Search results

73 - 84 of 132 for "Emlyn"

73 - 84 of 132 for "Emlyn"

  • JONES, DILLWYN OWEN PATON (1923 - 1984), pianydd jazz Ganed Dill Jones ar 19 Awst 1923 yn Sunny Side, Castellnewydd Emlyn, yn fab i John Islwyn Paton Jones, rheolwr banc, a'i wraig Lavinia (ganwyd Bevan). Etifeddodd ddoniau cerddorol o ddwy ochr y teulu, gan fod ei dad yn ganwr da a'i fam yn bianydd dawnus. Mynychodd Goleg Llanymddyfri lle y clywodd recordiadau jazz am y tro cyntaf; bu'n gweithio wedyn yn y banc ond yr oedd yn canu'r piano mewn
  • JONES, EZZELINA GWENHWYFAR (1921 - 2012), artist a cherflunydd y melinau, ffedog leder dew ac esgidiau cadarn i ddiogelu'r corff a gwarchod y traed rhag niwed oddiwrth y platiau o fetel gwynias yn y melinau. Erbyn canol y saithdegau roedd y cerflunydd yn dechrau cael sylw, yn derbyn gwahoddiadau i gynnal arddangosfeydd, ac ymddangosodd ei gwaith gyda Chymdeithasau Celf Abertawe a Llanelli. Yn 1977 enillodd Dlws Coffa Emlyn Roberts Cymdeithas Gelf Llanelli. Yn
  • JONES, IEUAN SAMUEL (1918 - 2004), gweinidog (Annibynwyr) Ganwyd Ieuan S. Jones yn y Felin Geri yn ardal Dre-wen, ger Castellnewydd Emlyn, ar Fedi 16, 1918, yr ieuengaf o wyth o blant a aned i Benjamin Franklin Jones a'i briod, Mary Anna. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Dre-wen ac wedi hynny yn Ysgol Ramadeg Aberteifi. Ar Sul cyntaf Awst 1936, dechreuodd bregethu yn eglwys ei gartref, Eglwys yr Annibynwyr, Drewen. Prin y meddyliai Ieuan bryd hynny y
  • JONES, JOHN (EMLYN) (Ioan Emlyn; 1818 - 1873), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd a llenor Ganwyd yng Nghastellnewydd Emlyn. Prentisiwyd ef gydag oriadurwr yng Ngherrighywel (sgrifennodd ar hanes y lle yn Golud yr Oes, 1863), a bu gyda Chymreigyddion y Fenni (1838) a Chymreigyddion Llangynidr. Symudodd i Gaerdydd, i swyddfa'r Principality - yno y bu â rhan yng nghyfieithu esboniad Gill. Dechreuodd bregethu ar adeg anhysbys (y mae'n wir yn hynod anodd cael hyd i ddyddiadau pendant yn ei
  • JONES, JOHN HARRIS (1827 - 1885), gweinidog Methodistiaid Calfinaidd ac athro yng Ngholeg Trefeca Ganwyd 28 Awst 1827 yn Waunwthan, plwyf Llangeler, Sir Gaerfyrddin, mab John ac Elizabeth Jones, Penybanc, Closygraig. Pan oedd yn ddwyflwydd oed symudodd ei rieni i gartref y fam, sef Penybanc. Cafodd ei addysg foreol mewn ysgol a gynhelid yng nghapel Saron, Llangeler. Pan oedd yn 12 oed aeth am dair blynedd i ysgol ramadeg yng Nghastellnewydd Emlyn a gedwid gan yr Undodwr J. Davies (1795 - 1858
  • JONES, JOSIAH (1830 - 1915), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 2 Gorffennaf 1830 yn Ffynnonddwrgi, Cwmcoy, y Drewen, Sir Aberteifi. Prentisiwyd ef yn saer coed. Dechreuodd bregethu yn 17 oed. Aeth i ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac wedyn am dymor i ysgol yn Aberteifi; derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu yn 1850 ac ef oedd un o'r rhai cyntaf i basio 'matriculation' Prifysgol Llundain; oherwydd afiechyd nid aeth am radd. Urddwyd ef yn weinidog y Graig
