel sarsiant ym Mai 1943, a chyrraedd rheng Swyddog Hedfan cyn diwedd y flwyddyn. Fe'i dewiswyd yn ymgeisydd Llafur i etholaeth De Caerlyr yn etholiad cyffredinol 1945, a threchodd yr ymgeisydd Torïaidd o drwch blewyn. Yn dilyn newidiadau i ffiniau'r etholaeth yn 1948, newidiwyd etholaeth Bowden i Dde-orllewin Caerlyr, lle'r enillodd fwyafrif cyfforddus a'i gadw tan
  • BOWEN family Llwyngwair, Y mae aelodau teulu'r Boweniaid yn olrhain eu tras hyd at Wynfardd Dyfed (c. 1038). Tybir mai y cyntaf i arfer y cyfenw oedd EVAN BOWEN, Pentre Evan. Bu llawer o'r gwrywod yn siryfon Sir Benfro. Yr oedd JAMES BOWEN yn siryf yn 1622 ac yn byw yn Llwyngwair pan ymwelodd Lewys Dwnn â gogledd sir Benfro yn 1591; priododd ef Elenor, merch John Griffith, mab Syr William Griffith, Penrhyn, Sir
  • BOWEN, D. E. (fl. 1840-1880), golygydd, awdur, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn U.D.A. Ganwyd yn sir Forgannwg, eithr ymfudodd i U.D.A. pan oedd yn ieuanc. Bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Carbondale, Pennsylvania, am gyfnod. Daeth i amlygrwydd fel golygydd Y Gwyliedydd (1843), cylchgrawn cyntaf Bedyddwyr Cymraeg U.D.A., a'i olynydd Y Seren Orllewinol (1844). Y mae'n bosibl mai efe hefyd a oedd yn gyfrifol am Y Beread (1841), cylchgrawn pythefnosol at wasanaeth y Bedyddwyr
  • BOWEN, DAVID (1774 - 1853) Felinfoel, gweinidog Ganwyd yn Bryn Bach, Felinfoel, 11 Rhagfyr 1774. Bedyddiwyd ef gan Daniel Davies, Felinfoel, 14 Mai 1797, a dechreuodd bregethu yn 1798. Urddwyd ef 25 Awst 1806 gan Titus Lewis a Joshua Watkins, Caerfyrddin, i fod yn gydweinidog a Daniel Davies, a chartrefai ym Mhontlludw. Yn 1831 ffurfiwyd Seion, Llanelli, yn eglwys, a dewiswyd Bowen ganddi i'w bugeilio. Treuliodd weddill ei oes i'w gwasanaethu
  • BOWEN, DAVID GLYN (1933 - 2000), gweinidog a diwinydd aml-ffydd rhifyn Gorffennaf/Awst 2000 yn dwyn y teitl, 'Iesu Tirion, Y Pryfociwr', ond heb eglurhad o'r cefndir. Yn anffodus, bu farw David Bowen o gancr 15 Mai 2000, ychydig o wythnosau cyn i'r cyfieithiad ymddangos. Roedd ei angladd ar Fai 22, 2000, yng nghapel Little Lane, Bradford, yn adlewyrchiad trawiadol o'i fywyd ac o'i ymrwymiad i oddefgarwch Cristnogol. Cymerwyd rhan gan gynrychiolwyr o'r cymunedau
  • BOWEN, EDWARD GEORGE (1911 - 1991), datblygydd radar, a radio-seryddwr cynnar Gyfundrefn Ymchwil Wyddonol a Diwydiannol y Gymanwlad (CSIRO)(Radiophysics Laboratory of the Commonwealth Scientific and Industrial Research Organisation) yn Awstralia. Cyrhaeddodd Sydney Ddydd Calan 1944, a daeth yn Bennaeth Adran Ffiseg-radio Sydney ym mis Mai 1946. Ar ddiwedd y rhyfel trodd ei sylw at faterion an-filitaraidd o bwys i Awstralia. Un oedd radio-seryddiaeth a dyfodd o chwilfrydedd ynglyn
  • BOWEN, EMRYS GEORGE (1900 - 1983), daearyddwr yn grediniwr cadarn yn swyddogaeth diwylliant yn fframio'r tirwedd, ac yn ddehonglwr o hynny, nid ymwadodd â'r syniad cyfoes, a oedd yn llywodraethu ar y pryd, mai prif swyddogaeth daearyddiaeth oedd effaith yr amgylchfyd ar ddynoliaeth, lle bo'r amgylchfyd wedi ei ddehongli'n gul fel y byd corfforol. Adlewyrchwyd y diddordebau diweddaraf hyn yn ei gyhoeddiadau a ddilynodd. Yn wir, ei bapur