Search results

649 - 660 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

649 - 660 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EDWARDS, HENRY THOMAS (1837 - 1884), deon Bangor Brawd hŷn i'r archesgob A. G. Edwards. Ganwyd yn Llan-ym-Mawddwy, Sir Feirionnydd, 6 Medi 1837. Ar ôl addysg fore fylchog, aeth i Rydychen (yn gyntaf i Christ Church, ac yna i Goleg Iesu), a graddiodd yn 1861, ond lluddiwyd ef gan waeledd rhag ymgymryd â'r cwrs anrhydedd terfynol yn y clasuron. Wedi bwrw rhai misoedd yn athro yn Llanymddyfri, bu'n gurad i'w dad yn Llangollen o 1861 hyd 1866
  • EDWARDS, HUMPHREY (1730 - 1788), meddyg ac apothecari . John Ellis, rheithor Llanrug o 1777 i 1792, fenthyg dwy gyfrol o Lives of the Poets Johnson iddo ar 2 Ionawr 1782 (Bangor MS. 575). Prif ddiddordeb Humphrey Edwards ydyw iddo hwylio o amgylch y byd fel llawfeddyg, ' ship's surgeon,' ar y 'frigate' Tamer, un o'r ddwy long ryfel fach a aeth allan i chwilio Môr y De o dan lywyddiaeth Commodore Byron, taid Byron y bardd, yn y blynyddoedd o 21 Mehefin
  • EDWARDS, HUW THOMAS (1892 - 1970), arweinydd ym myd undebaeth a gwleidydd Ganwyd 19 Tachwedd 1892 ym Mhen-y-ffridd, y Ro-wen, Dyffryn Conwy, Sir Gaernarfon, yr ieuangaf o saith o blant Huw Edwards, tyddynnwr a chwarelwr, a'i wraig. Ychydig o addysg ffurfiol a dderbyniodd, ond fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig a chrefyddol. Yn 1907, ac yntau'n 14 oed, dilynodd ei dad i weithio yn chwarel ithfaen Penmaen-mawr. Arferai gerdded i'w waith o lethrau Mynydd Tal-y-fan i
  • EDWARDS, HUW THOMAS (1892 - 1970), undebwr llafur a gwleidydd Ganwyd Huw T. Edwards ar 19 Tachwedd 1892 mewn bwthyn o'r enw Pen-y-ffridd, Ro-wen, sir Gaernarfon, yn fab ieuengaf i Huw Edwards, chwarelwr, a'i wraig gyntaf Elizabeth (g. Williams). 'Hugh' oedd yr enw a gofrestrwyd ar ei dystysgrif geni ond roedd yn cael ei adnabod am y rhan fwyaf o'i oes gan y sillafiad Cymraeg 'Huw'. I lawer, adwaenid ef fel 'Huw T'. Cafodd Huw T ei fagu mewn teulu a chymuned
  • EDWARDS, Syr IFAN ab OWEN (1895 - 1970), darlithydd, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru; . Ellis Williams, gwnaeth y ffilm (rannol lwyddiannus) lafar Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr, ar gyfer sinema deithiol; a bu'n gyfarwyddwr cwmni Teledu Cymru a'r Gororau (T.W.W.), gan ddylanwadu o blaid y Gymraeg ar aelodau'r bwrdd. Trwy ei ymdrechion ef yr agorwyd yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth yn 1939. Ar waethaf pob beirniadaeth ystyriai mai hon oedd y fenter fwyaf llwyddiannus a gwerthfawr y bu'n
  • EDWARDS, JOHN (Siôn Treredyn; 1606? - c. 1660?), offeiriad a chyfieithydd rhai ein bod yma yn cael dau ŵr yn dwyn yr un enw, ond ni eill neb brofi hynny. Pa un bynnag, nid oes amheuaeth na bu'r cyfieithydd yn dal bywoliaeth Tredynog (neu Treredynog), ac fe'i collodd yn 1649. Ni wyddom pa bryd y bu farw Yn 1651, cyhoeddodd gyfieithiad o lyfr Edward Fisher, Marrow of Modern Divinity, sef Madruddyn y Difinyddiaeth Diweddaraf. [Nid oes sicrwydd mai Edward Fisher oedd awdur y
