Search results

901 - 912 of 960 for "Ebrill"

901 - 912 of 960 for "Ebrill"

  • WILLIAMS, EDMUND (1717 - 1742), un o emynwyr cynnar y diwygiad Methodistaidd Brodor o Gwm Tyleri, sir Fynwy, ac un o ddychweledigion Howel Harris ar ei daith bregethu gyntaf yn sir Fynwy - Mawrth ac Ebrill 1738. Eglwyswr ydoedd, o deulu da ac yn dda ei fyd. Cafodd addysg dda. Yr oedd yn ŵr defosiynol ac o dan ddylanwad Harris daeth yn 'gynghorwr mawr ei barch ymysg y Methodistiaid.' Cyhoeddodd ef a'i gyfaill Morgan John Lewis, yntau yn gyd-ddychweledig ag ef, gasgliad o
  • WILLIAMS, EDWARD (1818 - 1880), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 29 Rhagfyr 1818 yn Blaenafon, Mynwy; hanoedd ei dad o ardal y Mynydd-bach, Abertawe; yr oedd i'w fam gysylltiadau Ffrengig. Dechreuodd bregethu yn 1843. Cafodd alwad i fod yn weinidog Dinas Mawddwy a'r cylch ac urddwyd ef yno 27 Ebrill 1848. Bu farw 8 Ebrill 1880 a chladdwyd ef ym mynwent Dinas Mawddwy. Cyhoeddodd Cofiant a Phregethau … D. Milton Davies, (Llanfyllin, 1871). Ef oedd
  • WILLIAMS, ELIEZER (1754 - 1820), clerigwr, awdur, ac athro Ganwyd ym Mhibwr Lwyd ger Caerfyrddin, a'i fedyddio yn eglwys Llandyfaelog, 4 Hydref 1754, mab hynaf (ac ail blentyn) Peter Williams (1723 - 1796) a Mary ei wraig. Cafodd addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac ymaelodi ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu 3 Ebrill 1775. Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Yorke o Dyddewi, 3 Awst 1777, a'i drwyddedu i guradiaeth Tre-lech; yna aeth yn gurad i
  • WILLIAMS, EVAN (1749 - 1835), llyfrwerthwr a chyhoeddwr llyfrau . Daeth y bartneriaeth hon hefyd i ben yn 1815-6, a thybir i Fanc y Llong beidio a bod y pryd hwnnw, ond yr oedd Williams, Davies, a'u Cwmni yn rhedeg banc yn yr un adeilad, ac yn dal cysylltiad â'r un cynrychiolwyr yn Llundain (Syr James Esdaile & Co.) yn 1835. Bu Thomas farw 15 Ebrill 1839 yn 84 oed. Y mae cofeb iddo ef a'i wraig (Margaret, a fu farw 25 Rhagfyr 1849) ym mhorth eglwys S. Mihangel
  • WILLIAMS, EVAN (1724 - 1758), Morafiad Cymreig ar Bumtheg ynghylch Iesu Grist, 1760. Yn Ebrill 1758, anfonwyd ef i Dderwen Deg (gerllaw Rhuthyn) i agor cenhadaeth Forafaidd yng Ngogledd Cymru; ond bu farw yno, 2 Mai 1758, a chladdwyd yn Llanfair Dyffryn Clwyd.
  • WILLIAMS, Syr GLANMOR (1920 - 2005), hanesydd cafodd ei benodi i swydd dros dro yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, coleg a fu'n gartref iddo hyd ei ymddeoliad yn 1982. Pan aeth ei gydweithiwr Glyn Roberts i swydd cofrestrydd Coleg y Gogledd ym Mangor, daeth cyfle iddo yntau i gael ei benodi i swydd darlithydd parhaol yn Hanes Cymru yn Abertawe. Priododd â Fay Davies ar 6 Ebrill 1946, ac aeth y ddau i fyw yn agos i'r Brifysgol
