Search results

625 - 636 of 990 for "Mawrth"

625 - 636 of 990 for "Mawrth"

  • OWEN, OWEN (1850 - 1920), prif arolygwr Bwrdd Canol Cymru gynlluniau addysg siroedd Cymru dan Ddeddf Addysg 1889. Yn 1896 sefydlwyd Bwrdd Canol Cymru ac yn 1897 penodwyd Owen yn brif arolygwr cyntaf y Bwrdd, swydd a lanwodd gyda medr a ffyddlondeb dihafal hyd 1915, pan orfu iddo ymddiswyddo oherwydd afiechyd. Bu farw 14 Mawrth 1920 ym Mae Colwyn a chladdwyd ym mynwent Llandrillo-yn-Rhos.
  • OWEN, RICHARD JONES (Glaslyn; 1831 - 1909), bardd a llenor . Parhaodd cysylltiad ' Glaslyn ' â'r chwarelau; yn 1869 yr oedd yn arolygydd ar chwarel fechan yn Nyffryn Ardudwy. Yn 1877 symudodd y ddau i bentref Bryntirion, Nantmor, a thrachefn wedi ychydig amser i fwthyn o'r enw Penygroes gerllaw Pont Aberglaslyn. Ar 17 Mai 1902 collodd ' Glaslyn ' ei briod, ac aeth i ' Lys Ednyfed ' ym Mhenryndeudraeth, lle y bu farw ar 13 Mawrth 1909 yn 78 mlwydd oed; claddwyd ef
  • OWEN, ROBERT (1858 - 1885), athro a bardd Ganwyd 30 Mawrth 1858 yn ffermdy bychan Tai Croesion, heb fod ymhell o eglwys Llanaber, Sir Feirionnydd, mab Gruffydd Owen, badwr a ffermwr, a Margaret ei wraig. Casglwyd manylion ei yrfa a chyhoeddwyd rhai o'i ganeuon gan Syr Owen M. Edwards yn 1904 yn un o gyfrolau'r gyfres o lyfrau glas sydd yn unffurf â llyfrau ' Cyfres y Fil; o'r gwaith hwnnw y cymerwyd y manylion a grynhoir yma. Pan oedd y
  • OWEN, THOMAS (1748 - 1812), clerigwr a chyfieithydd bedyddiwyd 3 Medi 1748, mab Thomas a Margaret Owen, Rhiwlas, ym mhentre Pentraeth, Môn. Ar 20 Mawrth 1767 ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan raddio yn B.A. yn 1770. Yn gynnar yn 1771, geilw ei hun yn ddirprwy i lyfrgellydd Bodley. Urddwyd ef yn ddiacon yn Ordeiniad y Drindod, 1771, gan esgob Rhydychen ar lythyr gollyngdod oddi wrth esgob Bangor, gyda hawl i guradiaeth Llanddeusant ym Môn
  • OWEN, THOMAS ELLIS (1764 - 1814), clerigwr Ganwyd yng Nghonwy 5 Rhagfyr 1764, ond nis bedyddiwyd cyn 25 Mawrth 1765; mab i William Owen, dilledydd a threthgasglydd, a'i wraig Elizabeth Ellis, Glan-y-wern, Mochdre, ferch John Ellis, atwrnai. O ysgol Westminster aeth yn 1785 i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen; graddiodd yn 1789. Penododd ei goleg ef yn 1790 yn ficer South Stoke (swydd Rhydychen), ond ar 10 Rhagfyr 1794 cafodd reithoraeth
  • OWEN, WILLIAM (c. 1486 - 1574), cyfreithiwr .' Cyhoeddodd ddau argraffiad o dalfyriad o'r cyfreithiau Saesneg, y rhai a argraffwyd gan Pynson yn 1521 a 1528. Nid yw'n sicr mai ef oedd yn gyfrifol am argraffiad 1499 o'r un gwaith. Nid yw hyn yn amhosibl oblegid dywedir ei fod dros 100 oed pan fu farw, 29 Mawrth 1574, yn iach a hoenus hyd y diwedd. Buasai felly tua 25 mlwydd oed yn 1499. Priododd ag Elizabeth, ferch Syr George Herbert, brawd William
