Search results

637 - 648 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

637 - 648 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EDWARDS, ARTHUR TRYSTAN (1884 - 1973), pensaer ac arloeswr cynllunio trefi y mae The things which are seen: a philosophy of beauty (1921, 1948, 1972), Architectural style (1925, 1935, How to observe buildings, 1972), Sir William Chambers (1926), The second battle of Hastings, 1939-45 (1970) Wedi iddo ymddeol i Gymru ac i fro ei febyd cyfrannodd yn helaeth i'r astudiaethau rhanbarthol a gyhoeddwyd gan Robert Hale gyda phapurau ar Merthyr Tudful, a Rhondda a'r Cymoedd
  • EDWARDS, ARTHUR TUDOR (1890 - 1946), llawfeddyg Ganwyd Abertawe, 7 Mawrth 1890, mab hynaf William Edwards, Y.H. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Mill Hill, Coleg S. Ioan, Caergrawnt, ac ysbyty Middlesex, Llundain, lle y cyflwynwyd iddo ysgoloriaeth hynaf Broderip ac ysgoloriaeth y Brifysgol. Graddiodd yn feddyg 1913; graddau uwch, M.Ch. a F.R.C.S. 1915. Gwasanaethodd yn y R.A.M.C. yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chodi'n uch-gapten. Penodwyd ef yn
  • EDWARDS, CHARLES ALFRED (1882 - 1960), metelegydd a phrifathro Coleg y Brifysgol, Abertawe Ganwyd 23 Mawrth 1882, mab Samuel ac Elizabeth Edwards, Kitchener, Ontario, Canada. Symudodd y teulu i sir Gaerhirfryn yn 1884. Prentisiwyd ef yn 1898 yn ffowndri gweithiau rheilffyrdd siroedd Caerhirfryn ac Efrog. Cymaint oedd ei ddiddordeb ym mhriodoleddau metelau ac aloion fel y penodwyd ef yn gynorthwywr yn adran feteleg y Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn 1905, lle y bu'n cydweithio â'r Dr
  • EDWARDS, DAVID MIALL (1873 - 1941), diwinydd a llenor Ganwyd 22 Ionawr 1873 yn Llanfyllin, mab William Edwards, groser a garddwr, a Jane Edwards. Addysgwyd ef i ddechrau yn ysgol y bwrdd, Llandderfel, ac ysgol ramadeg y Bala, ac aeth oddiyno gydag ysgoloriaeth i goleg y Brifysgol, Bangor. Gan nad oedd hawl y pryd hwnnw gan Brifysgol Cymru i roddi graddau, eisteddodd yr arholiad am Anrhydedd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Llundain, a chafodd Anrhydedd yn
  • EDWARDS, DOROTHY (1903 - 1934), nofelydd Ganwyd yn Ogmore Vale, Sir Forgannwg, merch Edward Edwards, prifathro ysgol, ac ŵyres i'r Parch. Taliesin Jones, Groeswen. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Howells, Llandaf, ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd; graddiodd mewn Groeg ac athroniaeth er mai yn llenyddiaeth Saesneg yr oedd ei diddordeb pennaf. Cyhoeddodd Rhapsody, casgliad o ystorïau byrion, yn 1927, a Winter Sonata yn 1928. Er fod Winter
  • EDWARDS, EBENEZER (1824 - 1901), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ysgrifennodd, y pwysicaf ydyw Welshmen as Factors in the Development of the Republic … Successful Prize Essay … International Eisteddfod … Chicago 1893 … (Utica, N.Y., 1899). Bu farw yn nechrau'r flwyddyn 1901.
  • EDWARDS family Chirkland, Y mae'r hen deulu hwn, o swydd Ddinbych, ac yn disgyn o Tudur Trefor, i'w gael wedi ymsefydlu'n gynnar yng nghwmwd Nanheudwy a changhennau ohono yn Sir y Fflint. Daw'n bwysig i gychwyn ym mherson JOHN AB EDWARD, neu EDWARDS (bu farw 1498), ' derbynydd ' a phrif fforestydd Chirkland o dan Syr William Stanley. Enwogodd ei fab ef, WILLIAM EDWARDS (bu farw 1532), ei hun yng ngwarchae Tournai (1513
  • EDWARDS, FANNY WINIFRED (1876 - 1959), athrawes, llenor plant a dramodydd Ganwyd 21 Chwefror 1876 ym Mhenrhyndeudraeth, Meirionnydd, yn chwaer i'r bardd Gwilym Deudraeth a'r ieuengaf o'r deuddeg plentyn a aned i William Edwards, master mariner, a'i wraig Jane (ganwyd Roberts). Addysgwyd hi yn ysgol elfennol Penrhyndeudraeth lle y bu wedyn fel disgybl-athrawes ac yna'n athrawes hyd nes iddi ymddeol fis Rhagfyr 1944 ar ôl cyfnod o dros hanner canrif o wasanaeth
  • EDWARDS, Syr FRANCIS (1852 - 1927), barwnig ac aelod seneddol Ganwyd 28 Ebrill 1852, yn bedwerydd mab Edward Edwards, Llangollen. Addysgwyd yn ysgol Amwythig a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn B.A. yn 1875. Priododd yn 1880 Catherine, merch David Davies o Faesyffynnon, Aberdâr, a bu iddynt un ferch. Bu'n ustus heddwch a dirprwy-raglaw dros sir Faesyfed, ac yn uchel siryf yn 1898. Cynrychiolodd sir Faesyfed yn y Senedd, 1892-5, 1900-Ionawr 1910
  • EDWARDS, GEORGE ROWLAND (1810 - 1894), milwr a meistr tir goleuedig Ganwyd yn Ness Strange, Swydd Amwythig, mab hynaf John Edwards (ustus heddwch, dirprwy-raglaw, etc.) a Charlotte, wyres y 3ydd dug Atholl. Cafodd ei addysg yn ysgol Donnington, Swydd Amwythig. Yn 16 oed aeth i wasnaethu'r East India Company. Dychwelodd cyn 1837 a bu'n ysgrifennydd i'r arglwydd Clive adeg terfysg y Siartwyr yn Sir Drefaldwyn; daeth i gael ei adnabod fel 'the man in the great coat
  • EDWARDS, GRIFFITH (Gutyn Padarn; 1812 - 1893), offeiriad, bardd, a hynafiaethydd Ganwyd yn Llanberis 1 Medi 1812, mab William Edwards ('Gwilym Padarn'). Ni chafodd ond addysg elfennol yn ei ieuenctid, ond dysgodd yr ieithoedd clasurol gyda Peter Bayly Williams, rheithor Llanrug. Graddiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn 1843, a chymerodd radd M.A. yn 1846. Yn 1843 urddwyd ef i'r weinidogaeth, a'i benodi'n gurad Llangollen. Yn 1846 penodwyd ef yn gurad parhaol Minera, ac yn
  • EDWARDS, GWILYM ARTHUR (1881 - 1963), gweinidog (MC), prifathro Coleg Diwinyddol Aberystwyth, ac awdur Ganwyd 31 Mai 1881 yng Nghaernarfon, mab Owen Edwards, gweinidog (MC) brodor o Lanuwchllyn (cefnder Syr Owen M. Edwards), a Mary (ganwyd Jones) ei briod. Ymfudodd y tad i Awstralia i gael adferiad iechyd, ond bu farw'i briod cyn iddi fynd â'i theulu i ymuno ag ef ym Melbourne. Magwyd y teulu - tri o fechgyn-gan ei rhieni hi yn Nolgellau. Addysgwyd Gwilym yn ysgol sir Dolgellau, a dechreuodd