Search results

409 - 420 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

409 - 420 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAVIES, EDWARD (Iolo Trefaldwyn; 1819 - 1887), eisteddfodwr a bardd Ganwyd ym Moel-y-frochas, yn ymyl Llanfyllin, Sir Drefaldwyn. Ei rieni oedd yr aelodau cyntaf ymysg y Methodistiaid Calfinaidd yn Rhos-y-brithdir. Cafodd ychydig addysg yn ysgol Morris Davies, Llanfyllin, ond gorfu iddo ddychwelyd adref i weithio ar y tir. Yn fuan gadawodd y fferm a mynd i weithio i chwarel Llangynog, ac oddi yno i waith plwm Rhyd-y-mwyn. Bu am ysbaid yn Lerpwl, yn gwerthu glo
  • DAVIES, EDWARD (1796 - 1857), gweinidog ac athro Annibynnol Ganwyd 13 Mawrth 1796 yn Ashton (Sir Amwythig), ond magwyd yn Wrecsam a bu mewn ysgol ramadeg yng Nghaer; cafodd ffafr yng ngolwg William Williams o'r Wern (1781 - 1840), a'i hanogodd i bregethu. Aeth i academi Llanfyllin, ar y pryd dan George Lewis (1763 - 1822), yn 1817; yn 1818 penodwyd ef yn ddisgybl-athro, ac yn 1819 yn athro'r clasuron; daeth Sara, merch George Lewis yn wraig iddo. Yn 1821
  • DAVIES, EDWARD (1756 - 1831), clerigwr ac awdur llyfrau Ganwyd 7 Mehefin 1756 mewn fferm o'r enw Hendre Einion ym mhlwyf Llanfaredd yn sir Faesyfed. Fe'i haddysgwyd gan amryw offeiriaid yng nghymdogaeth ei gartref, ac yn 1774 bu am flwyddyn yn ysgol ramadeg Aberhonddu. Yna bu'n ysgolfeistr yn y Gelli (sef Hay), ac yn 1779 fe'i hurddwyd yn ddiacon. Bu'n gwasanaethu fel curad mewn amryw leoedd yn y cyffiniau hynny. Yn 1783, cafodd le fel athro yn ysgol
  • DAVIES, EDWARD (1827 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., ac awdur Ganwyd yn ninas Efrog Newydd, mab i William a Catherine Davies (o Lanuwchllyn, Sir Feirionnydd) a symudodd yn 1829 i Bethel, gerllaw Remsen, talaith Efrog Newydd. Ymbaratodd ar gyfer y weinidogaeth o dan ofal Morris Roberts, Remsen; fe'i hordeiniwyd yn 1853 a bu'n gofalu am eglwys Annibynnol Gymraeg Waterville am 17 mlynedd - bu hefyd am saith mlynedd yn gofalu am eglwysi Annibynnol Saesneg yn
  • DAVIES, EDWARD OWEN (1864 - 1936), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur . Astudiodd ymhellach yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen, ac ym mhrifysgolion Bonn, Heidelberg, Gottingen, a Kiel. Ordeiniwyd ef yn 1894, a bu'n fugail ar eglwys Gymraeg Garston, Lerpwl, o 1893 hyd ei ddewis yn athro mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg Diwinyddol y Bala yn 1897, lle yr arhosodd am 10 mlynedd. Yn 1904, priododd Mary Gwendoline, merch William a Catherine Jones, Tyrol, Aigburth Drive, Lerpwl. Yn 1910
  • DAVIES, EDWARD TEGLA (1880 - 1967), gweinidog (EF) a llenor Ganwyd 31 Mai 1880, yn yr Hen Giât, Llandegla-yn-Iâl, Sir Ddinbych, y pedwerydd o chwe phlentyn William a Mary Ann Davies. Chwarelwr oedd ei dad, a anafwyd yn ddrwg yn y Foel Faen ond a ddaliodd i weithio yno ac wedyn yn chwarel galch y Mwynglawdd, rhag cyni. Yn 1893 symudodd y teulu i Bentre'r Bais (Gwynfryn) ac yn 1896 i Fwlch-gwyn. Yn 14 oed dechreuodd Edward yn ddisgybl-athro yn ysgol