  • EDWARDS, Syr JOHN (1770 - 1850), barwnig ac aelod seneddol Ganwyd 15 Ionawr 1770, mab John Edwards (bu farw 1789), Greenfields, Machynlleth (Plas Machynlleth). Ymaelododd yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ar 8 Rhagfyr 1787. Daeth yn gyrnol ym milisia sir Drefaldwyn, a bu'n uchel siryf Meirionnydd (1805), a Sir Drefaldwyn (1818). Rhwng 1832 a 1841 ymladdodd bedair etholiad seneddol fel Chwig, gan ymdrechu ennill a chadw etholaeth bwrdeisdrefi sir
  • EDWARDS, JOHN (1692? - 1774), clochydd a bardd mab John Edwards a'i wraig Elinora (?). Bedyddiwyd ef yn 1692 yn eglwys plwyf Manafon, Sir Drefaldwyn, ac yno y priodwyd ef a Catherine, merch Evan Evans, Cwm-yr-annel, Carno, yn 1730. Bu'n glochydd Manafon am 50 mlynedd. Cyfansoddodd englynion a charolau, a chyhoeddwyd peth o'i waith yn almanac Evan Davies ('Philomath'), Manafon, 1738, ac yn almanaciau Gwilym Howell, Llanidloes, 1766-75
  • EDWARDS, JOHN (Siôn Ceiriog; 1747 - 1792), bardd ac areithiwr Ganwyd yng Nglynceiriog yn sir Ddinbych. Aeth i Lundain yn ŵr ifanc, ac wedi dyfod i gysylltiad ag Owen Jones (' Owain Myfyr ') a Robert Hughes ('Robin Ddu o Fôn'), ymunodd a Chymdeithas y Gwyneddigion. Ef oedd un o'r aelodau amlycaf o hynny hyd ei farw yn Medi 1792. Bu'n ysgrifennydd yn 1779, yn llywydd yn 1783, ac edrychid arno fel bardd y gymdeithas. Pan gynigiodd y Cymmrodorion 'fath arian
  • EDWARDS, JOHN (Eos Glan Twrch; 1806 - 1887), bardd a llenor Ganwyd 15 Ebrill 1806 yn Tynyfedw, plwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd. Cafodd beth addysg o dan Michael Jones a bu'n aelod o Gymdeithas Cymreigyddion Llanuwchllyn. Ymfudodd i U.D.A. yn 1828. Bu'n byw yn New York, yna yn Utica, ac yn ôl yn New York (1834-42). Priododd, yn New York, Mary James, merch o Gastellnewydd Emlyn. Symudodd i Floyd yn nhalaith New York a bu'n ffermio yno am 24 mlynedd. Yn
  • EDWARDS, JOHN (Siôn y Potiau; c. 1700 - 1776) , 1749. Lluniodd gyfieithiad o'r ail a'r drydedd ran o'r Pilgrim's Progress. Cyhoeddwyd yr ail ran gan Stafford Prys - yn 1761-2, mae'n debyg, a barnu oddi wrth 'Rybudd' y cyfieithydd (168), ac nid yn 1767 fel y dywed William Rowlands ('Gwilym Lleyn'). Argraffwyd y drydedd ran 'tros Ddafydd Llwyd o'r Bala ' yng Nghaerlleon yn 1768 - enwir Robert Llwyd o'r Bala yn yr ail ran fel cyfaill i'r cyfieithydd
  • EDWARDS, JOHN (fl. ail hanner y 17eg ganrif), pregethwr a Bedyddiwr rhydd-gymunol o'r Fenni, a chrydd wrth ei alwedigaeth i'r offeiriad Thomas Morgan 9 Rhagfyr 1660. Bu'n ffyddlon i'w broffes ar waethaf holl galedi'r erledigaeth, ac ar 10 Awst 1672, yn sgil y ' Declaration of Indulgence,' trwyddedwyd ei gartref yn y Fenni yn addoldy. Ni wyddys pa bryd y bu farw, ond y mae sôn amdano mor ddiweddar â 1689-90 fel diacon yn eglwys Llangwm, Mynwy, 'yn ffyddlon yn ei swydd ond yn isel yn y byd.'