Search results

325 - 336 of 984 for "Mawrth"

325 - 336 of 984 for "Mawrth"

  • HUGHES, JOHN (1615 - 1686), Jesiwit Ganwyd Mehefin 1615, mab ieuengaf Hugh Owen, Gwaenynog. Ymddengys iddo dreulio peth amser pan yn ieuanc gyda'i dad yng nghastell Rhaglan, ond ym mis Rhagfyr 1636 aeth fel myfyriwr i'r Coleg Seisnig yn Rhufain. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, 16 Mawrth 1640-1, a daeth i Loegr, 28 Medi 1643. Ymunodd â Chymdeithas yr Iesu yn Watten ger S. Omer, 1648, ac yn 1650 dychwelodd i Loegr i genhadu. Treuliodd
  • HUGHES, JONATHAN (1721 - 1805), bardd Ganwyd 17 Mawrth 1721 yn Pengwern ger Llangollen. Dywedir iddo ddechrau prydyddu yn 15 oed, a chynhyrchodd swm enfawr o farddoniaeth yn y dull a oedd yn gyffredin yn y 18fed ganrif, sef cerddi cynganeddol i'w canu ar alawon adnabyddus y dydd. Ceir carolau plygain a phethau eraill o'i waith yn almanaciau 'Philomath,' Cain Jones, ac eraill yn gyson o tua 1755 hyd ddiwedd y ganrif. Cyfansoddai hefyd
  • HUGHES, RICHARD SAMUEL (1855 - 1893), cerddor , dos ymlaen,' yn boblogaidd, a cheir tonau o'i waith yn y llyfrau tonau. Cyfansoddodd hefyd gantawd, ' Bugeiliaid Bethlehem.' Enillodd yn eisteddfod Wrecsam, 1876, am gyfansoddi pedwarawd llinynnol, ac am ganig i leisiau meibion yn 1888. Yr oedd yn feistr ar ganu'r piano, ac yn gyfeilydd rhagorol. Bu farw 5 Mawrth 1893, a chladdwyd ef ym mynwent Glanogwen, Bethesda.
  • HUGHES, ROBERT (1811 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd ym Modgared, Llanwnda, Arfon, 25 Mawrth 1811, yn fab i dyddynnwr a newidiodd ei dyddyn deirgwaith neu bedair ym more oes ei fab, ond a gartrefodd o'r diwedd ym Moelfre Fawr, Llanaelhaearn, lle y bu farw yn 95 oed. Ychydig iawn o ysgol (bu am dymor gyda 'Dafydd Ddu Eryri') a gafodd y bachgen, ond yr oedd yn gerfiwr medrus â'r gyllell dwca. Yn 1830, aeth gyda gyr o wartheg i Lundain, gan
  • HUGHES, ROBERT ARTHUR (1910 - 1996), meddyg cenhadol yn Shillong, Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India ac arweinydd dylanwadol yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar foreau Sadwrn. Foreau Mawrth a Iau byddai yn yr ysbyty o 7.30 y bore hyd 10.30 yr hwyr yn fynych. Digwyddai'r llawdriniaethau ar ddydd Llun, Mercher a Gwener o 8.30 y bore tan 8.00 yr hwyr. Er bod ganddo gynorthwywyr llawfeddygol o bryd i'w gilydd, tra bu yn y maes cenhadol ni dderbyniodd gymorth person wedi'i hyfforddi'n feddygol gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, er iddo wneud sawl cais
  • HUGHES, ROBERT GWILYM (1910 - 1997), bardd a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd . Derbyniodd alwad oddi yno i gapel Hyfrydle, Caergybi a symudodd yno ym Mawrth 1948. Cafodd gwmni nythaid o feirdd yng Nghaergybi yn cynnwys Huw Ll. Williams, O. M. Lloyd, Alun Puleston Jones, J. O. Jones (Hyfreithon), a dod yn bennaf ffrindiau gyda'r cyfreithiwr lleol, Cledwyn Hughes, a ddaeth yn Aelod Seneddol Llafur Môn yn etholiad 1951. Teithiodd y tri Hughes, Cledwyn, Gwilym ac R. Griffith Hughes
  • HUGHES, ROWLAND (1811 - 1861), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 6 Mawrth 1811 yn y Bala, a magwyd ef yn Nolgellau. Wedi ychydig addysg elfennol, prentisiwyd ef yn deiliwr. Yn 1830 aeth yn bregethwr cyflogedig i Ferthyr Tydfil; wedi ei dderbyn i'r weinidogaeth gwasanaethodd gylchdeithiau Caernarfon (1832), Biwmares (1834), Lerpwl (1836), Holywell (1838), Llanasa (1840), Lerpwl (1843), Bangor (1846), Merthyr Tydfil (1849), Crughywel (1852), Manceinion
  • HUGHES, ROYSTON JOHN (BARWN ISLWYN), (1925 - 2003), gwleidydd bont, ac yn ei gefnogaeth gynnar i'r ail groesiad. Gan iddo arwain yr ymgyrch am ail bont, galwodd nifer ar ôl ei farwolaeth am enwi'r bont ar ei ôl. O ran Cymru gyfan, yr oedd yn lled gefnogol i'r cynnig datganoli, er y priodolwyd hyn i'w anghytundebau ag Alan Williams, aelod Gorllewin Abertawe, a oedd yn gwrthwynebu datganoli. Apwyntiwyd ef yn ddirprwy lefarydd am Gymru ym Mawrth 1984, ond
  • HUGHES, WILLIAM (1757 - 1846), gweinidog gyda'r Annibynwyr, emynydd, a cherddor tonau ganddo, yn Y Dysgedydd. Bu farw 9 Mawrth 1846; yn 1858 cododd eglwysi Annibynnol y sir gistfaen ar ei fedd ym mynwent y llan yn Llanwnda.
  • HUGHES, WILLIAM (1849 - 1920), clerigwr ac awdur Ganwyd ym Mangor 11 Chwefror 1849, mab David Hughes, capten llong, ac Elizabeth, ei wraig. Addysgwyd yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Bu'n gurad Glasinfryn, 1872-5, yn gaplan yr eglwys Gymraeg yng Nghaer, 1875-80, ac yn ficer Llanuwchllyn o 1880 hyd ei farwolaeth yno 29 Mawrth 1920; priododd Mary Thomas, a chafodd amryw blant. Yr oedd yn awdur hanesyddol hynod ddiwyd; y pwysicaf o'i
  • HUGHES, WILLIAM BULKELEY (1797 - 1882), Aelod Seneddol briodas ydoedd Sarah Elizabeth, a hi a etifeddodd y stad pan fu farw ei thad, 8 Mawrth 1882, yn 84 mlwydd oed.
  • HUGHES, WILLIAM JOHN (GARETH HUGHES; 1894 - 1965), actor perfformiadau mewn theatrau, ysgolion, eglwysi a sefydliadau yn Los Angeles. Gorfodwyd ef i ymddeol o'r prosiect oherwydd salwch a gorflinder ym mis Mawrth 1939. Yn 1941, wedi iddo deimlo awydd mawr iawn i wasanaethu Duw, bedyddiwyd ef yn Eglwys St Athanasius, Los Angeles a derbyniodd fedydd esgob gan yr Esgob Stevens. Roedd yn benderfynol o gael ei urddo'n offeiriad ac fe'i derbyniwyd yn ymgeisydd i