Search results

1033 - 1044 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1033 - 1044 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GOODMAN, GABRIEL (1528 - 1601), deon Westminster a sylfaenydd Christ's Hospital, Rhuthyn; Ganwyd yn 1528, ail fab Edward Goodman (bu farw 1560), Rhuthyn. Cafodd ei addysg yng Nghaergrawnt (B.A. 1550, M.A. 1553, D.D. 1564); bu'n gymrawd Coleg Crist, 1552-4, ac yn gymrawd Coleg Iesu, c. 1554-5. Tua'r flwyddyn 1555 aeth i wasanaeth William Cecil (yr arglwydd Burghley yn ddiweddarach) fel caplan. Cydolygai â'r sefydliad eglwysig a wnaethpwyd yn nheyrnasiad Edward VI, ymddangosai fel pe'n
  • GOODWIN, GERAINT (1903 - 1941), awdur Ganwyd 1 Mai 1903 ym mhlwyf Llanllwchhaearn, Sir Drefaldwyn, mab Richard a Mary Jane Goodwin. Bu yn ysgol ganolraddol Tywyn, Sir Feirionnydd. O 1922 hyd 1938 yr oedd yn byw yn Llundain, gan ysgrifennu i newyddiaduron a chyfnodolion ac yn cyfansoddi llyfrau. Yn 1932 priododd Rhoda Margaret, merch Harold Storey. Ei lyfrau cyntaf oedd Conversations with George Moore, 1929, a Call Back Yesterday
  • GOODWIN, JOHN (1681 - 1763), gweinidog olaf y Crynwyr yng Ngogledd Cymru Ganwyd yn 1681, yn fab, efallai, i Thomas Goodwin (gynt o Lanidloes), a oedd yn aelod gyda'r Crynwyr yn Dolobran, Sir Drefaldwyn. Ymaelododd John Goodwin, c. 1708, gyda'r Crynwyr yn Llangurig a daeth yn weithiwr egnïol yn eu plith, a maes ei weinidogaeth yn ymestyn o Langurig hyd at odreon Aran Benllyn, Aran Fawddwy, a Chader Idris. Pan oedd tua'r canol oed ymwelai'n fynych â chanolfannau'r
  • GORE, WILLIAM GEORGE ARTHUR ORMSBY - see ORMSBY-GORE, WILLIAM GEORGE ARTHUR
  • GOUGE, THOMAS (1605? - 1681), gweinidog Anghydffurfiol a dyngarwr Ganwyd yn Stratford le Bow, Llundain, 19 Medi 1605 (yn ôl D.N.B., 29 Medi 1609), mab hynaf Dr. William Gouge. Addysgwyd ef yn ysgol Eton ac yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, lle y derbyniwyd ef 16 Awst 1625 (B.A., M.A., ac yn gymrawd, 16 Awst 1628). Ordeiniwyd ef yn 1634 a gadawodd Gaergrawnt y flwyddyn ganlynol. Yn ystod 1635 apwyntiwyd ef yn rheithor Coulsdon, Surrey, ac arhosodd yno hyd 1638
  • GOUGH, JETHRO (1903 - 1979), Athro patholeg Ganwyd Jethro Gough ar y 29 Rhagfyr 1903 yn Woodland Street, Aberpennar, Morgannwg, yn un o 11 o blant Jabez William Gough, masnachwr a pherchennog cwmni bysiau, a'i wraig Ellen (gynt Mortimer). Yr oedd wedi penderfynu dilyn gyrfa fel meddyg yn ei ieuenctid, ac wedi rhagori yn ysgol ramadeg Aberpennar aeth i Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru (rhan o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy y pryd hynny
  • GOUGH, MATHAU (fl. hanner cyntaf y 15fed ganrif), milwr Llundain, pan oedd yn amddiffyn dinas Llundain yn erbyn Jack Cade a'i gyd- wrthryfelwyr, ar nos Sul 5-6 Gorffennaf 1450 a chladdwyd ef yng nghôr Mair y Brodyr Carmelaidd yn Llundain. Dywed William o Worcester, y croniclydd, i'w farw beri galar cyffredinol yng Nghymru. Y mae'r sylw mawr a roddir iddo gan groniclyddion cyfoes Ffrainc yn gryfach prawf o'i enwogrwydd. Am flynyddoedd wedi ei farw coffeid yr
  • GOWER, HENRY (1278? - 1347), esgob Tyddewi Yn ôl un ffynhonnell, ganwyd ef yn sir Efrog; ond y mae ei gyfenw, ei feddiannau ym Mroŵyr, a'i ddiddordeb amlwg yn nhref Abertawe, yn cryfhau'r farn gyffredin mai ym Mroŵyr yr oedd ei wreiddiau. Yr oedd yn ddoethur yn y ddwy gyfraith yn Rhydychen, yn gymrawd yng Ngholeg Merton (yr hynaf o'r colegau), ac am ysbaid yn ganghellor y brifysgol. Tua 1314, yr oedd yn ganon yn Nhyddewi; tua 1319 yn
  • GOWER, HERBERT RAYMOND (1916 - 1989), gwleidydd Ceidwadol Ganwyd ef yn Llansawel ar 15 Awst 1916, yn fab i Lawford R. Gower FRIBA, pensaer a gyflogid gan Gyngor Sir Morgannwg ac a oedd yn byw ym Mhenylanen. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith, Caerdydd. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ar ôl iddo fethu archwiliad meddygol, daeth Gower yn swyddog cadetiaid yn y fyddin gyda'r
  • GRAVELL, DAVID (1787 - 1872), amaethwr, meddyg llysiau, a chyhoeddwr llyfrau Ganwyd 3 Mehefin 1787, mab Thomas a Mary Gravell, Cwmfelin, plwyf Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin. Argyhoeddwyd ef o dan weinidogaeth y Parch. David Peter, Caerfyrddin. Yr oedd yn wan ei iechyd yn ieuanc ac arweiniodd hyn ef i geisio meddyginiaeth llysiau, ac ar yr un pryd manteisiodd ar gwmni David Davies, y meddyg brenhinol, a oedd yn enedigol o'r plwyf, a'i dad yn ddiacon yn eglwys Penygraig
  • GRAY, - see GREY
  • GRAY, RHYS (fl. 1661-72), bardd