Search results

337 - 348 of 1867 for "Mai"

337 - 348 of 1867 for "Mai"

  • EDWARDS, ROBERT (1796 - 1862), cerddor mai Robert Edwards oedd ei hawdur. Bu farw yn 1862, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield.
  • EDWARDS, THOMAS (Twm o'r Nant; 1739 - 1810), bardd ac anterliwtiwr Amgueddfa Brydeinig. Yr oedd Twm o'r Nant yn gystadleuydd amlwg yn yr eisteddfodau cyntaf a gynhaliwyd o dan nawdd Cymdeithas y Gwyneddigion. Yng Nghorwen ym Mai 1789 methodd y beirniaid benderfynu rhwng ei waith ef ac eiddo Jonathan Hughes a 'Gwallter Mechain', a gofynnwyd i'r Gwyneddigion dorri'r ddadl. Barnasant hwy Walter yn orau, ond yr oedd David Samwel yn pleidio Twm ac anfonodd ysgrifbin arian
  • EDWARDS, THOMAS (Caerfallwch; 1779 - 1858), geiriadurwr . Evans, MDCCL). Mae yn hwn luoedd o eiriau a luniodd ef ei hun i gyfateb i dermau newydd yn y gwahanol wybodau yn Saesneg. Ymhen can mlynedd ar ei ôl ceisir gwneud yr un peth gan bwyllgorau. Ymddengys mai 'Caerfallwch' ei hun a greodd y gair 'pwyllgor' ('from pwyll, deliberation; and cor, assembly, company'). Yr oedd 'Caerfallwch' yn un o'r aelodau o eglwys Jewin (Llundain) a fwriwyd allan gan
  • EDWARDS, THOMAS (1652 - 1721), clerigwr ac ysgolhaig Coptaidd ficer Badby, swydd Northampton, o 1690 hyd 1708, ac yna'n rheithor Aldwinckle All Saints hyd ei farwolaeth 5 Medi 1721. Ymddengys mai dau waith yn unig a gyhoeddodd - A Discourse against Extempore Prayer (8vo, Llundain, 1703), gwaith y cyfeiriwyd ato gan Edward Calamy yn y fath fodd fel ag i'w gynhyrfu i ysgrifennu Diocesan Episcopacy proved from Holy Scripture …(8vo, Llundain, 1705).
  • EDWARDS, WILLIAM (1719 - 1789), gweinidog Annibynnol a phensaer mab, WILLIAM, mewn brwydr yn Gibraltar. Thomas a David a wnaeth bont Casnewydd-ar-Wysg, a gwplawyd yn 1801; gwnaethant bontydd Llandeilo, Edwinsford, Betws, etc., hefyd. Ychydig a ysgrifennodd Edwards; cyhoeddwyd chwech o'i emynau yn 1747. [Tybir bellach mai William Edwards o Gwm-du, sir Frycheiniog, oedd awdur yr emynau hyn, gweler cofiant H. P. Richards isod.]
  • EDWARDS, WILLIAM (Gwilym Padarn; 1786 - 1857), bardd Brodor o Llanberis, Sir Gaernarfon, lle y gweithiai fel chwarelwr. Enillodd gryn fri fel bardd, a chyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth yn 1829 dan y teitl 'Eos Padarn', yn cynnwys cyfansoddiadau ar gyfer yr eisteddfodau taleithiol yn Wrecsam, Caernarfon, ac Aberhonddu (1820-2). Gan mai ei gyfiawnhad dros gyhoeddi oedd sicrhau 'i ryw ranau o'm llafur fod ar gôf a chadw: ac na byddai i'r cyfan fyned i
  • EDWARDS, Syr WILLIAM RICE (1862 - 1923), llawfeddyg a chyfarwyddwr cyffredinol gwasanaeth meddygol India Ganwyd yng Nghaerlleon, sir Fynwy, 17 Mai 1862, mab y canon H. Powell Edwards. Addysgwyd ef yn Ysgol Coleg Madlen, Rhydychen, Coleg Clifton, a'r London Hospital. Enillodd radd M.D. yn 1886, a'r flwyddyn honno ymunodd â gwasanaeth meddygol India fel llawfeddyg, a gweithio yn nhalaith Bengal. Yn 1890, fe'i penodwyd yn llawfeddyg personol i'r arglwydd Roberts, ac arhosodd gydag ef am bedair blynedd
  • EDWARDS, WILLIAM THOMAS (Gwilym Deudraeth; 1863 - 1940), bardd Ganwyd 21 Tachwedd 1863 mewn tŷ yn rhesdai Hen Walia, Caernarfon, yn un o 12 plentyn William a Jane Edwards, a symudodd i Benrhyndeudraeth i fyw. Cafodd ychydig addysg yn yr ysgol elfennol eithr arferai ddweud mai yn yr ysgol Sul y cafodd yr addysg orau. Gan fod ei dad yn gapten llong a bod ei frodyr hefyd ar y môr, bwriadodd yntau fynd yn llongwr, ond cafodd ddigon o'r môr ar ôl un fordaith
  • EDWIN (d. 1073), arglwydd Tegeingl (h.y. cymydau Rhuddlan, Coleshill, a Prestatyn), a 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd.' Bu Tegeingl yn rhan o frenhiniaeth Seisnig Mercia am dros dair canrif, h.y. nes ailgoncweriwyd hi gan Ddafydd ab Owain Gwynedd yn y 12fed ganrif. Mewn rhai achau dywedir fod Edwin yn or-or-wyr i Hywel Dda ac mai Ethelfleda, merch Edwin, brenin Mercia, oedd ei fam. Priododd Iwerydd, chwaer Bleddyn ap
  • EDWIN family LLANFIHANGEL, MORGANNWG papers, No. VIII). Mewn ffynhonnell Forafaidd priodolir y 'penodiad' i'w chwaer-yng-nghyfraith (uchod) Catherine Edwin (gweler Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1935, 19-22), ond y mae'n sicr mai cymysgu sydd yma. Gadawodd Charles Edwin stad Llanfihangel i'w chwaer ANN (EDWIN), a briododd â THOMAS WYNDHAM, o Clearwell yn sir Gaerloyw. Yr oedd y Wyndhamiaid hyn wedi pwrcasu (1642) castell
  • EINION ap COLLWYN (fl. 1100?) y gŵr y cytuna hen draddodiadau iddo, wedi ffraeo â Iestyn ap Gwrgant, wahodd y Normaniaid i oresgyn Morgannwg. Ffigur hanner-chwedlonol yw ef, ac y mae'n awgrymog fod o leiaf dair stori am ei dras. Dywed un ei fod yn fab i Gollwyn ap Gwaethfoed o Geredigion; un arall mai mab oedd i Gadifor ap Collwyn o Ddyfed; ond yn ôl beirdd fel Lewis Glyn Cothi a Gwilym Tew, gŵr o Wynedd ydoedd, a ddaeth i
  • EINION ap GWALCHMAI (fl. 1203-23), bardd waith bu iddo ran amlwg ym mywyd llys, ond 'gwedi gwasanaeth y penaetheu' y mae'n teimlo mai addfwynach yw moli Duw, a 'gwyn eu byd fyneich fewn eglwyseu.' Dymuna ddiweddu ei ddyddiau yn Enlli, ac y mae awgrym mewn cerdd dduwiol arall o'i waith iddo droi'n fynach, oblegid dywed: 'Cadwn freint deweint, canys defawd …. Na chysgwn, canwn canon arawd.' Y mae ei ganu crefyddol, fel ei farwnad i Nest, yn