Search results

1021 - 1032 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1021 - 1032 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • GITTINS, CHARLES EDWARD (1908 - 1970), addysgydd Ganwyd yn Rhostyllen ger Wrecsam, Sir Ddinbych, 24 Ionawr 1908, yn fab i Charles Thomas a Frances (ganwyd Rabbit) Gittins. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Rhostyllen, 1911-15, Ysgol Bersham, 1915-20, Ysgol Sir y Bechgyn Grove Park, Wrecsam, 1920-25, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1925-31. Fe'i bwriodd ei hun i ganol bywyd y coleg yn ei holl agweddau, bu'n llywydd y Gymdeithas Ddadlau ac yn
  • GITTINS, EDWARD (d. 1884), hanesydd lleol Ganwyd yn yr Efail, Pentyrch, Llanfair Caereinion, lle treuliodd ei holl fywyd. Yr oedd yn of wrth ei alwedigaeth, ac er na chafodd lawer o gyfleusterau addysg enillodd fri mawr fel bardd a hynafiaethydd. Cystadlai yn aml mewn eisteddfodau lleol, a chipiodd amryw wobrwyon am englynion. Adeg Nadolig 1881 enillodd wobr yn eisteddfod Llanfair am draethawd ar hanes y plwyf. Y mae'r ysgrif hon yn
  • GIVVONS, ALEXANDER (1913 - 2002), chwaraewr rygbi Ganwyd Alexander Givvons ar 2 Tachwedd 1913 ym Mhilgwenlli, Casnewydd, Sir Fynwy, plentyn hynaf Alexander Givvons (g. 1888), masnachlongwr o St Thomas yn India'r Gorllewin, a'i wraig Johanna Dunn (1896-1987). Roedd yn un o chwech o blant, gan gynnwys ei hanner brawd Trevor Williams (g. 1925) o ail briodas ei fam. Gelwid ef yn Alex (wedi ei ynganu fel Alec). Mynychodd Ysgol Gatholig Holy Cross
  • GLENN, THOMAS ALLEN (1864 - 1948), milwr, hanesydd, achyddwr, a hynafiaethydd cyhoeddi yn America), yr oedd Glenn yn awdur llu o lyfrau a llyfrynnau. Yn eu plith y mae Merion in the Welsh Tract … (Pennsylvania) (Norristown, 1896); Some colonial mansions and those who lived in them (Philadelphia; 1st series 1899, 2nd series 1900); Welsh Founders of Pennsylvania, 2 vols., (Oxford, 1911); Newmarket Notes (Prestatyn Hundred, Flintshire), Parts 1 and 2 (Prestatyn 1911, 1912); Northern
  • GLYN family Glynllifon, Glyn. Gwnaed wyr Thomas a Frances Wynn yn arglwydd NEWBOROUGH yn 1776. Yr oedd Thomas Glyn yn 'Commissioner of Array' (gyda'r gradd o gyrnol) dros Siarl I hyd 1646 pryd y cefnodd ar blaid y brenin ac ymuno â phlaid y Senedd gyda Syr William Williams, Vaenol. Yn ystod 1642-3, fodd bynnag, gwnaeth ymdrech i geisio rhwystro'r comisiwn rhag gweithredu ac oblegid hyn syrthiodd gwg Siarl arno.
  • GLYN, WILLIAM (1504 - 1558), esgob Bangor; Ganwyd 1504, mab John Glyn, Heneglwys, sir Fôn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Queens', Caergrawnt (B.A. 1527, M.A. 1530, B.D. 1538, D.D. 1554), daeth yn gymrawd ei goleg yn 1530, yn un o gymrodyr gwreiddiol Coleg y Drindod, ac yn is-feistr y coleg hwnnw, 1546-51. Fel ei gyfaill a'i gyfoed Thomas Thirlby (gw D.N.B.), ymddengys iddo dderbyn cyfnewidiadau crefyddol teyrnasiad Harri VIII, serch iddo
  • GLYNLLIFON, WILLIAM Glynllifon (d. 1594) - see GLYN
  • GLYNNE family Cangen oedd y teulu hwn o deulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, y gellir olrhain ei achau yn ôl i Cilmin Droed-ddu, sefydlydd pedwerydd llwyth Gwynedd. Yn 1654 prynodd JOHN GLYNNE (1602 - 1666), ail fab Syr William Glynne, Glynllifon, gastell Penarlâg, y faenol, a'r stad a berthynai iddi. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster, a derbyniwyd ef i Hart Hall, Rhydychen, 9 Tachwedd 1621, ac i Lincoln's
  • GLYNNE, MARY DILYS (1895 - 1991), patholegydd planhigion Ganwyd Mary Dilys Glynne yn Glyndyl, Menai Avenue, Bangor Uchaf ar 19 Chwefror 1895, y ferch ieuengaf o bump o blant a oroesodd i John Glynne Jones (1849-1947), cyfreithiwr, a'i wraig Dilys Lloyd Glynne Jones (ganwyd Davies, 1857-1932). Roedd teulu ei thad yn hanu o Dyddyn Isaf (Cymryd) ym mhlwyf Y Gyffin ger Conwy. Un o Gymry Llundain oedd ei mam, yn ferch i'r cerflunydd a cherddor William
  • GODWIN, FRANCIS (1562 - 1633), ysgolhaig, hanesydd, a hynafiaethydd Ganwyd yn Hannington, swydd Northampton, yn 1562. Dewiswyd ef yn esgob Llandaf yn 1601 yn gydnabyddiaeth am ei Catalogue of Bishops of England (arg. 1af, 1601; arg. newydd, 1615; arg. yn Lladin, 1616). Cyn hynny, bu'n dal amryw swyddi eglwysig yn ne orllewin Lloegr, lle yr oedd ei dad, Thomas Godwin, yn esgob Bath a Wells (1584-90). Cafodd ei ddyrchafu i fod yn esgob Henffordd yn 1617; yno, fel
  • GODWIN, JUDITH (d. 1746), un o ohebwyr Howel Harris Ei henw morwynol oedd Weaver; dywedir yn fynych, ond yn anghywir, ei bod hi'n ferch i John Weaver (a fu farw 1712), gweinidog Piwritanaidd ym Maesyfed Newydd ac wedyn yn nhref Henffordd; eto y mae pob tebygrwydd ei bod hi o'r un teulu ac iddi gael ei geni yn sir Faesyfed. Priododd ddwywaith: yn gyntaf, â Samuel Jones (1680? - 1719) o Tewkesbury, ac yn ail (1721) ag Edward Godwin (1680? - 1764
  • GOODEN, JAMES (1670 - 1730), Jesiwit Ganwyd yn sir Ddinbych, 1670. Addysgwyd ef yng Ngholeg S. Omer. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o Gymdeithas yr Iesu, 2 Chwefror 1706-7. Am rai blynyddoedd bu'n athro rhifyddeg ac athroniaeth yn Liege, ac o 1721-2 hyd 1728 yn warden Coleg S. Omer. Gwyddys am ddau waith o'i eiddo: Anathemata Poetica Serenissimo Walliae Principi Jacobi regis … etc. (S. Omer, 1688), a Trigonometria plana et sphaerica