Search results

373 - 384 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

373 - 384 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, CLEMENT EDWARD (1884 - 1962), gwleidydd Ganwyd 19 Chwefror 1884 yn Llanfyllin, yr ieuengaf o saith plentyn Moses Davies, arwerthwr, ac Elizabeth Margaret (ganwyd Jones), ei wraig. Addysgwyd ef yn yr ysgol elfennol leol ac enillodd ysgoloriaeth i ysgol sir Llanfyllin pan agorwyd hi yn 1897. Aeth i Gaergrawnt ac ymaelodi yn Neuadd y Drindod. Cafodd ddosbarth I yn nwy ran y tripos yn y gyfraith yn 1906-07 ac ennill nifer o wobrwyon. Bu'n
  • DAVIES, DAFYDD GWILYM (1922 - 2017), gweinidog, darlithydd a Phrifathro Coleg y Bedyddwyr , ac Ysgol Sir Aberteifi. Yn ddwy ar bymtheg oed teimlodd ei fod yn cael ei alw i'r weinidogaeth ymhlith y Bedyddwyr, a threuliodd y blynyddoedd rhwng 1941 a 1952 yn ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth, yng Ngholeg y Bedyddwyr a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Mansfield yn Rhydychen. Enillodd radd B.A. (Economeg) cyn ennill gradd B.A. (Groeg Clasurol), ac wedyn radd B.D. - gradd uwch
  • DAVIES, DAN ISAAC (1839 - 1887), un o arloeswyr dysgu Cymraeg yn yr ysgolion penodwyd ef yn arolygydd cynorthwyol ar ysgolion; symudwyd ef yn 1870 i Cheltenham ac yn 1877 i Fryste. Yn 1882 penodwyd ef i gynorthwyo William Edwards (1851 - 1940) yn rhanbarth Merthyr Tydfil, ond nid cyn 1883 y symudodd i Gymru - i Gaerdydd. Yr oedd ei alltudiaeth wedi cryfhau ei gariad at ei iaith, a bellach awyddai i'r Gymraeg gael ei dysgu (nid ei harfer yn unig) yn yr ysgolion. Yn yr union adeg
  • DAVIES, DANIEL (Y Dyn Dall; 1797 - 1876), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganed ym Moelfre, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, 15 Tachwedd 1797. Yn 1803 symudodd ei dad i Ferthyr Tydfil ac yn 1804 amddifadwyd y bachgen Daniel o'i olygon gan y frech wen. Bu'n gweithio yng ngwaith Guest, Merthyr, am bum mlynedd cyn ei dderbyn i sefydliad y deillion yn Lerpwl yn 1815. Yno dysgodd grefft a siarad Saesneg. Dychwelodd yn 1817 a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid, ond
  • DAVIES, DANIEL (1756 - 1837) Felinfoel Ganwyd 24 Ebrill 1756 yn Bwlchmelyn, Cenarth. Wedi gwasnaethu ar ffermydd yn y cylch aeth i Cynwyl i gynorthwyo Hywel Hywels, barcer, am gyfnod. Pan yn 15 oed dysgodd wau, a bu'n, gweithio mewn ffatrïoedd yng Nghynwyl, Ffynnonhenri (lle y bedyddiwyd ef), ac Eglwyswrw. Dechreuodd bregethu yn 1780 yn Ffynnonhenri, priododd yn 1782, a chartrefodd yn Dolwen, Cynwyl. Urddwyd ef a Nathaniel Williams ym
  • DAVIES, DANIEL JOHN (1885 - 1970), gweinidog (A) a bardd . Ordeiniwyd ef yng Nghapel Als, Llanelli, yn 1916 - heddychwr pybyr yng nghanol y Rhyfel Mawr. Meddai ar ddaliadau radicalaidd cryf, yn wleidyddol a diwinyddol; ond nid un o feibion y daran ydoedd. Cododd chwech o fechgyn Capel Als i'r weinidogaeth, ac un cenhadwr a fu'n gweithio yn y Swdan. Enillodd ar y cywydd bedair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol Dywedodd R. Williams Parry, mewn sylwadau ar ei