  • DAVIES, EDWIN (1859 - 1919), golygydd a chyhoeddwr , archdeacon William Coxe, 1904. Yn 1905, golygodd a chyhoeddodd A General History of the County of Radnor, wedi'i gasglu ynghyd o nodiadau yn llawysgrif Jonathan Williams a ffynonellau eraill (cyhoeddwyd argraffiad lawer llai ohono gan R. Mason, Dinbych-y-pysgod, yn 1859). Gweithiau eraill o bwys a gyhoeddwyd gan Davies oedd: The Birds of Breconshire, E. C. Phillips, 1899; Theophilus Jones, F.S.A
  • DAVIES, ELIZABETH (1789 - 1860), gweinyddes yn y Crimea Merch i Ddafydd Cadwaladr. ganwyd 24 Mai 1789, bedyddiwyd yn Llanycil 26 Mai. Daw'r cwbl a wyddom am ei gyrfa o'r Autobiography of Elizabeth Davis (dwy gyfrol, 1857), sef nodiadau o sgyrsiau gyda hi gan Jane Williams, Ysgafell. Wedi marw ei mam (tua 1795-6), a than ofal chwaer hyn nas hoffai, ystyfnigodd Elizabeth yn fore. Derbyniwyd hi ar aelwyd Simon Lloyd o Blas-yn-dre, perchen tyddyn ei thad
  • DAVIES, ELLIS (1872 - 1962), offeiriad a hynafiaethydd Worcester a chychwynnodd ei astudiaethau ar gyfer gradd M.A. (1911). Bu hefyd yn gaplan Coleg Iesu ac Ysbyty Radcliffe. Penodwyd ef yn ficer Llanddoged, Sir Ddinbych yn 1909 a rheithor Chwitffordd, sir Fflint yn 1913, lle y bu nes iddo ymddeol yn 1951. I gydnabod ei wasanaeth hir ac ymroddedig i'r Eglwys cafodd ganoniaeth yn Llanelwy 1937-46, a bu'n ganghellor yr esgobaeth 1944-47. Er iddo gyfansoddi
  • DAVIES, ELLIS WILLIAM (1871 - 1939), cyfreithiwr a gwleidydd Ganwyd 12 Ebrill 1871 yn y Gerlan, Bethesda, mab David Davies, swyddog chwarel, a'i wraig Elizabeth (Williams), Tyddyn Sabel, Bethesda. Cafodd ei addysg yn Ysgol Carneddi, Bethesda, yn Liverpool College ac mewn ysgol breifat yn Lerpwl. Ar ôl chwe blynedd fel clarc mewn swyddfa yswiriant yn Wrecsam a Sheffield fe ymroes i'w gymhwyso ei hun i fod yn gyfreithiwr. Yn yr arholiad terfynol yn 1899
  • DAVIES, EMLYN (1907 - 1974), gweinidog (Bed.) ac athro diwinyddiaeth Ganed Emlyn Davies, yr ieuengaf o chwe phlentyn Edwin a Mary Jane Davies, yn Froncysylltau, Sir Ddinbych, ar 23 Ebrill 1907. Enwau ei chwiorydd a'i frawd oedd Annie, Nellie, Sarah, Alice a John. Fforman oedd y tad yng ngwaith brics a theils Trefynant, Rhiwabon. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Froncysylltau, cyn symud ymlaen i Ysgol y Sir yn Llangollen. Yn 1925 derbyniwyd ef i Goleg y
  • DAVIES, EVAN (fl. 1720-50), almanaciwr yn byw ym Manafon, Sir Drefaldwyn. Cyhoeddodd gyfres o almanaciau - Newyddion Mawr Oddiwrth y Sêr. Ymddangosodd y cyntaf, efallai, am y flwyddyn 1738, a'r trydydd am 1741. Argraffwyd hwy yn Amwythig gan T. Durston. Cynhwysant farddoniaeth dda a pheth gwybodaeth hanesyddol. Erbyn heddiw nid yw Evan Davies fawr mwy nag enw ac y mae ei almanaciau'n brin.