Search results

277 - 288 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

277 - 288 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • COTTON, JAMES HENRY (1780 - 1862), deon eglwys gadeiriol Bangor ac addysgydd Ganwyd 10 Chwefror 1780, mab George Cotton, deon eglwys gadeiriol Caer, a Catherine, merch James Tomkinson, Dorfold Hall, Nantwich. Cafodd ei addysg yn ysgol Rugby a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Fe'i hordeiniwyd yn 1803, a bu'n gurad Stoke, 1803, a Thornton, sir Gaer, 1806. Fe'i dewiswyd yn rheithor Derwen, sir Ddinbych, 1809, yn is-ficer Bangor (trwy gyfnewid), ac yn brif gantor eglwys
  • COX, LEONARD (fl. 1572), ysgolfeistr a llenor gyfaill i Erasmus a Melanchthon ac yr oedd ef ei hun yn rhethregydd a gramadegydd o fri. Yn 1524 ysgrifennodd The Art and Crafte of Rhethoryke ac yn 1540 Commentaries upon Will. Lily's Construction of the eight parts of speech. Cyfieithodd o Roeg i Ladin Marcus Eremita de Lege et Spiritu ac o Ladin i Saesneg Paraphrase of the Epistle to Titus gan Erasmus.
  • CRADOC, WALTER (1610? - 1659), diwinydd a Phiwritan Ganwyd yn Nhrefela, Llangwm, Mynwy, o deulu da. Etifeddodd ystad gwerth £601 y flwyddyn, a thybir iddo gael ei addysg yn Rhydychen. Fe'i penodwyd yn gurad yn Llanbedr-ar-Elai ac wedi hynny yn gurad i William Erbury yn eglwys y Santes Fair, Caerdydd. Yno tynnodd wg yr awdurdodau arno'i hun â'i dueddiadau piwritanaidd ac ataliwyd ei drwydded yn 1634. Yna symudodd i Wrecsam lle y gwnaeth ddigon o
  • CRADOCK, Syr MATHEW (1468? - 1531), swyddog brenhinol yn Ne Cymru ), Alice, merch Philip Mansel o Gastell Oxwich, a (2), Katherine Gordon, gweddw Perkin Warbeck. Bu iddo ferch, Margaret, o'r wraig gyntaf. Priododd hi Richard Herbert o Ewyas, sir Henffordd, a hwy oedd rhieni William Herbert a wnaed yn iarll Penfro, 1551. Bu farw rhwng 14 Mehefin a 16 Awst 1531 a chladdwyd ef yn Abertawe.
  • CRAWLEY, RICHARD (1840 - 1893), ysgolhaig Ganwyd yn y Bryngwyn gerllaw'r Rhaglan, 26 Rhagfyr 1840, yn fab i William Crawley, archddiacon Mynwy, a Gertrude, trydedd merch Syr Love Jones Parry o Fadryn. Yr oedd yn gymrawd o Goleg Worcester, Rhydychen. Ymdrinir â'i yrfa a'i weithiau (y pwysicaf ohonynt oedd y cyfieithiad o Thucydides, a gynhwysir bellach yn ' Everyman's Library') gan Sidney Lee yn yr atodiad cyntaf i'r D.N.B. Bu farw 30
  • CRAWSHAY family Cyfarthfa Dylanwadodd rhai aelodau o'r teulu hwn yn fawr iawn ar ddiwydiant haearn a glo a chynnydd masnachol De Cymru; y mae eu henw ynghlwm ag ardal Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, yn fwyaf arbennig. RICHARD CRAWSHAY (1739 - 1810) Diwydiant a Busnes Ganwyd yn Normanton, swydd Efrog, mab William Crawshay, ffermwr. Ffraeodd â'i dad ac yn 16 oed gadawodd ei gartref, gan drafaelio i Lundain a chyrraedd yno heb
  • CRAWSHAY, GEOFFREY CARTLAND HUGH (1892 - 1954), milwr a noddwr cymdeithasol Ganwyd 20 Mehefin 1892, yn fab i Codrington Fraser Crawshay, Llanfair Grange, Y Fenni, Mynwy, a gor-orwyr i William Crawshay I. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wellington a threuliodd flwyddyn yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yna bu ar brentisiaeth fer yng ngwaith haearn Cwmbrân, a chyfnod wedyn gyda chwmni o ymgymerwyr. Yn 1914 ymunodd â'r 3edd Welch Regiment ac yn ddiweddarach comisiynwyd ef i'r
  • CROPPER, THOMAS (1869 - 1923) Buckley, hynafiaethydd
  • CROWTHER, JOHN NEWTON (Glanceri; 1847 - 1928), athro ysgol Ganwyd yn Cornholme, gerllaw Todmorden, 19 Tachwedd 1847, mab William Crowther ac Anne Pickulls. Addysgwyd ef yn ysgolion Cornholme a Todmorden a'r Coleg Normal, Bangor. Cyn cyrraedd ei 20 oed fe'i penodwyd yn brifathro ysgol Rhydlewis; Sir Aberteifi. Priododd, 19 Tachwedd 1869, Sarah Lloyd. Yn Rhydlewis y dysgodd siarad a darllen Cymraeg a'i galluogodd i nyddu penillion ar fro ei fabwysiad a
  • CUDLIPP, PERCY (1905 - 1962), newyddiadurwr Ganwyd 1905, yn fab i William Cudlipp, trafeiliwr masnachol adnabyddus iawn yn ne Cymru, a Bessie ei wraig, Lisvane Street, Caerdydd. Yr oedd yn un o dri brawd enwog ym myd newyddiaduraeth (Reginald, golygydd News of the World, 1953-59; a Hugh, golygydd Sunday Pictorial, 1937-40 ac 1946-49, a chadeirydd Odhams Press, 1960). Addysgwyd Percy, a'i frodyr hefyd, yn Ysgol Gladstone ac Ysgol Uwchradd
  • CURIG (fl. 550?), sant Nawddsant Llangurig, plwyf mawr yn ne Arwystli ac efallai hefyd Eglwys Fair a Churig yn Sir Gaerfyrddin a Capel Curig yn Sir Gaernarfon. Adwaenid ef wrth y cyfenwau Curig Lwyd (sef y gwynfydedig) a Curig Farchog; yn ' Buchedd Curig ' (sydd yn waith diweddar) dygir ef i gysylltiad â Maelgwn Gwynedd. Yn amser Gerallt Gymro trysorid ei bawl bugeiliol - a addurniesid ag aur ac arian ac a oedd yn
  • CYBI (fl. 550), sant , yng nghanol Môn, eithr gall fod yr ansoddair yn cael ei arfer am Gybi ers hen amser. Enwyd Llangybi yn Lleyn, Llangybi yn Sir Aberteifi, a Llangibby yn sir Fynwy, arno. Yr oedd Ffynnon Gybi yn Sir Gaernarfon yn bur bwysig; dangosid Cadair Gybi yno hefyd. Ceir dwy eglwys yng Nghernyw yn gysegredig iddo - Cuby (gerllaw Tregony) a Duloe. Disgybl iddo ydoedd CAFFO, a goffeir yn Llangaffo (Merthyr Caffo