  • WILLIAMS, HENRY (1624 - 1684), pregethwr Piwritanaidd, amlwg fel Bedyddiwr rhyddgymunol reidiau'r saint yn y sir honno. Gŵr diwyd, diabsen, tangnefeddus ydoedd, ac aiff Calamy (drwy gymorth James Owen), allan o'i ffordd i dalu teyrnged i'w waith a'i aberth. Claddwyd ef yn Llanllwchaiarn, 2 Ebrill 1684. Ysgrifennwyd galargan go hir amdano gan Richard Davis, gweinidog enwog Rothwell yn swydd Northampton, a oedd yn briod â'i ferch Rosamond; a disgynnydd go bell i Henry Williams oedd Jane
  • WILLIAMS, HUGH (Hywel Cernyw; 1843 - 1937), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, a bardd Ganwyd 13 Ebrill 1843 yn y Pentre, Llangernyw, mab Moses a Mary Williams. Dechreuodd gymryd diddordeb mewn llenyddiaeth yn ieuanc. Ceir penillion ac englynion o'i eiddo yn Yr Athraw am 1860, pan nad oedd ond 17 mlwydd oed. Derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr. yn Llangollen, Ionawr 1863. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yn Staylittle a Dylife, Rhagfyr 1865. Yn 1868 symudodd i gymryd gofal eglwysi'r
  • WILLIAMS, HUGH DOUGLAS (Brithdir; 1917 - 1969), athro ac arlunydd y coleg 1939-41. O'r coleg aeth yn athro dros dro i ysgol ramadeg Whitefield, ac wedyn i ysgol uwchradd Birkenhead yn 1944 ac Ysgol King George V, Southport, yn 1945. Fe'i penodwyd i swydd athro celfyddyd yng Ngholeg Normal Bangor yn Ebrill 1948, ac yna yn bennaeth a phrif ddarlithydd yn yr adran. Priododd Mair Eiluned Williams yn Nhreharris 21 Awst 1945, a bu iddynt ddau fab. Yn aelod o Orsedd y
  • WILLIAMS, Syr IFOR (1881 - 1965), Athro prifysgol, ysgolhaig Ganwyd ym Mhendinas, Tregarth, Sir Gaernarfon, 16 Ebrill 1881, yn fab i John Williams a Jane ei wraig. Chwarelwr oedd ei dad. Ei daid ar ochr ei fam oedd Hugh Derfel Hughes, ac ewythr iddo oedd H. Brython Hughes. Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgolion y Gelli a Llandygái, aeth i Ysgol Friars, Bangor yn 1894, ond ni fu yno ond ychydig dros flwyddyn, gan iddo gael damwain ac anafu ei gefn yn ddrwg
  • WILLIAMS, ISAAC JOHN (1874 - 1939), ceidwad amgueddfeydd Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 10 Ebrill 1874, a bu farw yng Nghaerdydd, ddydd Nadolig 1939. Wedi ennill medal y ' Cardiff School of Art,' bu'n athro mewn celfyddyd mewn ysgolion, ac o 1910 hyd 1914 yn arolygydd, athro celfyddyd, a cheidwad, yn Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Merthyr Tydfil. Yn 1914 penodwyd ef yn geidwad y celfyddydau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac efe a osododd sylfeini'r casgliad
  • WILLIAMS, JOHN (Glanmor; 1811 - 1891), clerigwr a hynafiaethydd Goleg Diwinyddol S. Bees ac ymhen dwy flynedd ordeiniwyd ef yn ddiacon ac yn 1867 yn offeiriad. Bu'n gwasnaethu fel curad yn White-haven (1866 hyd Rhagfyr 1868), Amlwch (1868 hyd 1871), ac Ebbw Vale (1871 hyd 1883). Yn 1883 penodwyd ef yn rheithor Llanallgo gyda Llaneugrad, Môn, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 12 Ebrill 1891. Claddwyd ei gorff yn Llanallgo. Priododd, 1854, ag Elizabeth (bu farw 1890