Search results

1369 - 1380 of 1877 for "Mai"

1369 - 1380 of 1877 for "Mai"

  • PROTHERO, THOMAS (1780 - 1853), cyfreithiwr, perchennog glofeydd, a dinesydd dylanwadol yng Nghasnewydd, Mynwy mab Thomas Prothero, Brynbuga, atwrnai, clerc yr heddwch yn sir Fynwy, cofiadur Brynbuga, a stiward Dug Beaufort. Tybir mai plentyn siawns ydoedd, a bod cadarnhâd i hyn, oherwydd yng nghyfrifiad 1851 dywedodd iddo gael ei eni yn sir Fynwy, heb enwi'r plwyf. Yn gynnar yn ei oes daeth yn atwrnai yng Nghasnewydd a'i dderbyn yn ddinesydd 9 Hydref 1807; dridiau'n ddiweddarach fe'i penodwyd yn glerc
  • PRYCE, THOMAS MALDWYN (1949 - 1977), rasiwr ceir deithiodd Tom gyda'i dad i wylio Grand Prix Prydain yn Aintree, a'i arwr oedd y Pencampwr Byd o'r Alban, Jim Clark. Dywedir iddo yrru fan (oddi ar y ffordd) pan yn 10 oed; yn 12 oed dywedodd wrth ei rieni mai ei uchelgais oedd rasio ceir. Roedd yn dilyn cwrs amaethyddiaeth ym 1970 pan enillodd y Daily Express Crusader Championship ar gyfer gyrwyr ifanc, a'r wobr oedd car Fformiwla Ford a chefnogaeth i'w
  • PRYS, EDMWND (1544 - 1623), archddiacon Meirionnydd, a bardd yma, mae'n debyg, a barodd gychwyn y traddodiad anghywir mai yn y Gerddi Bluog, ger Harlech, yr oedd ei gartref. Gwnaed ef yn un o ganoniaid Llanelwy, 8 Hydref 1602. Ychydig o ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Ceir ei hanes yn ymryson gerbron Llys y Seren. Bu'n cynorthwyo'r esgob William Morgan gyda'r gwaith o gyfieithu'r Beibl. Anghywir yw'r traddodiad iddo ef gyfieithu'r salmau; yr hyn a
  • PRYS, ELIS (Y Doctor Coch; 1512? - 1594) Blas Iolyn, .' Byddai'n noddi'r beirdd, a'i enw ef yw y cyntaf ar restr ysgwieriaid yn y comisiwn a roddodd y frenhines Elisabeth i gynnal eisteddfod yng Nghaerwys yn 1567. Gwnaeth ei ewyllys ar 3 Awst 1590; ychwanegwyd ati ar 6 Mai 1594, a phrofwyd hi 24 Mai 1596 Bu farw 8 Hydref 1594. Mab iddo oedd y bardd Thomas Prys o Blas Iolyn.
  • PRYS, STAFFORD (1732 - 1784), gwerthwr llyfrau ac argraffydd yn Amwythig bedyddiwyd yn 1732, ail fab Stafford Price, M.D., a Mary (Evans) - y tad o deulu Pertheirin, plwyf Llanwnog, Sir Drefaldwyn, a'r fam o deulu Stradlingiaid S. Dunawd, Morgannwg. Prentisiwyd ef, 21 Tachwedd 1750, gyda Thomas Durston. Cafodd Stafford Prys ryddfreiniad y ' Combrethren of Saddlers,' Amwythig, 24 Mai 1758, y flwyddyn yr ymsefydlodd fel argraffydd a chanddo ei fusnes ei hun yn y dref
  • PRYS, THOMAS (1564? - 1634) Blas Iolyn,, bardd ac anturiaethwr ei gywyddau, e.e. ' Cywydd i ddangos mai Uffern yw Llundain.' Gwariodd lawer yno ar ymgyfreithio a bywyd ofer. Yn ei oes, yr oedd yn fardd o fri, a cheir ei weithiau yn B.M. Add. MS. 14872 (yn ei lawysgrifen ei hun, efallai); ceir llawer hefyd yn MSS. Peniarth, Mostyn, a Cefn Coch. Ar destunau traddodiadol y beirdd y canai; a cheir ganddo lawer o ganu serch a natur. Canodd lawer o gywyddau i
