Search results

541 - 552 of 1867 for "Mai"

541 - 552 of 1867 for "Mai"

  • GRUFFUDD FYCHAN Syr (d. 1447), milwr O Froniarth a Threlydan ym mhlwyf Cegidfa, Sir Drefaldwyn. Mab ydoedd i Ruffudd ab Ieuan ap Madog ap Gwenwys o Fawd ferch Griffri ap Rhys Fongam. Olrheiniai teulu Gwenwys eu hachau o Frochwel Ysgithrog. Ymddengys mai ym mhlwyf Cegidfa yn swydd Ystrad Marchell yr oedd prif ganolfannau'r teulu. Bu nifer o'i aelodau yn flaenllaw ym mhlaid Owain Glyndŵr, a Gruffudd ab Ieuan yn un ohonynt. Yn
  • GRUFFUDD GRYG (fl. ail hanner y 14eg ganrif), bardd marwnad Rhys ap Tudur. Troer at yr ymryson â Dafydd ap Gwilym am nodau amseryddol. Yn gyntaf oll, rhaid pwysleisio mai cellwair yw'r dilorni a phardduo. Pentyrra'r beirdd gabl ffiaidd ar famau ei gilydd, gan ddychanu mewn iaith gyfoethog o eirfa'r cwterydd. Yn lle moli yn null penceirddiaid, y gamp yw dangos eu medr fel bawgeiniaid. Ymunwyd yn yr 'hwyl' gan Iolo Goch, Ithel Ddu, Tudur Goch, ac eraill
  • GRUFFUDD HIRAETHOG (d. 1564), bardd ac achyddwr 139ii, Peniarth MS 139iii, Peniarth MS 176. Dengys y rhain ei fod yn gwybod achau teuluoedd Cymru benbaladr. Ond arbenigrwydd pennaf Gruffudd Hiraethog yw mai arno ef o'r holl feirdd traddodiadol y gwelir amlycaf ddylanwad y Dadeni Dysg. Yr oedd ganddo flas at bethau heblaw hel achau a chanu mawl yn y dull traddodiadol. Ysgrifennodd eiriadur Cymraeg, gyda dyfyniadau o weithiau'r beirdd i egluro'r
  • GRUFFUDD LLWYD ab IFAN (fl. c. 1564), bardd Nid oes dim o'i hanes ar gael, ond ymddengys oddi wrth un o'i gywyddau mai gŵr o sir Fôn ydoedd. Ceir peth o'i waith mewn llawysgrifau, ac yn ei blith gywyddau i'r Doctor Elis Prys o Blas Iolyn (NLW MS 1247D (22)), Ieuan ap Sion ap Maredudd o Fryncyr (NLW MS 5282B (49), a Tudur ap Rhobert o Ferain (NLW MS 6495D (118b, 120 - yn llaw'r bardd, y mae'n debyg)). Heblaw'r canu moliant a marwnad, cadwyd
  • GRUFFYDD ap GWENWYNWYN (d. 1286 neu 1287), arglwydd Powys Uchaf bod yn alltud am yr ail waith hefyd (1257). Yr oedd yn amlwg mai yn erbyn ei ewyllys - a cholli ohono hefyd diroedd Cyfeiliog a oedd yn gorwedd ar ochr ogleddol yr afon Dyfi - y cytunodd, yn 1263, i drosglwyddo ei wrogaeth i Llywelyn a chydweithredu â chynllun hwnnw i sefydlu tywysogaeth ffiwdalaidd Gymreig. Parhaodd y trefniant hwn, a gadarnhawyd yng Nghytundeb Trefaldwyn (1267), hyd 1274, blwyddyn
  • GRUFFYDD ap IEUAN ap LLYWELYN FYCHAN (c. 1485 - 1553), bardd ac uchelwr ap Howel), a Syr Roger Salusbury, Llewenni, yn yr 'eisteddfod' a gynhaliwyd er mwyn 'graddio' ac 'urddo' beirdd, etc. Am hanes y llawysgrif o Bum Llyfr Moses a welodd yr esgob Richard Davies yn nhŷ 'hen ewythr' iddo (William Salesbury sydd yn dywedyd mai Gruffydd ap Ieuan oedd yr 'hen ewythr') gweler y llyfr gan D. R. Thomas y cyfeirir ato (fel rheol) o dan y teitl byr - Davies and Salesbury
