Search results

397 - 408 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

397 - 408 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, DAVID JACOB (1916 - 1974), gweinidog, llenor a darlledwr dychanol a'i ddefnydd o dafodiaith gyfoethog. Bu'n olygydd Yr Ymofynnydd, cylchgrawn misol Yr Undodiaid o 1949 tan ei farw, yn ogystal â bod yn olygydd y Pensioner of Wales am ddeunaw mlynedd o 1955. Colled enfawr i'r teulu oedd marwolaeth eu mab Amlyn yn ddeunaw oed yn 1965 tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth. Roedd Jacob wedi cynnwys soned o waith Amlyn, 'un o blant Aberdâr', yn y gyfrol Cyfoeth Cwm a
  • DAVIES, DAVID JAMES (1893 - 1956), economegydd Ganwyd 2 Mehefin 1893 yng Nghefn-y-mwng, bwthyn yn ymyl pentref Carmel, Sir Gaerfyrddin, y 3ydd o blant Thomas Davies, glöwr, a'i wraig Ellen (ganwyd Williams). Wedi mynychu ysgolion lleol (hyd 1907) a dilyn dosbarthiadau nos a gohebol, bu'n gweithio mewn amryw byllau glo a Doc y Barri (1907-12) cyn ymfudo i T.U.A. a Chanada (a chyfnodau yn Tsieina a Siapan), lle bu'n mwyngloddio, gan sefydlu'r
  • DAVIES, DAVID JAMES LLEWELFRYN (1903 - 1981), cyfreithiwr academaidd Ganwyd Llewelfryn Davies ar 27 Mehefin 1903 yn Llanfihangel Rhos-y-Corn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Samuel Davies (ganwyd 1873), ffermwr, a'i wraig Mary (ganwyd Evans). Ef oedd yr hynaf o dri o blant; ganwyd ei chwaer Lizann Castle yn 1905 a'i frawd Samuel Hywel yn 1910. Ar ôl mynychu Ysgol Gwernogle ac Ysgol Coleg Dewi Sant dechreuodd Llewelfryn (fel y cyfeirid ato gan amlaf) astudio'r gyfraith
  • DAVIES, DAVID JOHN (1870 - ?), arlunydd Ganwyd 16 Mawrth 1870 yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, mab i farcer. Cafodd addysg rydd yn Ysgol Gelf Kidderminster, a chafodd gymorth casgliad cyhoeddus a wnaethpwyd yn Llandeilo i fynd i Antwerp i astudio am ddwy flynedd. Agorodd stiwdio yn Llanelli a bu yno am bedair blynedd gan gael D. Pugh, A.S., yr Arglwydd Dynevor, yr Arglwydd Emlyn, Mansel Lewis, a Mrs. Gwynne Hughes, Tregyb, Llandeilo, yn
  • DAVIES, DAVID JOSHUA (1877 - 1945), dramodydd . Priododd ag Annie Davies o Geinewydd yng nghapel St. Paul, Aberystwyth, 6 Ebrill 1904 a chodi teulu o bedwar o blant. Daliodd swyddi pwysig yn ei enwad (Y Wesleaid) a'r cyngor sir lle daeth yn gadeirydd y pwyllgor addysg. Ysgrifennodd lawer i'r wasg leol ar bynciau gwleidyddol, ond ei fri mwyaf oedd ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918 am ei ddrama Maes y Meillion. Erys ei ddrama
  • DAVIES, DAVID LLOYD (Dewi Glan Peryddon; 1830 - 1881), bardd, datganwr, etc. Bethesda, sir Gaernarfon, 1867, am awdl ar ' Tywyllwch.' Cyhoeddwyd yn Yr Amserau (o dan y ffugenw ' Dewi Einion') rai englynion a gyfansoddodd pan nad oedd ond 16 oed. Yr oedd ganddo ddawn at gyfansoddi dychangerddi a phethau difyrrus eraill, a gwelir llawer o'i waith o'r math hwn yn Y Wasg Americanaidd; bu'n golygu ' Lloffion Difyrus ' y papur hwnnw, a rhoes hefyd yn ' Cwpwrdd Cornel ' yr un papur
