Search results

121 - 132 of 182 for "Gruffudd"

121 - 132 of 182 for "Gruffudd"

  • MAB Y CLOCHYDDYN (fl. c. 1380), bardd Dywedir mai brodor o Lanafan Fawr yn sir Frycheiniog ydoedd. Cadwyd dwy enghraifft o'i waith yn 'Llyfr Coch Hergest' a rhai llawysgrifau eraill, sef marwnad i Wenhwyfar ferch Madog, gwraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Fôn, a dau englyn.
  • MADOG BENFRAS (fl. c. 1320-60), bardd o Farchwiail yn sir Ddinbych. Rhoddir ei achau yn Powys Fadog : ' Madog Benfras ap Gruffudd ap Iorwerth, arglwydd Sonlli, ab Einion Goch ab Ieuaf ap Llywarch ab Ieuaf ap Niniaw ap Cynfrig ap Rhiwallawn.' Yr oedd ei ddau frawd, Llywelyn Llogell (person plwyf March'wiail) ac Ednyfed, yn feirdd hefyd, a dywedir gan ' Iolo Morganwg ' mai Llywelyn ap Gwilym o Emlyn oedd eu hathro barddonol hwy ill tri
  • MADOG DWYGRAIG (fl. c. 1370), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest a rhai llawysgrifau eraill. Yn ei phlith ceir awdlau crefyddol a dychan, a hefyd awdlau i Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, Gruffudd ap Madog o Lechwedd Ystrad, a Morgan Dafydd ap Llywarch o Ystrad Tywi. Casglwyd rhai ohonynt yn y Myvyrian Archaiology of Wales.
  • MAP, WALTER (1140? - 1209?), archddiacon phetrusai chwaith feirniadu'r Eglwys, ac yn enwedig yr urddau mynachaidd, yn bur hallt. Edrydd hefyd nifer o storïau am Gymru, ac y mae'n ddiddorol ar Gruffudd ap Llywelyn. Nid oes ddadl nad oedd Map yn ysgolhaig da; rhifodd M. R. James gryn ddeugain o feirdd a llenorion Lladin, o'r cyfnod clasurol a chyfnod y Tadau, y mae dyfyniadau neu atseiniau ohonynt yn y De Nugis - heb sôn am yr adnabyddiaeth
  • MAREDUDD ab OWAIN ab EDWIN (d. 1072), brenin Deheubarth Perthynai i'r bumed genhedlaeth ar ôl Hywel Dda ac yr oedd yn gyfyrder, yn y llinach hynaf, i Rys ap Tewdwr. Pan gwympodd Gruffudd ap Llywelyn yn 1063, adferwyd yr hen frenhiniaeth o dan ei arweiniad ef. Yr oedd cyfnod ei deyrnasiad yn cydredeg â thrawiad cyntaf y goncwest Normanaidd ar Ddeheudir Cymru. Wedi ymdrech fer ac unochrog, cydymddug â choncwest tiroedd y goror yng Ngwent a gwobrwywyd ef
  • MAREDUDD ab OWAIN ap HYWEL DDA (d. 999), brenin Deheubarth Brytanyeit.' Efallai fod ei hawl bennaf i enwogrwydd yn gorffwys ar ei berthynas â Gruffudd ap Llywelyn; merch i Faredudd oedd Angharad, mam Gruffudd ap Llywelyn.
  • MAREDUDD ap CYNAN ab OWAIN GWYNEDD (d. 1212) O 1173 hyd 1194 yr oedd yn arglwydd Eifionydd a rhan o Ardudwy - ffaith a nodwyd gan Gerallt Gymro pan aeth trwy'r ardal yn 1188. Derbyniodd Feirionnydd hefyd gan ei frawd Gruffudd (yn 1194, mae'n debyg) pan rannodd hwnnw ffrwyth buddugoliaeth yng Ngwynedd gyda'i gefnder Llywelyn I; yr oedd gyrfa gynnar Llywelyn yn ddyledus i raddau helaeth i'r cymorth a roes meibion Cynan iddo. Pan fu Gruffudd
  • MAREDUDD ap GRUFFUDD ap RHYS (1130 neu 1131 - 1155), tywysog Deheubarth Mab hynaf Gruffydd ap Rhys a Gwenllian, merch Gruffudd ap Cynan. Chwe mlwydd oed oedd pan fu ei dad farw. Daeth i amlygrwydd pan oedd yn 16 oed wrth gynorthwyo ei hanner-brawd, Cadell, i ymlid y Normaniaid o Geredigion ac wrth amddiffyn caer Caerfyrddin a gymerasid ychydig yn gynt. Yn 1151 chwaraeodd ran flaenllaw yn y gorchwyl o ymlid gwyr Gwynedd yn ôl y tu hwnt i afon Ddyfi; yn yr un flwyddyn
  • MEILYR BRYDYDD (fl. c. 1100-37), pencerdd llys Gruffudd ap Cynan yn Aberffraw. Ystyrir ef y cyntaf o'r Gogynfeirdd. Yn ei hanes ef a'i fab Gwalchmai a'i ŵyrion y ceir yr enghraifft debycaf yng Nghymru i'r hyn y gwyddom gymaint mwy amdano yn Iwerddon, sef teulu yn etifeddu'r swydd o bencerdd llys i linach arbennig o dywysogion, a chan y beirdd hyn eu treftadaeth dirol oblegid eu swydd farddol. Ceir Trefeilyr a Threwalchmai ym Môn hyd heddiw
  • MEREDUDD ap RHYS (fl. 1450-85), uchelwr, offeiriad, a bardd : Meredudd ap Rhys ap Gruffudd ap Madog Llwyd [ap Gruffudd] ab Iorwerth Foel ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth Hen … ap Rhys Sais … ap Tudur Trefor, cyndadau llawer o deuluoedd bonheddig hen daid Madog Llwyd â'r Plas yn Nanheudwy, a'i dad Rhys ap Gruffudd â phlas Halchdun - Halchdun Swydd y Waun yn ddiau. Ond yn Rhiwabon yng nghwmwd Maelor Gymraeg y trigai Meredudd. Efe oedd offeiriad y plwyf hwnnw - yn 1430
  • MORGAN ap HYWEL (fl. 1210-48), arglwydd Cymreig arglwyddiaeth Gwynllwg neu Gaerlleon-ar-Wysg (deiliad i ieirll Caerloyw) disgynnydd o Rhydderch ap Iestyn (bu farw 1033; y mae taflen o'r tylwyth ar t. 771 o Lloyd, A History of Wales, a hwylus fydd crynhoi ei hanes yma, dan enw Morgan ap Hywel. Lladdwyd Caradog ap Gruffudd, ŵyr Rhydderch, ym mrwydr Mynydd Cam (1081); erbyn 1140 clywir am fab hwnnw, OWAIN ap CARADOG, yng Ngwynllwg; ac yn 1154 cydnabuwyd ei fab yntau, MORGAN ab OWAIN, gan
  • MORGAN ELFEL (fl. circa 1528-41), bardd Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau - canu traddodiadol i foneddigion ei gyfnod yn Neheudir Cymru. Ceir cywyddau i Syr Siôn Mathau o Radur a Sioned ferch Syr Tomas Phylip o gastell Pictwn, ac awdl i Lewys Gwynn o Dref Esgob. Ceir hefyd nifer o gywyddau ac englynion i Gruffudd Dwn (o Ystrad Merthyr) a'i deulu, a dau ohonynt yn llaw'r bardd ei hun (Llanstephan MS 40 (73, 74)). Claddwyd ef 25