Search results

1045 - 1056 of 1867 for "Mai"

1045 - 1056 of 1867 for "Mai"

  • LLYWELYN ap GRUFFYDD (d. 1317) ,' medd cronicl cyfoes amdano. Awgryma hyn oll mai mab ydoedd i Gruffydd ap Rhys, deiliad Cymreig i arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg, a gor-wyr i Ifor Bach, arglwydd Senghenydd, a Nest, wyres Rhys ap Tewdwr Fawr. Er y flwyddyn 1256 cawsai Senghenydd ei llyncu yn llwyr i mewn i drefniant ffiwdalaidd yr arglwyddiaeth, ond ymddengys fod Llywelyn ar delerau da iawn â'r iarll ieuanc, Gilbert de Clare, ac
  • LLYWELYN ap GWILYM ap RHYS (fl. 16eg ganrif), bardd Cadwyd peth o'i waith mewn llawysgrifau, sef cywydd marwnad i Syr Wiliam Gruffydd (yr olaf) o'r Penrhyn (NLW MS 5273D (78b)) a Swansea MS. 1 (246), a chywydd i ddelw Grist ym Mangor (NLW MS 3048D (72)). Y mae'n debyg mai efe hefyd biau'r cywydd a geir yn Cardiff MSS. 7 (421), 64 (658), 65 (64), a Cwrtmawr MS 23B (162b).
  • LLYWELYN ap IORWERTH (Llywelyn Fawr; 1173 - 1240), tywysog Gwynedd . Arfaethai Llywelyn i'r benarglwyddiaeth a sefydlasai ef barhau trwy drefnu i'r mab hynaf etifeddu yn hytrach na chaniatáu cadw ymlaen y dull Cymreig cynhenid o rannu tiroedd rhwng y meibion i gyd. Cymerasid cam i'r cyfeiriad hwnnw eisoes yn 1229 pan gytunodd y brenin Harri III i gydnabod mai Dafydd, mab Joan, a gâi ddilyn ei dad, yn hytrach na Gruffydd, a oedd yn frawd hŷn na Dafydd. Gwelir athrylith
  • LLYWELYN ap SEISYLL (d. 1023), brenin Deheubarth a Gwynedd Llywelyn; a chan iddo orchfygu, yn 1018, y gwr a gipiasai'r deyrnas, sef Aeddan ap Blegywryd, a hefyd orchfygu Rhain, ymhonnwr o Iwerddon, yn 1022, daeth yn bennaeth yn y De. Estynnodd ei reolaeth hefyd am rai blynyddoedd dros ran fawr o Gymru - cyfnod cofiadwy yn hanes Cymru a barnu oddi wrth y cronicl. Prif hawl Llywelyn ap Seisyll i enwogrwydd, fodd bynnag, ydyw'r ffaith mai ef oedd tad Gruffydd ap
  • LLYWELYN FARDD (fl. c. 1150-75), bardd Nid hawdd sefydlu ei ganon na'i ddyddiadau. Yn Cerdd Dafod ceir c. 1185 - 1220, ond rhydd J. Lloyd-Jones c. 1155 - 1200. Efallai fod dau Lywelyn Fardd, y naill yn y 12fed ganrif, a'r llall yn y 13eg, ac mai dyna pam y mae'r 'Llyfr Coch' yn rhoi 'Lywelyn Fardd fab Cywryd' wrth un gerdd. Yr hynaf oedd hwnnw, a gwr o Feirionnydd ond odid. Ym marwnad Cedifor sonia amdano'i hun fel milwr i Fadog ap
  • LLYWELYN SIÔN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), bardd, amaethwr, 'crier' neu ringyll mewn llys barn am gyfnod, a chopïwr proffesyddol wrth ei grefft, ac un o ffigurau pwysicaf bywyd llenyddol effro sir Forgannwg Gŵr a hanoedd o Langewydd yn Nhrelales yn ymyl Penybont-ar-Ogwr. Mynnai 'Iolo Morganwg' mai Llywelyn Siôn oedd yr athrylith a roes drefn a dosbarth ar 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' ac mai 'trwy ei fanyldeb a'i ddiwydrwydd y cynullwyd deunydd Cyfrinach y Beirdd ' - y cwbl, wrth gwrs, yn ffugiad. Fel copïwr proffesyddol mwyaf ei gyfnod yr haedda ei gydnabod; nid oedd yn gopïwr mor doreithiog â