  • OWEN, WILLIAM (1750 - 1830), clerigwr efengylaidd . Rhoddes esgob Henffordd iddo ficeriaeth Almeley 11 Rhagfyr 1816 ac at hynny cafodd reithoraeth Ryme Intrinsica, Sherborne, 6 Mawrth 1823, dan nawddogaeth tywysog Cymru (y brenin Siôr IV wedi hynny). Ymwelai â Sir Benfro 'n fynych, a daeth y Fron Goch yn eiddo iddo ar farw ei dad. Bu'n gefnogydd eiddgar i'r genhadaeth dramor (y ' Church Missionary Society'). Bu farw 4 Chwefror 1830 a chladdwyd yn
  • OWEN, Syr JOHN (1600 - 1666), llywiawdr ym myddin y Brenhinwyr gwnaeth yn bosibl iddo ymneilltuo i Glenennau ar ôl iddo gymryd y ' Covenant ' a'r ' Negative Oath ' (26 Ebrill 1647). Bythefnos cyn hyn yr oedd Rupert wedi ysgrifennu o Ffrainc yn gwahodd Owen i ddod â brigâd o Gymry drosodd i wasnaethu yn y wlad honno, eithr bu raid iddo, o'i anfodd, wrthod y gwahoddiad oherwydd prinder moddion cludo. Adnewyddwyd ei gomisiwn yn yr ail Ryfel Cartrefol (31 Mawrth 1648
  • OWENS, OWEN (1794 - 1838), prif ddyn y 'Wesle Bach selocaf yn y mudiad, a theithiodd yn Arfon, Llŷn, Meirion, Maldwyn, a Cheredigion i bregethu ei egwyddorion, nid heb gryn fesur o lwyddiant i'r 'Wesle Bach' ac o golledion i'r cyfundeb Wesleaidd. Bu ei farw (yn ei gartref), 10 Mawrth 1838, yn 44 oed, yn ddyrnod drom i'r enwad bychan; yr oedd eisoes mewn anawsterau ariannol, ac yn raddol suddodd yn ôl i fynwes yr hen gyfundeb, neu i fudiadau Wesleaidd
  • PAGET family Plas Newydd, Llanedwen farw Henry Bayly Paget 13 Mawrth 1812, a dilynwyd ef fel perchen y stad gan ei fab hynaf, HENRY WILLIAM PAGET (1768 - 1854), ganwyd 17 Mai 1768, a gafodd yrfa filwrol lewyrchus ac a ddyrchafwyd yn ardalydd cyntaf Môn, 4 Gorffennaf 1815, fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth clodwiw yn y rhyfel â Ffrainc. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Arfon, 1790-6, cwnstabl castell Caernarfon, 1812, 1831, a 1837
  • PALMER, ALFRED NEOBARD (1847 - 1915), hanesydd mohono hyd 1903. Ymddangosodd ei History of Gresford yn 1905 a'i History of Holt yn 1910 - yr oedd y ddau waith hyn wedi ymddangos yn gyfresi o erthyglau yn Archæologia Cambrensis, cylchgrawn yr ysgrifennodd ef iddo (fel i'r Cymmrodor ac i Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion) lu o erthyglau (gweler rhestr gan R. G. Smallwood yn y Wrexham Advertizer, 13 Mawrth 1915); golygodd hefyd
  • PALMER, HENRY (1679 - 1742), gweinidog Annibynnol . Bu Howel Harris yn aros yn ei dŷ am noson (10 Mawrth) yn 1740, ac yr oedd Palmer yn un o'r rhai a arwyddodd lythyr (Trevecka Letter 231) at Harris i'w ailwahodd i'r ardal. Bu farw 12 Rhagfyr 1742. Yr oedd un o'i feibion, GEORGE PALMER (a fu farw 1750), yn weinidog yn Abertawe; bu un arall, John Palmer, yn henuriad dylanwadol iawn yn Henllan am faith flynyddoedd - bu farw 1 Ionawr 1800, yn 86 oed