Search results

349 - 360 of 984 for "Mawrth"

349 - 360 of 984 for "Mawrth"

  • JAMES, JAMES (Iago Emlyn; 1800 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd ymneilltuodd i fyw yn Clifton, Bryste, ble, ar 4ydd Mawrth 1844, y priododd Jane Mince yn Eglwys Plwyf Clifton. Yn ôl cyfrifiad 1861 bu'n cadw tŷ llety yn 14 Frederick Place, Clifton, gyda'i wraig, ond ym 1871, dim ond ei wraig a'i chwaer ddi-briod, Maria Mince, recordiwyd o dan y cyfeiriad hwn. Bu farw 5 Ionawr 1879 a chladdwyd ef ym Mryste. Yr oedd yn ysgolhaig medrus, ac yn fardd o gryn fri. Cyhoeddwyd
  • JAMES, JAMES (Iago ap Iago; 1818 - 1843), prydydd Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, 14 Mawrth 1818, mab James James, masnachwr. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ac yn breifat. Er yn wannaidd ei iechyd ymroddodd i astudio ac ystyrrid ef yn ieithydd da. Bu farw 30 Gorffennaf 1843 yn 25 oed. Yn y mesurau rhydd yr ysgrifennodd ei farddoniaeth, ac ymddangosodd darnau o'i waith, ynghyd ag erthyglau, yn yr Eurgrawn a chylchgronau eraill
  • JAMES, JOHN (1777 - 1848), gweinidog y Bedyddwyr, emynydd, rhwymwr llyfrau, ac argraffydd Ganwyd yn Aberystwyth 29 Awst 1777, yn blentyn hynaf o wyth i James David John ac Elizabeth Jones. Bedyddiwyd ef yno 27 Mawrth 1796, ac ymaelododd yn eglwys Bethel. Prentisiwyd ef, fel ei dad, yn grydd, ond ym Medi 1799, dechreuodd bregethu, ac wedi cwrs o addysg yn Aberteifi ac Aberystwyth fe'i hordeiniwyd yn gyd-weinidog â Samuel Breeze ar Bethel a'i changhennau. Wedi cyfnod o weithgarwch
  • JAMES, JOHN (1815 - 1869), bardd ac emynydd yn aelod gyda'r Wesleaid yn Nhregolwyn. Bu farw Mawrth 1869, a'i gladdu ar y 19eg o'r mis yn Nhregolwyn.
  • JAMES, ROBERT (Jeduthyn; 1825 - 1879), cerddor Ganwyd 7 Mawrth 1825 yn Aberdâr, mab Morgan ac Ann James. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau Rosser Beynon. Meddai lais da, a dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Bethesda, Merthyr, yn 1845. Sefydlodd gymdeithas gerddorol ac enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd y gymdeithas Organ y Cysegr, sef casgliad o alawon cysegredig wedi eu trefnu gan Robert James. Yr
  • JAMES, THOMAS EVAN (Thomas ab Ieuan; 1824 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur Ganwyd 17 Mawrth 1824, ym Mhencraig, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, mab Evan a Mary James. Symudodd y teulu i Aberteifi pan oedd ef tua 13 oed. Bu am beth amser yn was fferm Heolcwm, plwyf Ferwig, Sir Aberteifi. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bu'n gwasanaethu yn anordeiniedig yn eglwys Groesgoch, Sir Benfro (1851-2). Urddwyd ef, a gwnaed ef yn weinidog Pontestyll, ger Aberhonddu (1853-6). Bu hefyd
  • JAMES, WILLIAM (1833 - 1905), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 15 Mawrth 1833, yn fab i Thomas ac Anne James, Tynrhos, Llanfihangel-genau'r-glyn. Bu hyd 15 oed yn ysgol ramadeg y pentre (lle y cafodd Lewis Edwards yntau ei ysgol); yna bu'n fugail ar dir ei dad. Bwriadai ei dad iddo fod yn lledrwr yn Aberaeron, ond mynnai crefyddwyr capel y Garn iddo fynd yn bregethwr, gan ei fod mor weithgar yn yr ysgol Sul a chyda chaniadaeth y capel. Felly anfonwyd
  • JANNER, BARNETT (BARWN JANNER), (1892 - 1982), gwleidydd ddilyn y gyfraith fel gyrfa, ac fe'i herthyglwyd i Sidney, Jenkins a Howell, cwmni o gyfreithwyr yng Nghaerdydd, yn 1914. Ymunodd â'r Gwarchodlu Magnelwyr Brenhinol fel milwr cyffredin ar 2 Mawrth 1916, ond ni chafodd ei alw tan 7 Awst 1917, a gadawodd am Ffrainc ar y 24 o Dachwedd. Rai misoedd cyn diwedd y rhyfel dioddefodd effaith peleni nwy mwstard, ac achubwyd ei fywyd gan ymateb chwimwth cyd-filwr
  • JARDINE, DAVID (1732 - 1766), gweinidog Annibynnol ac athro academi bennaeth yr academi newydd yn y Fenni, 7 Mawrth 1757, a Benjamin Davies yn gynorthwywr iddo. Parhaodd Jardine yn weinidog yr eglwys yn y Fenni ac yn bennaeth yr academi hyd ei farwolaeth, 1 Hydref 1766. Priododd ferch y Parch. Lewis Jones, Penybont-ar-Ogwr. Yr oedd yn athro rhagorol a daeth amryw o'i fyfyrwyr yn oleuadau mawr ymhlith yr Annibynwyr.
  • JENKINS, ALBERT EDWARD (1895 - 1953), chwaraewr rygbi Ganwyd 11 Mawrth 1895 yn Llanelli, Caerfyrddin, a daeth yn eilun i'r dref. Blodeuodd ei alluoedd ar y cae rygbi pan chwaraeai fel cefnwr dros y ' 38th Division ' yn ystod Rhyfel Byd I. Fel canolwr y daeth i amlygrwydd dros glwb Llanelli. Yn ystod yr 1920au Llanelli oedd clwb mwyaf llwyddiannus y cyfnod, gyda gwŷr fel Dai John, Ernie Finch ac Ifor Jones yn ei rengoedd, ond ' Albert ' a'u
  • JENKINS, DAVID (1912 - 2002), llyfrgellydd ac ysgolhaig ap Gwilym ac adrodd hanes gosod cofeb i'r bardd ym Mrogynin. Y mae papurau ymchwil David Jenkins yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw David Jenkins yn Aberystwyth 6 Mawrth 2002 yn 89 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Horeb, Penrhyn-coch 9 Mawrth.
  • JENKINS, DAVID ARWYN (1911 - 2012), bargyfreithiwr a hanesydd Cyfraith Hywel Dda Ganwyd Dafydd Jenkins yn Llundain ar Wyl Ddewi, 1 Mawrth 1911, yn fab i William Jenkins, clerc banc a anwyd yn Bermondsey ond a ymfalchïai yn ei wreiddiau teuluol yn Sir Aberteifi ac a fu'n ysgrifennydd Capel Cymraeg Jewin yn Llundain, a'i wraig Elizabeth a anwyd yn Aberystwyth. Ei enw bedydd oedd David, ond dewisodd arddel yr enw Dafydd. Ganwyd ei chwaer hyn, Edith Nancy Jenkins ('Nansi') yn