Search results

385 - 396 of 990 for "Mawrth"

385 - 396 of 990 for "Mawrth"

  • JONES, EDMUND OSBORNE (1858 - 1931), clerigwr Mawrth 1931. Priododd yn 1886 Ada Howells, a bu iddynt dri mab (collwyd dau yn rhyfel 1914-8) ac un ferch. Yn 1896 cyhoeddodd Welsh Lyrics of the Nineteenth Century, ac yn 1906 Welsh Poets of Today and Yesterday (cyfieithiadau o'r Gymraeg).
  • JONES, EDWARD (Bardd y Brenin; 1752 - 1824), telynor, trefnydd a chyhoeddwr cerddoriaeth i'r delyn, casglwr a chyhoeddwr hen benillion, alawon cenedlaethol, a chyfieithiadau i'r Saesneg, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac offerynnau cerdd y Cymry, casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd Ganwyd yn Henblas, Llandderfel, Sir Feirionnydd, a'i fedyddio 29 Mawrth 1752, pedwerydd plentyn John a Jane Jones o naw o blant. Dywedir bod y tad yn gerddor galluog, yn fedrus ar ganu amryw o offerynnau, yn delynor, a gwneuthurwr telynau. Hyfforddwyd rhai o'r plant ganddo i ganu gwahanol offerynnau, a pharatowyd Edward ar gyfer galwedigaeth gerddorol. Ymddiddorodd yn gynnar mewn barddoniaeth ac
  • JONES, EDWARD (1761 - 1836) Maesyplwm,, bardd, amaethwr, ac athro ysgol Ganwyd yn Nhan-y-Waen, Prion, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, 19 Mawrth 1761, yn fab i John Jones, amaethwr, a'i wraig Ann, ferch William Williams, Rhyd-y-Cilgwyn. Pan oedd ef tua blwydd oed symudodd y teulu i fyw ym Mryn-y-gwynt-isaf yn yr un plwyf. Bu'r tad farw pan oedd ef tua 10 oed. Ychydig o ysgol a gafodd, a hynny dan Daniel Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr yn Ninbych, ond gwnaeth ei orau i'w
  • JONES, EDWARD (1749 - 1779), cerddor Ganwyd yn Dolydd-byrion, ger Cricieth, Sir Gaernarfon. Cyfansoddodd lawer o donau ac anthemau a adawodd mewn llawysgrif ar ei ôl. Daeth ei anthem, ' Arglwydd, chwiliaist ac adnabuost fi,' yn hynod boblogaidd. Trefnodd William Owen, Tremadog, yr anthem, ac fe'i ceir fel y trefnodd ' Ieuan Gwyllt ' hi yn Y Cerddor Cymreig, rhif 107 a 108, a llythyr parthed ei hawduriaeth yn rhifyn Mawrth 1870 o'r Y
  • JONES, EDWARD (1826 - 1902), awdur Y Gymdeithasfa, 1891, llyfr defnyddiol iawn ar hanes y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru . Rhoes ei ysgol i fyny yn 1879, a symud i Fangor, gan ymaelodi yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Hirael. Priododd yr eilwaith, â merch i John Owen, Ty'nllwyn (1808 - 1876). Yn 73 oed, aeth i fyw i'r Felinheli; bu farw 1 Mawrth 1902, a chladdwyd ym mynwent y Tai-duon, Pant Glas. Heblaw nifer o lawlyfrau at wasanaeth yr ysgolion Sul, a'i brif waith a enwyd uchod, dylid enwi ei Hanes Dechreuad a
  • JONES, ELIZABETH MAY WATKIN (1907 - 1965), athrawes ac ymgyrchydd fyddai'n boddi Cwm Tryweryn gan gynnwys pentref Capel Celyn. 'Pobl swil a gwylaidd' oedd aelodau ei chyn-gymdogaeth, meddai Elizabeth mewn cyfweliad â'r Daily Herald ym mis Tachwedd 1956, a 'wnaethon nhw ddim byd pan glywson nhw gyntaf am y cynllun hwn. Ond fe'i prociais i nhw. Rŵan, maen nhw'n ddig'. Un ymgyrchydd ydoedd ymhlith amryw a ymffurfiodd yn Bwyllgor Amddiffyn Capel Celyn ar 23 Mawrth 1956. Yn
