Search results

265 - 276 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

265 - 276 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • CONWY family Botryddan, Saeson oedd y Conwyaid o ran cyff, disgynyddion Syr William Coniers, ' Knight of War ', uchel gwnstabl Lloegr dan William Goncwerwr. Syr HENRI CONWY, mab-yng-nghyfraith Syr Huw Crevecœur, arglwydd Prestatyn, oedd y cyntaf i ymsefydlu yng Nghymru, ac etifeddwyd yr arglwyddiaeth honno gan ei fab, Richard. Yn wahanol i'w ragflaenwyr cafodd wyr hwnnw, SIANCYN CONWY (c. 1415 - ?1445,) mab Siôn Aer y
  • CONYBEARE, WILLIAM DANIEL (1787 - 1857), clerigwr a daearegwr Ganwyd 8 Mehefin 1787, mab rheithor S. Botolph's, Bishop's Gate, Llundain. Bu Conybeare yn rheithor Sully, sir Forgannwg, 1822-1835, ac yn ddeon Llandaf, 1845-1857. Fel daearegwr bu iddo ran bwysig yn y gwaith o sefydlu astudiaeth ffosylau ymlusgiaid o'r oesoedd cyntefig. Pan oedd yn Sully rhoes gymorth gyda gosod sylfeini'r wybodaeth o feysydd glo De Cymru; tynnodd sylw at y plyg gwrthorweddol
  • COOMBE TENNANT, WINIFRED MARGARET (Mam o Nedd; 1874 - 1956), cennad i gynulliad cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd, un o 'ferched y bleidlais, meistres gwisgoedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a chyfethrydd (medium) enwog Byd I yr oedd hi'n is-gadeirydd Pwyllgor Amaethyddol y Merched dros Sir Forgannwg a gwasanaethodd fel cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Rhyfel dros Gastell-nedd a'r cylch. Apwyntiwyd hi'n Ynad Heddwch yn 1920 ac eisteddodd ar fainc Sir Forgannwg - y wraig gyntaf i wasanaethu yno. O 1920 hyd at 1931, yr oedd yn un o'r Ymwelwyr Swyddogol i garchar Abertawe, ac yn gyfrifol am gyflawni rhai gwelliannau
  • COOMBES, BERT LEWIS (1893 - 1974), glöwr ac awdur bwerus, 'Twenty Tons of Coal' (1939). Wrth iddo siarad yn y cwest, sylweddolodd Coombes yn sydyn 'that neither coroner, solicitors, or hardly any one present had the least idea of what happens underground'. Roedd hyn yn drobwynt i'r glöwr, ac ysgrifennodd yn ddiweddarach mewn hunangofiant anghyhoeddedig, Home on the Hill (1959): 'I must do something to let the world know more about our way of life
  • COPPACK, MAIR HAFINA (1936 - 2011), awdur a cholofnydd Ganwyd Hafina Clwyd ar 1 Gorffennaf 1936 yng Ngwyddelwern, Merionnydd, yr hynaf o bedwar o blant Alun Jones (1907-1980), ffermwr, a’i wraig Morfydd (g. Jones, 1910-1971). Fe’i magwyd ar fferm Cefnmaenllwyd ac aeth i Ysgol Gwyddelwern ac Ysgol Ramadeg y Merched y Bala. Symudodd y teulu i Rydonnen ger Llandyrnog, sir Ddinbych, ym 1953, ac aeth Hafina i Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, am flwyddyn cyn
  • CORBET, Syr RICHARD (1640 - 1683), barwnig ac aelod seneddol Un o deulu CORBET o LEIGHTON, Maldwyn, mab i EDWARD CORBETT (a fu farw o flaen ei dad yn 1653), ac ŵyr i Syr EDWARD CORBET, y barwnig 1af. Addysgwyd ef yng Ngholeg Christ Church, Rhydychen, 1658. Bu'n aelod seneddol dros Amwythig, 1677-1681, ac yn gadeirydd y pwyllgor ar etholiadau. Yr oedd yn gyfaill mawr i'r arglwydd (William) Russell, a chredid bod dienyddiad hwnnw (1683) wedi prysuro ei
  • CORBETT, JOHN STUART (1845 - 1921), cyfreithiwr a hynafiaethydd Ganwyd 16 Mai 1845, mab hynaf John Stuart Corbett ac Elizabeth, merch James Evans, Gortha, sir Faesyfed; daethai'r tad i Gaerdydd yn 1841 yn stiward dros ei berthynas, ail ardalydd Bute. Cafodd ei addysg yn Cheltenham. Pasiodd yn gyfreithiwr yn 1867, a bu'n gweithredu fel y cyfryw yng Nghaerdydd gyda phartner; bu'n glerc i fainc ynadon Llandaf am gyfnod. Priododd (1872) Blanche, merch James
  • CORY family drefydd, ac i lu mawr o sefydliadau dyngarol a diwylliannol; dywedid ei fod ar un adeg yn cyfrannu tua £50,000 y flwyddyn at wahanol achosion. Dadorchuddiwyd, yn 1905, gerflun ohono, gwaith Syr William Goscombe John, o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Priododd (19 Medi 1854) Anna Maria, merch John Beynon, Casnewydd-ar-Wysg, perchennog glofeydd. (Bu hi farw yn 1909.) Bu iddynt ferch, FLORENCE
  • COSLET, EDWARD (1750 - 1828), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd ym Machen, Mynwy, yn 1750. Cafodd dröedigaeth dan weinidogaeth William Edwards; ymunodd ag eglwys y Groeswen yn 1769 a dechreuodd bregethu. Symudodd i Gasbach tua 1776, a daeth i gyswllt â Blanche Evans, Llaneurwg, a'i cyflwynodd i sylw David Jones, Langan, a'r seiat yno. Bu'n offeryn i sefydlu tri achos Methodistaidd, sef Casbach, Llaneurwg, a'r Morfa. Bu farw yn 1828. Gof ydoedd wrth ei
  • COSLETT, COSLETT (Carnelian; 1834 - 1910), glöwr a bardd Ebrill 1910 ym Mhontypridd, a chladdwyd ef ym mynwent Y Groes Wen, lle, yn ddiweddarach, yr adeiladwyd cofgolofn iddo (llun yn Cymru, O.M.E., xliii, 229). Yr oedd ei frawd hynaf, WILLIAM COSLETT (Gwilym Elian, 1831 - 1904), swyddog mewn glofa, yn fardd hefyd. Trechodd Islwyn mewn llawer eisteddfod, ond ni fu yntau erioed yn llwyddiannus mewn eisteddfod genedlaethol. Bu ef farw 22 Medi 1904 yng
  • COSLETT, WILLIAM (1831 - 1904), swyddog mewn glofa - see COSLETT, COSLETT
  • COTTON, JAMES HENRY (1780 - 1862), deon eglwys gadeiriol Bangor ac addysgydd Ganwyd 10 Chwefror 1780, mab George Cotton, deon eglwys gadeiriol Caer, a Catherine, merch James Tomkinson, Dorfold Hall, Nantwich. Cafodd ei addysg yn ysgol Rugby a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Fe'i hordeiniwyd yn 1803, a bu'n gurad Stoke, 1803, a Thornton, sir Gaer, 1806. Fe'i dewiswyd yn rheithor Derwen, sir Ddinbych, 1809, yn is-ficer Bangor (trwy gyfnewid), ac yn brif gantor eglwys