Search results

277 - 288 of 486 for "Rhys"

277 - 288 of 486 for "Rhys"

  • MORRIS, DAVID (1787 - 1858), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cyhoeddwr gweithiau 'Pantycelyn' Ganwyd yn 1787, yn fab John ac Ann Morris, Melin Clun-hir, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin. Gŵr ieuanc ofer ydoedd nes ei argyhoeddi o dan weinidogaeth yr Annibynnwr Rhys Powel, Cross Inn. Ymunodd â'r Methodistiaid yn y Betws ond symudodd ymhen ychydig i gapel yr Hendre. Dechreuodd bregethu yno c. 1816, ond nis ordeiniwyd erioed. Ef, y mae'n debyg, oedd offeryn tröedigaeth Edward Matthews, Ewenni
  • MORRIS, EBENEZER (1769 - 1825), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn yr Henbant, Lledrod, Sir Aberteifi, yn 1769, yn fab hynaf yr enwog David Morris a Mary ei briod. Symudodd gyda'i dad i blwyf Tredreyr yn 1774, a chafodd ychydig addysg mewn ysgol a gedwid gan Daniel Davies, curad y plwyf. Aeth i gadw ysgol yn Nhrecastell, Brycheiniog, c. 1786, a chafodd argyhoeddiad ysbrydol yno dan weinidogaeth y cynghorwr Methodistaidd Dafydd William Rhys. Ymunodd â'r
  • MORRIS, Syr RHYS HOPKIN (1888 - 1956), gwleidydd a gweinyddwr Ganwyd 5 Medi 1888 ym Mlaencaerau, fferm yn Nhir Iarll, Morgannwg yn fab i John Morris, gweinidog Seion (A), Caerau, Maesteg, a Mary (ganwyd Hopkin) ei wraig. Gan fod ei gartref ymhell o ysgol cafodd ei addysg gynnar gan ei rieni. Cafodd le fel disgybl athro yn ysgol Glyncorrwg o dan Lewis Davies yn 1902. Collodd ei rieni yn 1904 a gofalwyd amdano ef a'i chwaer gan ei ewythr Rhys Hopkin. Yn 1910
  • MORRIS-JONES, Syr JOHN (MORRIS) (1864 - 1929), ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol Bodleian ac yn dilyn darlithiau John Rhys; yr oedd hefyd yn un o sylfaenwyr (6 Mai 1886) Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Yn Ionawr 1889 (wedi dal yn y cyfamser ysgoloriaeth i astudio Celteg) fe'i penodwyd yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg y Gogledd - rhoddwyd iddo gadair athro yn 1895. Priododd (1897) â Mary Hughes, Siglan, Llanfair; cawsant bedair merch. Urddwyd ef yn farchog yn 1918; cafodd LL.D. er
  • MORTIMER family Wigmore, ' ac yn darostwng ' Melenyth,' y ddau yn sir Faesyfed. Yn ystod y 12fed ganrif ymddengys oddi wrth y cyfeiriadau prin a geir fod llawer o ymladd rhwng y Mortimeriaid a'r Cymry. Yn 1144 ceir HUGH de MORTIMER yn ailennill Maelienydd ac Elfael, hyn yn awgrymu eu darostwng a'u colli rywbryd cynt, ac yn 1145 daliwyd a charcharwyd y tywysog Cymreig Rhys ap Howel ganddo. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am farw
  • MORTIMER, ROGER de (1256? - 1326), arglwydd y Waun (Chirk) trydydd mab Roger de Mortimer, chweched barwn Wigmore, a Matilda, ferch William de Braose. Cysylltwyd ef gyntaf â'r Waun yn 1282, pan roddwyd iddo diroedd Llywelyn Fychan, yn cynnwys yr ardal o amgylch y Waun. Effaith y rhodd hon oedd creu arglwyddiaeth newydd ar y Gororau. Galwyd arno i chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn gwrthryfel Rhys ap Maredudd, arglwydd Ystrad Tywi, 1287-8. Yng