  • DAVIES, DAVID RICHARD (1889 - 1958), diwinydd, newyddiadurwr a chlerigwr Cafodd ei eni 9 Chwefror, 1889, ym Mhontycymer, sir Forgannwg, y trydydd o bedwar o blant, dau fab a dwy ferch, Richard a Hannah Davies (née Bedlington Kirkhouse). Roedd ei chwaer ifancaf, Annie Davies yn un o dair merch ifanc a fyddai'n canu yn ymgyrchoedd Evan Roberts yn ystod diwygiad 1904-05. Glöwr oedd ei dad, ond pan oedd David yn 8 oed symudodd y teulu i Glydach yng Nghwm Tawe pan
  • DAVIES, DAVID TEGFAN (1883 - 1968), gweinidog (A) Ganwyd 27 Chwefror 1883 yn nhyddyn Capel Bach, plwyf Abergwili, Sir Gaerfyrddin, a'i fagu yno gan ei dad-cu a'i fam-gu, Dafydd a Hannah Dafis. Iddynt hwy, a phobl ardal Peniel, yr oedd yn ddyledus am yr iaith fyw a chyhyrog a siaradai, yn llawn ymadroddion a hen eiriau a gollwyd o'r iaith lafar bellach. Aeth o'r ysgol yn was fferm Rhyd-y-rhaw, Peniel. Derbyniwyd ef yn aelod yng nghapel Peniel (A
  • DAVIES, DAVID THOMAS (1876 - 1962), dramodydd Cymraeg fel Robert Griffith Berry, J.O. Francis a William John Gruffydd. Lluniodd nifer o ddramâu hir a mwy fyth o ddramâu byrion ac ymhlith ei weithiau pwysicaf y mae Ble ma fe? (1913), Ephraim Harris (1914), Y pwyllgor (1920), Castell Martin (1920) a Pelenni Pitar (1925). Torrodd dir newydd gyda'r dramâu hyn drwy roi portread ffyddlon o fywyd a'i feirniadu'n onest. Bu bri arbennig ar ei weithiau yn
  • DAVIES, DAVID THOMAS FFRANGCON (1855 - 1918), datganwr athro cerddorol oedd William Shakespeare, a oedd hefyd yn awdurdod ar y llais. Yn 1889 priododd Annie Francis Rayner, ac ymwelodd y ddau â chartref Clara Novello Davies yng Nghaerdydd; wedi clywed Ffrangcon Davies yn canu sicrhaodd John Davies, gŵr Clara Novello, ymrwymiadau iddo mewn cyfres o gyngherddau, ac yng Nghaerdydd y dechreuodd ar ei yrfa broffesiynol. Yn 1888 ymunodd â chwmni Carl Rosa a
  • DAVIES, DAVID VAUGHAN (1911 - 1969), anatomydd Ganwyd David Vaughan Davies ar 28 Hydref 1911 yn Dolfonddu, Cemais, Sir Drefaldwyn, mab ieuengaf Joshua Davies (1873-1964), ffermwr, a'i wraig Mary (g. Ryder, 1876-1950). Aeth i Ysgol Sir Tywyn yn 1924, ac yn 1931 aeth ymlaen i Goleg y Brifysgol, Llundain fel 'exhibitioner' ac yna i Ysgol Feddygol Ysbyty Coleg y Brifysgol wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Ferriere. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn
  • DAVIES, DEWI ALED EIRUG (1922 - 1997), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr Ganwyd yng Nghwmllynfell, 5 Chwefror 1922, yn un o wyth plentyn Thomas Eirug Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr yno ac wedi 1926 yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd ei fam Jennie yn ferch i R.H. Thomas, gweinidog (MC) Llansannan. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Peterwell, Llanbed, ac yn Ysgol Sir Aberaeron. Oherwydd ei safiad yn erbyn rhyfel adeg Rhyfel Byd 2, torrwyd ar ei yrfa academaidd pan