Search results

1 - 12 of 35 for "Aeron"

1 - 12 of 35 for "Aeron"

  • CADELL ap GRUFFYDD (d. 1175) cyn iddo ef a'i frodyr orfodi Hywel i ddianc dros afon Aeron. Yr oedd buddugoliaethau eraill fel pe'n bosibl eithr yn 1151 rhoddwyd pen sydyn ar yrfa'r pennaeth llwyddiannus - pan oedd yn hela (yn fforest Coed Rhath, y mae'n debyg) daeth marchogion a gwŷr yn ymladd â bwa a saeth o Ddinbych-y-pysgod ar ei warthaf a'i adael gan dybio ei fod wedi trengu. Bu fyw am lawer blwyddyn, ond yr oedd ei yrfa
  • CYNAN ap HYWEL (d. 1242?), tywysog ymuno â William Marshall pan oedd yr iarll yn goresgyn y De; bu'n anrheithio Is-Aeron a roddwyd wedi hynny yn ei feddiant, a chafodd Emlyn ac Ystlwyf (rhwng Cynin a Chywyn) yn dâl am ei gymorth. Ar 18 Tachwedd hysbysodd y brenin ddarfod i Gynan dalu gwrogaeth am ei dreftadaeth briod ac nad oedd neb i amharu arno. Yr oedd yn dal tiroedd yn Ne Cymru ym Mehefin 1225, pryd y rhoddwyd comisiwn i Lywelyn
  • DAFYDD AP GWILYM (c. 1315 - c. 1350), bardd noddwyr pwysicaf yng Ngheredigion oedd teulu Glyn Aeron, llys a fu'n ganolbwynt i fwrlwm o weithgarwch llenyddol newydd. Canodd Dafydd awdl farwnad i Angharad, gwraig Ieuan Llwyd, a ffug-farwnad i'w mab Rhydderch. Ac mewn llyfr a fu ym meddiant y teulu, Llawysgrif Hendregadredd (casgliad o gerddi Beirdd y Tywysogion a luniwyd yn ôl pob tebyg yn Ystrad-fflur), ceir copi o englynion Dafydd i'r Grog yng
  • DAFYDD y COED (fl. 1380), un o'r Gogynfeirdd diweddar Cadwyd pedair awdl sylweddol o'i waith a mân bethau o natur dychan yn ' Llyfr Coch Hergest.' Canodd i Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (fl. 1386-97), Hopcyn ap Thomas o Ynys Dawe (fl. 1360-90), a Gruffudd ap Llywelyn o Uwch Aeron. Cadarnheir amcan Moses Williams, yn ei Repertorium Poeticum, mai tua 1380 y blodeuai. Gwr o Ddeheubarth ydoedd fel y dengys yr awdlau uchod a'r mân ddarnau, sy'n
  • DAVIES, EVAN (1750 - 1806), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn 1750 yn Nyffryn Llynod ym mhlwyf Llandysul. Yr oedd ei dad, James Davies, yn weinidog eglwysi'r Cilgwyn, Abermeurig, a Chiliau Aeron. Bu Evan Davies am rai blynyddoedd yn athrofa Caerfyrddin. Yn 1775 urddwyd ef yn gyd-weinidog eglwys Llanedi, lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 12 Ebrill 1806 yn 56 oed. Yr oedd Evan Davies yn bregethwr derbyniol ac yn ŵr tangnefeddus a diwyd
  • DAVIES, JAMES KITCHENER (1902 - 1952), bardd, dramodydd a chenedlaetholwr gorllewin yn 1950, a thrachefn yn 1951, ychydig cyn ei salwch. Priododd yn 1940 ag athrawes yn ysgol ramadeg Tonypandy, Mair Rees, o Ffos-y-ffin ger Aberaeron, a chartrefu yn Aeron, Brithweunydd, Trealaw, lle y ganwyd eu tair merch, Megan, Mari a Manon. Yr oedd yn arddwr, yn gwmnïwr afieithus ac yn ddarllenwr eang. Ymdrwythodd yng ngweithiau Pantycelyn (W. Williams, 1717 - 1790). Gwerthfawrogai waith