  • JONES, EVAN (TALFRYN) (1857 - 1935), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 26 Mai 1857 ym Moel-y-crio, Helygain, Sir y Fflint, yn unfed ar ddeg o 12 plentyn Evan a Mary Jones. Methodistiaid oedd ei rieni, ond ymunodd ef ag eglwys y Bedyddwyr yn Ainon, Pont-y-gof; bedyddiwyd ef 24 Mawrth 1872, a dechreuodd bregethu yn 1878. Aeth i ysgol yn Llangollen yn 1879, ac yn 1880 i athrofa'r Bedyddwyr yno. Bu'n fugail Pont-y-gof (1881), Penrhyn-coch (1882), Blaen-y-waun
  • JONES, EVAN (Ieuan Gwynedd; 1820 - 1852), gweinidog a newyddiadurwr gwelwyd ei fod yn anaddas i'r gwaith. Rhwng 1836 a 1839 bu'n ceisio cadw ysgol yn Brithdir, Rhydymain, Llanwddyn, a Phenybontfawr. Methiant fu pob ymgais oherwydd diffyg cefnogaeth. Dechreuodd bregethu yng nghapel Sardis, Llanwddyn, 18 Mawrth 1838. Ym Mai 1839 cafodd le fel athro yn ysgol Dr. Daniel Williams ym Mangor, ond yn Hydref y flwyddyn honno penderfynodd fynd yn ddisgybl i ysgol y Parch. J
  • JONES, EVAN (1790 - 1860), y diwethaf o siapanwyr Brynbuga yn borthfaer). Yr oedd yn gyfaill mynwesol i Edward John Trelawny (1792 - 1881) - gweler y D.N.B. - pan oedd hwnnw'n byw yn Twyn Bell, gerllaw Brynbuga ar stad Cefn Ila (1840-58). Yr oedd Evan Jones yn ymddiriedolwr eglwys Annibynnol Twyn. Bu farw 12 Mawrth 1860, ac fe'i claddwyd yn Twyn. Gadawsai ei waith siapanio i'w nith Elizabeth Jones. Priododd hi Philip John Pulling yn 1869, gwerthodd y stoc
  • JONES, EVAN DAVID (1903 - 1987), llyfrgellydd ac archifydd , Aberystwyth, ar 7 Mawrth 1987. Y diwrnod cyn ei farwolaeth ddisymwth yr oedd wedi cerdded i'r dref i siopa. Yr oedd cerdded yn dal yn bleser iddo, ei gerddediad yn sionc o hyd, ac i un â'i hoffter ef o gymdeithasu yr oedd taith siopa yn y dref lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes â digon i'w gynnig. Y diwrnod hwnnw fe gludodd adref o siop y rhwymwr barsel trwm o lyfrau newydd eu rhwymo, rhy drwm ym marn ei
  • JONES, FRANCIS WYNN (1898 - 1970), ystadegydd a llenor Ganwyd yn Branas Lodge, Llandrillo, Meirionnydd, 15 Ionawr 1898, yn ail o bedwar mab Thomas Francis a Catherine (ganwyd Edwards) Jones. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol ramadeg y Bala. Oddi yno aeth i Lundain yn un ar bymtheg oed i weithio fel hogyn o glerc yn Swyddfa'r Post, cyn ymuno â'r fyddin yn 1916. Ym mis Mawrth 1918 fe'i rhestrwyd ymhlith y rhai oedd yn swyddogol ar goll, ond ymhen
  • JONES, GARETH RICHARD VAUGHAN (1905 - 1935), newyddiadurwr sgrifennu ar gyfer y Western Mail. Roedd yn Leipzig ar 30 Ionawr 1933 pan ddaeth Hitler yn Ganghellor, a theithiodd i Berlin lle cafodd gyfle i gwrdd ag ysgrifennydd Hitler a'i wahodd i hedfan gyda'r Fuhrer yn ei awyren breifat i rali yn Frankfurt. Dyna sail ei ysgrif 'With Hitler across Germany' a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 28 Chwefror 1933. Ym Mawrth 1933 aeth Jones i'r Undeb Sofietaidd i weld