  • DAVIES, Syr DANIEL THOMAS (1899 - 1966), ffisigwr ' Gastric secretions of old age ' a gyhoeddodd ar y cyd â Lloyd James yn glasur. Cyhoeddodd nifer o lyfrau meddygol, gan gynnwys gwaith safonol ar niwmonia a llyfrau ar glwyfau yn y stumog a diffyg gwaed. Yr oedd yn gymrawd o'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol. Yn 1938 penodwyd ef yn feddyg i'r teulu brenhinol gan ddod yn feddyg i'r Brenin George VI ac yn ddiweddarach i'r Frenhines a pharhaodd yn feddyg i
  • DAVIES, DAVID (Dafi Dafis, Rhydcymerau; 1814 - 1891), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 24 Awst 1814 yn Llwydcoed ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, mab David ac Eleanor Davies. Cafodd ychydig addysg a dilynodd grefft ei dad (turniwr). Symudodd gyda'i rieni i Rydcymerau yn lled ieuanc. Dechreuodd bregethu yn 1834; ordeiniwyd ef yn 1880. Bu'n briod ddwywaith, (a), â Margred, merch Coed Iarll, Llansawel, Morgannwg; (b), â Mary Evans, Tir-Ifan-ddu, merch i hanner-brawd Thomas
  • DAVIES, DAVID (1741 - 1819), awdur o'r wlad. Ymysg y rhai hyn yr oedd manylion ynghylch tri theulu ym mhlwyfi Llandegla a Llanarmon yn sir Ddinbych a dau deulu ym mhlwyfi Llanfair a Llanycil yn Sir Feirionnydd. Yr oedd felly yn arloeswr yn y gwaith o gasglu defnyddiau tuag at lunio cyllidebau teuluol. Ceir ffrwyth ei ymchwil wedi ei argraffu fel atodiad i'w The Case of Labourers … 1795, ac ail argraffiad, wedi ei dalfyrru (London
  • DAVIES, DAVID (1794 - 1856), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr mab Benjamin Davies (a fu farw 1816), gweinidog cyntaf eglwys y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Aeth i athrofa'r Fenni yn 1818, yn 18 oed (J. Rufus Williams, Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr - ond deil ' Iorwerth Ceitho ' iddo gael ei eni yn 1794). Ar ôl dwy flynedd yn y Fenni, aeth i Goleg Stepney. Yn 1822 urddwyd ef yn weinidog cynorthwyol yn Evesham, a bu wedyn yn weinidog llawn yno hyd 1837, pan alwyd ef
  • DAVIES, DAVID (1763 - 1816), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Llangeler, Sir Gaerfyrddin 12 Mehefin 1763, yn fab i dafarnwr; ni chafodd ysgol ond ysgol y pentre (ymhell ymlaen ar ei fywyd, pan oedd yn Abertawe, cafodd ganiatâd ei eglwys i fwrw pedwar mis yn academi Hackney); priododd yn llanc, a chafodd chwech o blant. Tua'r 20 oed, ymunodd (fel Christmas Evans) â chynulleidfa Arminaidd-Ariaidd Penrhiw; ond yn bur fuan troes at Annibynwyr
  • DAVIES, Syr DAVID (1792 - 1865), meddyg farchog gan y frenhines Victoria yn gynnar ar ôl iddi esgyn yr orsedd. Priododd, 8fed o Chwefror 1819, Letitia Maria, merch John Williams ('Yr Hen Syr'), ysgolfeistr ysgol Ystrad Meurig. Bu iddynt bedwar mab - (a) Samuel Price, (b) Syr Robert Henry, (c) Thomas, a (d) William. Bu'r meddyg farw yn Lucca yn yr Eidal, 2 Mai 1865, a chladdwyd ef yn Biarritz.