  • JONES, MOSES OWEN (1842 - 1908), ysgolfeistr, cerddor, a llenor Y Caniedydd Cynulleidfaol. Yr oedd yn un o olygyddion Y Caniedydd Cynulleidfaol, 1895, a hefyd Caniedydd yr Ysgol Sul. Golygodd adran y sol-ffa o Cronicl y Cerddor o dan olygiaeth D. Emlyn Evans. Perfformiodd côr o dan ei arweiniad amryw gyfanweithiau, a llwyddo i ennill gwobrwyon mewn llawer o eisteddfodau. Gelwid hefyd am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu. Yr oedd M. O
  • JONES, OWEN THOMAS (1878 - 1967), athro daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt Ganwyd 16 Ebrill 1878 ar fferm Plasnewydd, Beulah, ger Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn unig fab David a Margaret (ganwyd Thomas) Jones. Cafodd ei addysg yn ysgol Frytanaidd Tre-wen ac ysgol ramadeg Pencader. Nes mynd i'r ysgol ramadeg, Cymraeg yn unig a siaradai, a thrwy gydol ei fywyd siaradai ac ysgrifennai'r Gymraeg gyda'r rhwyddineb mwyaf. Profodd ei hun yn ddisgybl disglair
  • JONES, SHÂN EMLYN (1936 - 1997), cantores Ganwyd Shân Emlyn yn Rhydychen ar 8 Chwefror 1936, yn ferch i Emlyn Jones a'i wraig Joanna (ganwyd Owen). Bu'r teulu'n byw yn Rhydychen, lle'r oedd ei thad yn glerc i Morris Motors ac yn aelod o fand y cwmni, nes dychwelyd i Gymru i fyw ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, i'r Felinheli yn gyntaf ac yna i Bwllheli. Roedd ei mam yn athrawes gerdd a'i thad yn canu'r trombôn, ac o'i phlentyndod roedd Shân
  • JONES, THOMAS LLEWELYN (1915 - 2009), bardd a llenor toreithiog ac o dan ysgogiad Llyfrgellydd Cerdigion ar y pryd, Alun R. Edwards, cynhaliwyd nifer o gynhadleddau ym Mhlas y Cilgwyn yng Nghastell Newydd Emlyn er mwyn cymryd camau tuag at ddiwallu'r angen. Trefnid cystadleuthau llenyddol ac aed ati i gyhoeddi gwaith yr enillwyr. Dechreuodd T. Llew Jones gael blas ar ysgrifennu storïau antur ac yn fuan iawn sefydlodd ei hun fel prif awdur llyfrau plant yn y
  • JONES, WILLIAM PHILIP (1878 - 1955), gweinidog (MC) a phrifathro coleg Trefeca Ganwyd 21 Tachwedd 1878 yn Rock House, Tre-fîn, Penfro, mab Edward a Margaret Jones. Bu farw'i dad pan oedd yn bum mlwydd oed, a dychwelodd ei fam i'w chynefin yn Nanhyfer. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Nanhyfer, ac yn ysgolion gramadeg Llandysul a Chastellnewydd Emlyn. Dechreuodd bregethu yn 15 mlwydd oed yng Ngethsemane, Nanhyfer, ac aeth i'w baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth i Goleg y
  • LAUGHARNE, ROWLAND (d. 1676?), cadfridog ('major-general') ym myddin plaid y Senedd rhagddo unwaith eto, gyda chymorth morwyr. Trechodd a meddiannodd dref a chastell Lacharn, a bygythiodd y llu a oedd yn amddiffyn Caerfyrddin dros y brenin. Gwarchaewyd ar gastell Aberteifi a chymerwyd ef ar 29 Rhagfyr 1644. Yng ngwanwyn 1645 anfonwyd Gerard yn ôl i Dde Cymru. Daeth ar warthaf Laugharne yn sydyn pan oedd hwnnw'n gwarchae ar Gastellnewydd Emlyn, a threchodd ef. Gwnaeth y gorchfygiad hwn