Search results

565 - 576 of 990 for "Mawrth"

565 - 576 of 990 for "Mawrth"

  • MORGAN, JOHN (1688? - 1734?) Matchin, clerigwr, ysgolhaig, a llenor Ganwyd yn 1688 neu 1689 - yr oedd yn 16 pan ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 16 Mawrth 1704/5. Ei dad oedd Edward Morgan(s), fab John Morgans, ' gent. ', o Lan-ym-Mawddwy), curad parhaol Llangelynnin, Meirionnydd, o 1672 hyd 1701; a'i frawd oedd Edward Morgan(s), a ymaelododd yn Rhydychen ar yr un dydd ag yntau, ond a oedd ddwyflwydd yn hŷn. Bu Edward Morgan yn ficer Tywyn, Meirionnydd, o
  • MORGAN, JOHN (1743 - 1801), clerigwr fisol yn ei dŷ ef bob tri mis. Yn 1792, fodd bynnag, aeth yn ddrwg rhyngddynt, ac ymadawodd Mathias yr eilwaith â Gogledd Cymru. Pan ddaeth y Morafiad Christian Ignatius La Trobe ar daith i Gymru yn 1795, ymwelodd â John Morgan a sylwodd ar ei dlodi dybryd - cafodd gan y Brodyr yn Llundain roi blwydd-dâl o £16 iddo. Bu farw John Morgan yn 1801; claddwyd ef ar 30 Mawrth, 'yn 58 oed.' Bu'n briod
  • MORGAN, JOHN (1827 - 1903), clerigwr a llenor Ganwyd ger Trefdraeth, Sir Benfro, 22 Mawrth 1827, unig fab John Morgan, prifathro ysgol Madam Bevan yn Nhrefdraeth, lle hefyd yr hyfforddid athrawon. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Aberteifi ac athrofa'r Fenni. Ordeiniwyd ef gan yr esgob Ollivant yn 1850 a daeth yn gurad Cwmafon, 1850-2, ficer Pontnewynydd, 1852-75, a rheithor plwyfi unedig Llanilid a Llanharan o 1875 hyd ei farwolaeth. Pregethai
  • MORGAN, JOHN JAMES (1870 - 1954), gweinidog (MC) ac awdur Ganwyd ym Mawrth 1870 yng Nglynberws, Ysbyty Ystwyth, Ceredigion, mab Dafydd Morgan ('Y Diwygiwr') a Jane ei briod. Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Ysbyty Ystwyth; ysgol Ystradmeurig, ysgol Thomas Owens, Aberystwyth; Coleg Aberystwyth a Choleg Trefeca. Ordeiniwyd ef yn 1894, a bu'n gweinidogaethu yn y Bont-faen, Morgannwg (1893-95) a'r Wyddgrug (1895-1946). Priododd 1895, Jeanetta Thomas, Llancatal
  • MORGAN, JOHN RHYS (Lleurwg; 1822 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, darlithydd, bardd, a llenor fe'i bedyddiwyd yn y cyfnod 1840-1, er nad oes sicrwydd gan bwy. Derbyniwyd ef i goleg Pont-y-pŵl yn 1842, a'i ordeinio ym Mangor yn 1846. Yn 1848 symudodd i Aberafan, lle y dechreuodd ei dalent ymddatblygu, ac oddi yno yn 1855 i Gapel Seion, Llanelli, lle yr arhosodd hyd ei farw ar 14 Mawrth 1900. Claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus y dref. Gŵr amryddawn dros ben oedd ' Lleurwg,' a fu'n amlwg ym mywyd
  • MORGAN, JOSEPH BICKERTON (1859 - 1894), daearegwr ac arbenigwr mewn cregynyddiaeth dir ac mewn llynnoedd ac afonydd, ac ar greigiau a ffosylau ei sir; bu hefyd yn traddodi darlithiau yn y Welshpool School of Art. Enillodd ysgoloriaeth i'r Royal College of Science (1892) a dyfarnwyd iddo fedal Murchison y Geological Society, eithr oblegid fod ei iechyd yn gwanhau gorfu iddo ymneilltuo i'r Isle of Wight, lle y bu farw, yn Ventnor, ar 8 Mawrth 1894. Cyfrifai daearegwyr cyfoes ei farw
