Search results

373 - 384 of 984 for "Mawrth"

373 - 384 of 984 for "Mawrth"

  • JONES, DAFYDD (Dafydd Siôn Siâms; 1743 - 1831), cerddor, bardd, a llyfr-rwymwr Binder o'r Penrhyndeudraeth.' Canodd farwnad ei wraig gyntaf, Elisabeth Thomas, yn 1786, ac un ei ail wraig, Jane Hugh, yn 1796. Bu ef farw ar 30 Mawrth 1831, a chladdwyd ef ym mynwent capel Nazareth, Penrhyndeudraeth.
  • JONES, DAFYDD RHYS (1877 - 1946), ysgolfeistr a cherddor mis Mawrth 1906 gadawodd Gwmystwyth a dychwelyd i Batagonia i fod yn brifathro cyntaf yr ysgol ganolradd yno. Rai wythnosau ynghynt ymwelsai Eluned Morgan â'r ysgol yng Nghwmystwyth ac annerch y disgyblion yno. Mae'n debyg fod cysylltiad rhwng yr ymweliad hwn â phenodiad y prifathro i'r ysgol yn y Gaiman, lle y treuliodd wyth mlynedd yn fawr ei lwyddiant a'i ddylanwad. Yn 1914 yr oedd yn ôl ym
  • JONES, DANIEL (1771 - 1810), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol Undodaidd rhydd-gymunol Trowbridge. Bu farw yno 14 Mawrth 1810, yn ei 40fed flwydd.
  • JONES, DANIEL (1725? - 1806), bardd amheus mai ef a gyfieithodd i'r Gymraeg ran o lyfr y Dr. John Gill Exposition of the Revelation of St. John fel y dywedir yn Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, iii, 67. Yn ôl NLW MS 325E (39) 'roedd dros ei 80 mlwydd oed pan fu farw tua diwedd 1803, ond yn ôl cofnodion swyddogol Esgobaeth Llanelwy ar 10 Mawrth 1806 y claddwyd ef o'r elusendy yn Rhiwabon.
  • JONES, DANIEL OWEN (1880 - 1951) Madagascar, gweinidog (A) a chenhadwr ac ysgol. Priododd 1 Mai 1912 yn Eglwys Goffa Faravohitra, Antananarivo â Hilda Victoria Smith, aelod o Eglwys Loegr yn Watford, a hwyliasai allan ym Mawrth i'w briodi. Bu iddynt bedair merch. Symudwyd ef i Ambopotsy yn 1915 i ofalu am gylch eang o eglwysi a darlithio dri bore o'r wythnos yn y Coleg Diwinyddol Unedig. Daeth ei seibiant cyntaf yng Nghymru ar ben deng mlynedd. Wedi iddo ddychwelyd
  • JONES, DAVID (c. 1630 - 1704?), ficer Llanbadarnfawr yn 1658, a'i droi allan yn 1662. Bu fyw yn ddigon hir yn y Coedmor, Pencarreg, i'r enw hwnnw lynu wrtho. Cafodd drwydded gyffredinol i bregethu, 28 Hydref 1672. Enwir ef yn rhestr Henry Maurice, 1675, fel unig weinidog eglwys Sir Aberteifi. Ysgrifennai Howel Harris yn Llangeitho, 28 Mawrth 1743, iddo gael ' much sweetness in hearing a farewell sermon of one David Jones, 1691, being turned out
  • JONES, DAVID MORRIS (1887 - 1957), gweinidog (MC) ac Athro Ganwyd 14 Mawrth 1887 ym Maes-y-groes, Maenan, Sir Gaernarfon, mab William Maurice ac Elisabeth Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac ysgol rad Llanrwst, Coleg y Brifysgol, Bangor (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Cymraeg ac athroniaeth), Coleg y Bala, a Chaergrawnt. Ymunodd â'r fyddin yn 1915, ond galwyd ef adref o Salonica yn 1916 i gael comisiwn fel caplan i'r catrodau Cymreig yn Ffrainc
  • JONES, EDGAR (1912 - 1991), gweinidog, bugail ac ysgolhaig Ganwyd Edgar Jones yn fab i lowr yn Ynys-hir, Rhondda, 11 Mawrth, 1912. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref ac Ysgol Sir y Bechgyn, y Rhondda, yn y Porth. Bu rhaid iddo ymadael â'r ysgol a mynd i weithio yn y lofa leol, ond parhaodd i astudio, gyda'r bwriad o fynd i'r weinidogaeth. Cafodd addysg bellach yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle enillodd B.A. gydag anrhydedd mewn Hebraeg, a Choleg Coffa
  • JONES, EDMUND (1702 - 1793), pregethwr Annibynnol ac awdur misoedd Mawrth ac Ebrill 1738 yn Ebwy Fawr (yn Tyllwyn, y mae'n debyg); ar yr amgylchiad hwnnw y dychwelwyd y rhai a ddaeth wedi hynny yn arweinwyr Methodistiaeth yn sir Fynwy, yn enwedig John Powell a M. J. Lewis. Er ei fod yn teimlo'n gyfeillgar tuag at Harris ofnai Edmund Jones y byddai i gynnydd Methodistiaeth ymysg Anghydffurfwyr beri i lawer ohonynt gael eu tynnu i'r Eglwys Sefydledig fel y
  • JONES, EDMUND OSBORNE (1858 - 1931), clerigwr Mawrth 1931. Priododd yn 1886 Ada Howells, a bu iddynt dri mab (collwyd dau yn rhyfel 1914-8) ac un ferch. Yn 1896 cyhoeddodd Welsh Lyrics of the Nineteenth Century, ac yn 1906 Welsh Poets of Today and Yesterday (cyfieithiadau o'r Gymraeg).
  • JONES, EDWARD (Bardd y Brenin; 1752 - 1824), telynor, trefnydd a chyhoeddwr cerddoriaeth i'r delyn, casglwr a chyhoeddwr hen benillion, alawon cenedlaethol, a chyfieithiadau i'r Saesneg, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac offerynnau cerdd y Cymry, casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Ganwyd yn Henblas, Llandderfel, Sir Feirionnydd, a'i fedyddio 29 Mawrth 1752, pedwerydd plentyn John a Jane Jones o naw o blant. Dywedir bod y tad yn gerddor galluog, yn fedrus ar ganu amryw o offerynnau, yn delynor, a gwneuthurwr telynau. Hyfforddwyd rhai o'r plant ganddo i ganu gwahanol offerynnau, a pharatowyd Edward ar gyfer galwedigaeth gerddorol. Ymddiddorodd yn gynnar mewn barddoniaeth ac
  • JONES, EDWARD (1761 - 1836) Maesyplwm,, bardd, amaethwr, ac athro ysgol Ganwyd yn Nhan-y-Waen, Prion, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, 19 Mawrth 1761, yn fab i John Jones, amaethwr, a'i wraig Ann, ferch William Williams, Rhyd-y-Cilgwyn. Pan oedd ef tua blwydd oed symudodd y teulu i fyw ym Mryn-y-gwynt-isaf yn yr un plwyf. Bu'r tad farw pan oedd ef tua 10 oed. Ychydig o ysgol a gafodd, a hynny dan Daniel Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr yn Ninbych, ond gwnaeth ei orau i'w