  • PRYSE, ROBERT JOHN (Gweirydd ap Rhys; 1807 - 1889), hanesydd a llenor Ganwyd 4 Gorffennaf 1807 mewn bwthyn o'r enw Beudy Clegyrog, ym mhlwyf Llanbadrig, sir Fôn. Pedwar diwrnod o ysgol yn unig a gafodd, dau pan oedd yn bum mlwydd oed a dau arall ymhen 15 mlynedd. Buasai farw ei fam pan oedd ef yn 4 oed, ac yng ngwanwyn 1818 bu farw ei dad hefyd. Gan eu bod mewn dygn dlodi anfonodd festri plwyf Llandrygarn (am mai i'r plwyf hwnnw y perthynent erbyn hyn) y tri
  • PUDDICOMBE, ANNE ADALISA (Allen Raine; 1836 - 1908), nofelydd Croydon am yr wyth mlynedd dilynol, ac yna i Winchmore Hill, swydd Middlesex. Ym mis Chwefror 1900, oherwydd afiechyd meddwl ei phriod, symudodd i Bronmor, Traethsaith, Sir Aberteifi, ac yno, 29 Mai 1906, y bu ef farw. Yno y bu hithau hefyd farw ar 21 Mehefin 1908. Claddwyd hwynt ill dau ym mynwent eglwys Penbryn. Yn ei hieuenctid cyhoeddodd gyda chymorth ychydig o ffrindiau llengar gyfnodolyn yn dwyn y
  • PUGH, EDWARD (c. 1761 - 1813), peintiwr map-ddarluniau a golygfeydd Dywedir iddo gael ei eni yn Rhuthyn. Dangoswyd 23 o'i ddarluniau yn yr Academi Frenhinol rhwng 1793 a 1808, y mwyafrif ohonynt yn fân-ddarluniau, gan gynnwys un darlun o Thomas Edwards ('Twm o'r Nant'). Ymddengys mai yn Llundain y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn ystod y blynyddoedd hyn er mai yng Nghaerlleon y ceir ei gyfeiriad yn 1800. Dangoswyd un darlun arall o'i eiddo yn yr Academi yn
  • PUGH, FRANCIS (1720 - 1811), Methodist a Morafiad bore yn aelod o gynulleidfa Fetter Lane ar 9 Mawrth 1748. Ar 12 Mai 1757 urddwyd ef yn ddiacon (gan yr esgob John Gambold), ond ni bu erioed yn offeiriad. Bu'n bugeilio cynulleidfa Llanllieni am ddau gyfnod, 1755-9 a 1763-8, ac yn 1768 rhoddwyd arno ofal Lacharn a Chaerfyrddin. Yno bu ei yrfa'n faith ac yn gythryblus. Yr oedd ef a'i briod (Elizabeth Keach) yn afrywiog ac anhyblyg, ac yn anodd ganddynt
  • PUGH, HUGH (1803 - 1868), ysgolfeistr a gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd ym Mai 1803 yn Nhywyn, Meirionnydd. Ymunasai ei dad â'r fyddin a bu'n dal swydd ynddi yn amser y rhyfel yn Sbaen. Gydag un John Jones, Pen-y-parc, ysgolfeistr nodedig, yr addysgwyd ef nes bod yn 13 oed, pryd yr aeth i Lundain yn glerc mewn swyddfa cyfreithiwr, ac yno manteisiodd ar bob cyfle i'w ddiwyllio'i hun. Oherwydd afiechyd gorfu iddo ddychwelyd oddi yno i Dywyn. Yn 1823 aeth i gadw
  • PUGH, LEWIS HENRY OWAIN (1907 - 1981), milwr Ganwyd yr Uwchfrigadydd Lewis Pugh yng nghartref y teulu, Cymerau, Glandyfi, Ceredigion, 18 Mai, 1907, yn fab i'r Uwchgapten H. O. Pugh (1874-1954) a'i wraig Edith Mary (née Smith). Wedi derbyn ei addysg yng Ngholeg Wellington aeth i Academi Filwrol Frenhinol Woolwich a derbyn comisiwn gyda'r Magnelwyr Brenhinol (Royal Artillery) yn 1927. Wedi cyfnod yn yr Almaen symudwyd ef i'r India i gyflawni