  • LLYWELYN, TOMAS (fl. c. 1580-1610), bardd ac uchelwr o Rigos yng ngogledd Morgannwg. Yn ôl un llyfr achau, yr oedd o hil Einion ap Collwyn. Ceir amryw gywyddau o'i waith yn y llawysgrifau, ac yr oedd hefyd, megis y rhan fwyaf o feirdd Morgannwg yn yr oes honno, yn canu cwndidau duwiol. Efallai mai ei gyfansoddiadau mwyaf diddorol i ni heddiw ydyw ei ddau draethodl, y naill yn cynnwys dadl rhwng yr eglwys a'r dafarn, a'r llall 'brognosticasiwn' am y
  • LLYWELYN-WILLIAMS, ALUN (1913 - 1988), bardd a beirniad llenyddol . Chwaer iddo oedd Enid Wyn Jones. Yn anarferol ar y pryd o gymharu â'i gyfoeswyr llenyddol Cymraeg, fe'i magwyd ar aelwyd ddosbarth canol broffesiynol yng Nghaerdydd. Er mai Saesneg oedd y prif gyfrwng, ni olygai hynny mai aelwyd Seisnigaidd mohoni: dywed fod ganddo 'rith gof amdanaf yn hogyn bach yn chwarae ar fy mhen fy hun yn Gymraeg; ond rhaid bod perygl yn gynnar iawn i'r Saesneg gymryd y lle
  • LOCKLEY, RONALD MATHIAS (1903 - 2000), ffermwr, naturiaethwr, cadwraethwr ac awdur Ronald wedi addo peidio â'i harchwilio hebddi. Ganwyd eu merch Ann ym Mai 1930. Cofnodwyd y blynyddoedd cynnar yn ei lyfr Dream Island (1930) a'r dilyniant Island Days (1934) gyda darluniau gan Doris. Rhwng 1928 a 1940 enillodd Lockley enw iddo'i hun fel naturiaethwr o fri rhyngwladol. Erbyn Mai 1929 ar anogaeth H. F. Witherby, roedd wrthi'n modrwyo palod. Gyda dau bapur arwyddocaol yn 1930 a 1931 yn
  • LORT family = Camb. Register, i, 164) am Roger Lort oedd ' ei fod yn barod i arddel unrhyw egwyddor neu grefydd a ddygai iddo gyfoeth '; am Sampson Lort, ' gên [asyn] y Sampson Ysgrythurol yn unig a oedd ganddo, ond gwnaeth lawer o ddifrod â hi; fe all weddio cyhyd ag y tâl iddo.' Nid annheg yw chwanegu mai Sampson oedd y tebycaf i wir Bengrwn ohonynt. Mae'n debyg mai ef oedd y Sampson Lort a laniodd yn Bermuda yn
  • LOUGHER, ROBERT (d. 1585?), gŵr o'r gyfraith sifil, a gweinydd eglwysig ymwelodd y frenhines Elisabeth â Rhydychen yn 1566 yr oedd Lougher yn un o'r doethuriaid a ddewiswyd i 'ddadlau' ger ei bron hi ar y gyfraith wladol (4 Medi). Fe'i gwnaethpwyd yn un o gymrodyr gwreiddiol Coleg Iesu yn 1571; bu'n cynrychioli bwrdeisdref Penfro yn y Senedd, 1572, ac yn 1574 daeth yn feistr yn y siansri. Ym Mai 1577 gwnaeth Edwin Sandys, archesgob Caerefrog, ef yn ficer cyffredinol a
  • LOVE, CHRISTOPHER (1618 - 1651), gweinidog Presbyteraidd Ganwyd yng Nghaerdydd, yn fab ieuengaf Christopher Love. Priodolai ei dröedigaeth i William Erbery. Anghytunai ei dad â'i ddaliadau crefyddol; a'i fam, gydag Erbery, a dalodd am ei addysg. Bu'n fyfyriwr yn New Inn Hall, Rhydychen; graddiodd B.A. 2 Mai 1639 ac M.A. 26 Mehefin 1642. Treuliodd weddill ei yrfa y tu allan i Gymru. Mabwysiadodd olygiadau Presbyteraidd eithafol. Yn gyntaf bu'n gaplan