  • NEST (fl. 1120), tywysoges yn Neheubarth Merch Rhys ap Tewdwr Fawr a Gwladus, ferch Rhiwallon ap Cynfyn. Tua'r flwyddyn 1100 priododd Gerald o Benfro, a bu o leiaf dri mab o'r uniad - William, Maurice, a David Fitzgerald - ynghyd â merch, Angharad, gwraig William de Manorbier a mam Gerallt Gymro. Y mae'n amlwg ei bod yn wraig nodedig o brydweddol a swynol; bu'n ordderch i amryw. Enillodd iddi ei hun enwogrwydd (neu, o'r hyn lleiaf
  • NICHOLAS, JOHN MORGAN (1895 - 1963), cerddor Ganwyd Morgan Nicholas ar 4 Mehefin 1895 ym Mhen-y-cae, Port Talbot, yr ieuengaf ond un o saith plentyn Rhys a Margaret Nicholas. Saer oedd y tad, cerddor da ac arweinydd y gân yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Saron, Pen-y-cae. Hanai ef o deulu sefydlog yn yr ardal y dywedid amdanynt eu bod yn ddisgynyddion i deulu o seiri a cherddorion Groegaidd a longddrylliwyd ar arfordir de Cymru yn y
  • NICHOLAS, WILLIAM RHYS (1914 - 1996), gweinidog ac emynydd Ganwyd W. Rhys Nicholas ar 23 Mehefin 1914 yn nhyddyn Pen-parc, Tegryn, Sir Benfro, y pumed o naw plentyn William Nicholas (bu farw 1933) a'i wraig Sarah. Cefnder i'w dad oedd y bardd-bregethwr T. E. Nicholas. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol a phan oedd yn 14 oed anfonwyd ef i Ysgol Ramadeg enwog John Phillips yng Nghastellnewydd Emlyn. Yn ystod ei gyfnod yno dioddefodd o'r diciáu, a'i
  • OSBWRN WYDDEL ac yn fyw yn 1108; ei wraig ef oedd Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Tybiai Robert Vaughan, Hengwrt (gweler Peniarth MS 6), i Osbwrn ddyfod i Gymru tua'r flwyddyn 1237 - nage, rai blynyddoedd yn ddiweddarach na hynny, meddai W. W. E. Wynne. Y mae prawf iddo gael ei drethu ym mhlwyf Llanaber (eithr nid treth blwyfol) yn y flwyddyn 1293 neu 1294; awgryma Wynne hefyd ei bod yn bosibl fod a fynnai ef
  • OWAIN ap GRUFFYDD (d. 1236), tywysog Deheubarth Cyd-aer, gyda Rhys Ieuanc, i Gruffydd, mab hynaf yr arglwydd Rhys. Matilda, merch William de Breos, oedd ei fam. Er ei fod dros dro, ar brydiau, yn gwrthwynebu Llywelyn I, eto cafodd ef a'i frawd noddwr a diffynnydd pwerus iddynt yn Llywelyn yn erbyn eu hewythredd - Rhys Gryg a Maelgwn. Yn y Cantref Bychan yr oedd y tiroedd a gafodd ef ar y cyntaf, eithr pan ailrannwyd tiroedd yr arglwydd Rhys yn
  • OWAIN CYFEILIOG (c. 1130 - 1197), tywysog a bardd Maredudd, o gyfeillgarwch â Lloegr, a glynodd yn bur gyson wrth y polisi hwn o hyn ymlaen. Yn 1167 ymosodwyd arno gan Owain Gwynedd a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth, cipiasant gwmwd Caereinion oddi arno a'i roi i Owain Fychan, ond enillodd Owain Cyfeiliog ef yn ôl yn fuan trwy gymorth y Saeson. Yn 1170 sefydlodd fynachlog Sistersaidd Ystrad Marchell. Cefnogodd y Saeson eto yn 1173, ac fe'i gwelid yng