  • GRUFFYDD ap LLYWELYN (d. 1244), tywysog gogledd Cymru fod yn llidio oblegid mai hanner-brawd, David II, mab Joan, a edrychid arno i fod yn unig olynydd i Llywelyn. Yng Nghymru 'r Canol Oesoedd, gallai mab cydnabyddedig, serch ei fod yn anghyfreithlon yn ôl y safonau arferol, obeithio herio un arall a bod yn weddol sicr y câi gymorth y cyhoedd yn hynny. Nid oedd ym mwriad Llywelyn, fodd bynnag, nacâu rhoddi iddo awdurdod yn rhyw ran o'r wlad os profai y
  • GRUFFYDD ap MADOG (d. 1191) a Ial (Brwmffild a Ial); at hyn ychwanegodd yntau Nanheudwy yn ddiweddarach, ac, ar farw Owen Fychan yn 1187, diroedd Cynllaith a Mochnant isaf. Ar wahân i Benllyn ac Edeirnion yr oedd felly wedi aduno gogledd Powys, er mai ei fab hynaf, Madog, a roes ei enw i'r adran hon o'r wlad a alwyd bellach yn Powys Fadog. Priododd ei gyfnither, Angharad, merch Owain Gwynedd, a bu iddo ddau fab - Madog ac
  • GRUFFYDD ap RHYS (c. 1090 - 1137), tywysog Deheubarth Rhys i delerau â Harri a rhoddwyd iddo dir yng nghymwd Caeo. Oddigerth am gyfnod byr yn 1127 pryd y bu'n alltud yn Iwerddon am yr eiltro, ymddengys i Gruffydd dreulio bywyd tawel yn y Deheubarth hyd ar ôl marw Harri. Yno, y mae'n ddiau, y ganed Maredudd a Rhys, ei feibion o Gwenllian, merch Gruffydd ap Cynan; y mae'n debyg mai meibion o uniad cynharach oedd Anarawd a Chadell. Cymerth ran flaenllaw yn
  • GRUFFYDD, ROBERT GERAINT (1928 - 2015), ysgolhaig Cymraeg a'r gramadegydd ansad hwnnw o'r ddeunawfed ganrif, William Owen Pughe, ond er mor sylfaenol y gwahaniaeth crebwyll ysgolheigaidd rhwng Geraint Gruffydd ac yntau, eto mewn rhyw ffordd ddirgel bron, ymglywai Geraint â galwad ymchwil ac ysgolheictod yn Egryn a mawrygai mai yno y bu dechrau'r daith. Ymhen ychydig flynyddoedd symudodd y teulu i fferm ymchwil arbrofol Pwllpeiran, Cwm Ystwyth, yng ngogledd
  • GRUFFYDD, WILLIAM JOHN (1881 - 1954), ysgolhaig, bardd, beirniad a golygydd damcaniaeth John Rhys mai o'r cwpled elegeiog Lladin y tarddodd yr englyn unodl union (yn groes i farn J. Morris-Jones yn Cerdd Dafod). Yn 1931 ymddangosodd Y Flodeugerdd Gymraeg, sef detholiad o gerddi rhydd o'r cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a'r 20fed ganrif. Y mae'r rhagymadrodd yn ddiddorol am ei fod yn egluro cryn lawer ar syniad y golygydd am hanfod barddoniaeth. Cyhoeddwyd dwy ddarlith ganddo ar ffurf
  • GRYFFYTH, JASPER (d. 1614), clerigwr warden ysbyty Rhuthyn, caplan yr archesgob Bancroft, casglwr llawysgrifau Ni wyddys ddim manylion am ddechrau ei yrfa nac am ei gwrs addysg. Ymddengys mai brodor o Gegidfa, ger y Trallwng, ydoedd; yr oedd ganddo eiddo yno, a gadawodd arian i dlodion y plwyf hwnnw i'w rhannu gan ei frawd Robert. Yr oedd yn ŵr o ddysg ac ysgrifennai ei enw mewn llythrennau Hebraeg yn ei lawysgrifau. Daeth o dan nawdd Gabriel Goodman, deon Westminster, sefydlydd ysbyty Crist, Rhuthyn, a