Search results

289 - 300 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

289 - 300 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • CYFFIN, ROGER (fl. c. 1587-1609), bardd Ceir amrywiol fanylion amdano; e.e. yn Enwogion Foulkes rhoir ef yn berson Llanberis yn 1571; yn Panton MS. 58 (87) rhoir ef yn foneddwr o Swydd y Waun; yn Llanofer MS. B. 2 (602) ceir nodyn, yn llaw 'Iolo Morganwg,' yn dweud ei fod yn ŵr o sir Ddinbych, curad yn Nhreffleming ac yn rhywle yn Sir Gaerfyrddin, ac yn berson Llanberis yn rhan olaf ei fywyd. Nid oes unrhyw brawf i'r uchod, ac un o'i
  • CYNAN ab IAGO (d. 1060?), tywysog a alltudiwyd mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd
  • CYNAN ap HYWEL (d. 1242?), tywysog ymuno â William Marshall pan oedd yr iarll yn goresgyn y De; bu'n anrheithio Is-Aeron a roddwyd wedi hynny yn ei feddiant, a chafodd Emlyn ac Ystlwyf (rhwng Cynin a Chywyn) yn dâl am ei gymorth. Ar 18 Tachwedd hysbysodd y brenin ddarfod i Gynan dalu gwrogaeth am ei dreftadaeth briod ac nad oedd neb i amharu arno. Yr oedd yn dal tiroedd yn Ne Cymru ym Mehefin 1225, pryd y rhoddwyd comisiwn i Lywelyn
  • CYNDDELW BRYDYDD MAWR (fl. 1155-1200), pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif Cyfeirir ato gan feirdd o'r ddwy ganrif ddilynol (The Myvyrian Archaiology of Wales, 111 A, 164 A, a 204 B) fel un o brif feistri'r canu mawl i dywysogion. Canai ar fesurau awdl ac englyn. Geilw'r gramadegwyr fesur clogyrnach yn 'ddull Cynddelw,' ac ef hefyd oedd y cyntaf hyd y gwyddom i wneud defnydd helaeth o fesur englyn unodl union. Gwelir dau draddodiad yn cyfarfod yn ei waith, sef y canu
  • CYNDEYRN, sant Coffeir y sant hwn yn Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin. Yn ôl achrestrau'r cyfnod canol diweddar yr oedd yn fab i Sant Cyngar ap Garthog ap Ceredig ap Cunedda Wledig. Dethlid ei wyl ar 25 Gorffennaf, yn ôl yr hen ddull. Heddiw cynhelir y ffair yn gysylltiedig â'i wyl ar 5 a 6 Awst yn Llangyndeyrn. Ni ddylid cymysgu rhwng ei dad, Cyngar, a'r sant Cyngar / Docwin / Dochau.
  • CYNGAR (fl. 6ed ganrif), sant enw nawddsant eglwys Llangefni ym Môn ac eglwys yr Hôb yn Sir y Fflint. Dywed ail 'fuchedd' Cyngar Sant mai yr un oedd ef â Doccuinus Sant, ond mae'n amheus a oes rheswm digonol dros dderbyn hyn yn derfynol. Anrhydeddir Cyngar Sant hefyd yng Ngwlad yr Haf, yng Nghernyw, ac yn Llydaw. Fel canlyniad i ddryswch rhwng mwy nag un sant yn dwyn yr enw hwn, enwir 7 a 27 Tachwedd fel dydd gŵyl Cyngar Sant.
  • CYNIDR (fl. 6ed ganrif), sant Gadog Sant. Y tebygolrwydd yw mai Cynidr Sant yw'r Keneder y sonnir amdano ym 'muchedd' Cadog fel un o'r seintiau a gefnogai Gadog yn ei anghydfod â'r brenin Arthur. Dengys yr hanes mai yn sir Frycheiniog y gwnaeth Cynidr ei brif waith, ac yno ceir fod eglwysi Llangynidr, Aberysgir, Llanywern, Cantref, a'r Clas-ar-Wy i gyd ar y cychwyn wedi eu henwi arno. Gwelir olion traddodiad Cynidr hefyd yn
  • CYNLLO (fl. 550?), sant enghraifft o sefydlydd mynachaidd na wyddys ddim amdano ond y bu iddo bwysigrwydd lleol dros ran helaeth o'r wlad. Ni cheir mo'i enw yn nhestunau hynaf ' Bonedd y Saint,' eithr efe oedd nawddsant Nantmel, Llangynllo, Llanbister, ac, efallai, Rhaeadr Gwy yn sir Faesyfed, a Llangynllo a Llangoedmor yn Sir Aberteifi. Pan ychwanegir eu capelau at yr eglwysi hyn fe welir i gylch dylanwad y sant
  • CYNOG (fl. 500?), sant yn ôl traddodiad, mab i Brychan, sefydlydd teyrnas Brycheiniog, a Banadlwedd, merch i un o frenhinoedd Powys. Ym Mrycheiniog y coffeir ef gan mwyaf - y mae Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn, Battle, Llangynog, a Merthyr Cynog i gyd o dan ei nawdd, a dywedir mai ym Merthyr Cynog y'i claddwyd. Cyflwynwyd eglwys Boughrood yn sir Faesyfed a Llangynog yn Sir Drefaldwyn hefyd iddo; bu iddo unwaith
  • CYNWAL, RICHARD (d. 1634), bardd o Faes y Garnedd(?), Capel Garmon, sir Ddinbych. Ac yntau'n fardd y mesurau caeth canodd y rhan fwyaf o'i gerddi i wahanol foneddigion Gogledd Cymru. Ymfalchïai yn arbennig yn ei swydd fel bardd teulu Plas Rhiwedog (ger y Bala), a chanwyd ymryson rhyngddo a Rhisiart Phylip am hyn. Canodd fawl Tomas Prys o Blas Iolyn a marwnad Sion Phylip o Ardudwy. Cyfansoddodd Rhisiart Phylip a Rowland Fychan
  • CYNWAL, WILIAM (d. 1587 neu 1588), bardd O Ysbyty Ifan, sir Ddinbych, disgybl i Ruffudd Hiraethog a disgybl pencerddaidd ail eisteddfod Caerwys (1568). Cadwyd nifer mawr o'i gerddi, yn y mesurau caeth gan mwyaf, a llawer ohonynt yn llawysgrif y bardd (e.e., NLW MS 3030B). Testunau ei farddoniaeth oedd mawl, marwnad, a gofyn i wahanol foneddigion Gogledd Cymru, crefydd, serch, dychan, ac ymryson. Yr enwocaf o'r ymrysonau yw'r un hir
  • CYNWRIG BENCERDD, telynor o Dreffynnon, Sir y Fflint. Efe oedd y prif gerddor yn eisteddfod fawr Caerfyrddin, 1451. Yn y The Myvyrian Archaiology of Wales ceir 'Dechrau Caniad Cynwrig Bencerdd.'