  • DAVIS, DAVID (Dafis Castellhywel; 1745 - 1827), gweinidog Ariaidd, bardd, ac ysgolfeistr gydweinidog â David Lloyd yn Llwynrhydowen, Ciliau Aeron, Alltyplaca, Penrhiw, a Mydroilyn, ac yn ddiweddarach yn weinidog hefyd ym Mwlchyfadfa, gan fyw ym Mhlasbach, Ciliau Aeron, a phriodi Anne Evans y Foelallt, ŵyres Sgwïer Davies, Plasbach. Tua 1782 symudodd i fyw i Gastellhywel, Dyffryn Cletwr, ac fe'i hadwaenid o hyn allan fel 'Dafis Castellhywel.' Bu'n cadw ysgol am dros 30 mlynedd, ac iddo glod fel
  • EDWARDS, DAVID (c. 1660 - 1716), gweinidog Annibynnol Trigai yn Abermeurig, ym mlaen dyffryn Aeron, ac yr oedd yn berchen tai a thiroedd ym mhlwyfi Nantcwnlle a Llanddewibrefi. Yr oedd yn gymydog a chyfaill i'r amaethwr John Jones, Llwyn Rhys, arweinydd ymneilltuaeth yng nghanolbarth Ceredigion. Yr oedd Edwards yn ysgolhaig da, ac ordeiniwyd ef yn weinidog cynorthwyol i David Jones yng Nghaeronnen, Cellan, ac eglwysi eraill y gylchdaith, sef
  • ENOCH, SAMUEL IFOR (1914 - 2001), gweinidog (Presbyteriaid) ac athro diwinyddol Ganwyd Ifor Enoch yng Nghiliau Aeron, Ceredigion, 26 Rhagfyr 1914, yn un o dri mab y Parch. J. Aeronydd Enoch (Annibynwyr) a Jennie Enoch. Fe'i magwyd yng Nglan y Fferi, Sir Gaerfyrddin, lle mynychai'r tri brawd Ysgol Sul y Methodistiaid Calfinaidd. Graddiodd mewn Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe yn 1937 cyn symud i Goleg Westminster, Caergrawnt, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Lewis a Gibson, a
  • EVANS, JOHN (1830 - 1917), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, hanesydd a bywgraffydd Methodistiaeth Ceredigion Drenewydd. Derbyniwyd ef i Goleg Trefeca yn 1856 a bu yno bedair blynedd. Yn 1861, dewiswyd ef yn weinidog ar eglwys Methodistiaid Calfinaidd Abermeurig yn nyffryn Aeron, ac yno y llafuriodd dros weddill ei oes; ordeiniwyd ef yn 1862. Yr oedd yn bregethwr sylweddol heb ddawn boblogaidd, yn Rhyddfrydwr cadarn, yn amaethwr gofalus, ac yn hanesydd a bywgraffydd manwl; rhoes hanner canrif dda o wasanaeth
  • GREY, THOMAS (1733 - 1810), gweinidog gyda'r Annibynwyr Aberarth. Ar ei farwolaeth, 2 Mehefin 1810, aeth ei eglwysi drosodd at y Methodistiaid Calfinaidd, a chollwyd cnewyllyn yr hen Ymneilltuaeth ym mlaenau dyffryn Aeron. Dywedir ei fod yn nodedig am ei gallineb ac iddo fod yn gymorth mawr i'r Methodistiaid yn eu symudiadau. Disgrifir ef fel gwr mawr, corffol, garw ei wedd, a golwg fawreddog arno mewn wig fawr yn null y Piwritaniaid. Er mai Gray a welir
  • GRIFFITHS, THOMAS (JEREMY) (Tau Gimel; 1797? - 1871), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr Ganwyd yn Llechryd, lle yr oedd ei dad, Griffith Griffiths, yn weinidog. Addysgwyd gartref, yn ysgol Davis Castellhywel, a Choleg Caerfyrddin (1818-22). Ymsefydlodd yn weinidog y Cribin a Chiliau Aeron yn 1822 a bu yma hyd 1841 gan gadw ysgol hwnt ac yma. Ni cheir ei hanes wedyn hyd 1846, a dywedir iddo ef a'i deulu ymfudo i America. Ceir ef yn pregethu yng Nghaeronnen, 1846-51, ac yng Nghribin a