  • MORGAN, RICHARD HUMPHREYS (1850 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor 1892 ac ymneilltuodd o waith bugeiliol a mynd i fyw i Fangor. Bu'n ysgrifennydd pwyllgor Coleg y Bala o 1886 hyd 1899. Bu farw ym Mangor 31 Mawrth 1899 a chladdwyd ef yn Nhywyn, Meirionnydd. Priododd, 23 Hydref 1879, Barbara Elizabeth, merch Griffith Jones, Gwyddelfynydd, ger Tywyn, ac wyres i Richard Jones, y Wern. Ni bu ganddynt blant. Ysgrifennodd i'r Traethodydd, Y Geninen, Y Drysorfa, a
  • MORGAN, THOMAS (1543 - c. 1605), Pabydd a chynllwynwr , ac, ar ôl iddo gael ei gwestiyno gan y Cyngor (15 Mawrth 1572) fe'i carcharwyd yn Nhŵr Llundain am naw mis fel un a fu â chyfran ganddo yn y ' Ridolfi Plot.' Wedi ei ryddhau aeth i Baris; yno, yn ysgrifennydd i James Beaton, archesgob Glasgow a llys-gennad Mari, parhaodd i ofalu am ohebiaeth Mari hyd y cyhuddwyd ef gan Dr. William Parry o gychwyn cynllwyn i ladd Elisabeth - y cynllwyn y torrwyd pen
  • MORGAN, THOMAS (Afanwyson; 1850 - 1939), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, hanesydd, a llenor Ganwyd yng Nghwmafan, 9 Mawrth 1850, yn fab i Walter a Jane Morgan ac yn nai i David Michael ('Dewi Afan '). Derbyniwyd i Goleg Pontypŵl yn 1875 a'i ordeinio yng Nghaersalem, Dowlais, 1878. Symudodd yn 1895 i Ainon, Caerdydd, lle y dewiswyd ef gyda'r athro Thomas Powel i ad-drefnu llyfrgell Salisbury yng Ngholeg y Brifysgol yno. Oddi yno, yn 1900, aeth i Horeb, Sgiwen, lle yr arhosodd hyd ei
  • MORGAN, THOMAS REES (1834 - 1897), peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd Ganwyd 31 Mawrth 1834, ym Mhenydarren, Merthyr Tydfil. Bu'n gweithio mewn gweithydd haearn nes iddo, yn 10 oed, gael damwain a gollodd iddo ei goes chwith y tu isaf i'r pen-glin. Bu wedyn o dan addysg yn ysgolion John Thomas ('Ieuan Ddu'), Owen Evans, a Taliesin Williams ('Taliesin ab Iolo'); o dan yr olaf dysgodd fathemateg ac elfennau mecaneg. Bu wedyn yn gweithio yn y gweithydd haearn lleol
  • MORGAN, Syr THOMAS (1604 - 1679), milwr -Wold (22 Mawrth 1646) - dychwelodd i sir Fynwy, yn ben-cadfridog, i gymryd rhan yng ngwarchae Rhaglan lle y bu llythyru bywiog rhyngddo ef a'r marcwis Worcester. Bu peth helynt ymhlith ei filwyr pan ryddhawyd hwynt o'r fyddin yng Nghaerloyw yn 1647, eithr siomodd Morgan obeithion brenhinwyr trwy gario allan mewn modd teyrngarol a chywir orchmynion y Senedd. Ar gais Monck fe'i danfonwyd i Sgotland yn
  • MORGAN-OWEN, LLEWELLYN ISAAC GETHIN (1879 - 1960), gweinyddwr milwrol yn yr India Ganwyd 31 Mawrth 1879 yn fab Timothy Morgan-Owen (H.M.I.), Llwynderw, Llandinam, Trefaldwyn, ac Emma (ganwyd Maddox). Addysgwyd ef yn Arnold House, Llandulas; Ysgol Amwythig; a Choleg y Drindod, Dulyn. Bu gyda milisia Caernarfon yn 1899 cyn ymuno â'r fyddin yn 1900 a gwasanaethu gyda'r 24ain South Wales Borderers yn Orange River Colony a'r Transfâl, De Affrica, hyd ddiwedd y rhyfel yn 1902, gan