Search results

409 - 420 of 566 for "Dafydd"

409 - 420 of 566 for "Dafydd"

  • PERYF ap CEDIFOR WYDDEL (fl. 1170), bardd Yr oedd yn un o wyth o frodyr o leiaf, ac yr oedd Hywel ab Owain Gwynedd yn frawd maeth i saith ohonynt. Pan laddwyd Hywel ym mrwydr y Pentraeth, Môn (1170), gan lu Dafydd a Rhodri, ei hanner-brodyr, meibion Cristin, yr oedd y saith yno gydag ef. Lladdwyd rhai ac ni ddihangodd mwy na thri ohonynt yn ddianaf. Lladdesid Ithel, y brawd arall, cyn hynny, yn Rhuddlan, lle'r oedd yn ymladd tros Owain
  • PHILLIPS, EDGAR (Trefîn; 1889 - 1962), teiliwr, athro ysgol, bardd, ac Archdderwydd Cymru, 1960-62 (' Dafydd Morganwg '). Bu'n teiliwra yn Nhreletert a Hendy-gwyn ar Daf am flwyddyn wedi gorffen ei brentisiaeth. Dychwelodd i Gaerdydd i arbenigo ar 'dorri' a datblygodd i fod yn deiliwr dillad merched. Yn 1912 symudodd i Lundain gan weithio mewn nifer o siopau dillad cyn dychwelyd i Gaerdydd fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas. Ym mis Awst 1914 agorodd fusnes teiliwr mewn partneriaeth â Trefor
  • PHYLIP family, beirdd ,' 'Cywydd i'r tai coed ac i'r herber yng Ngwedir,' a 'Cywydd i dref Conwy pan oedd y nodau yno,' I'r dosbarth hwn y perthyn y cywyddau ymryson - gyda'i frawd Rhisiart ynglyn â Nannau, gyda'i ewythr, Siôn Dafydd Siencyn, gydag Edmund Prys, gyda Tomos Prys, Plas Iolyn, a'r gyfres ddiddorol yn yr ymryson â Siôn Tudur. Bu gan Siôn Phylip ran mewn ymrysonau rhwng Edmwnd Prys a William Cynwal a Huw Machno, a
  • PIERCE, ELLIS (Elis o'r Nant; 1841 - 1912), awdur rhamantau hanesyddol a llyfrwerthwr , 1884); Rhamant Hanesyddol: Gruffydd ab Cynan (Dolyddelen a Blaenau Ffestiniog, 1885); Gwilym Morgan: Neu gyfieithydd cyntaf yr Hen Destament i'r Gymraeg (Bala, 1890); Syr Williams o Benamnen (Caernarfon, 1894); Teulu'r Gilfach, neu Robert Sion (Caernarfon, 1897); a Dafydd ab Siencyn yr Herwr, a Rhysyr Arian Daear (Caernarfon, 1905). Ysgrifennai'n gyson i'r Faner o 1865 i 1900, a chyfrannodd i'r
  • POWEL, DAVID (c.1540 - 1598), clerigwr a hanesydd Dywed Yr Athro Melville Richards, ar sail gweithred trosglwyddo tir dyddiedig 26 Hydref 1558 yn Ll.G.C. (Eriviat Estate Records, File 35), y dylid rhoi blwyddyn geni Dr. Powel yn ôl o leiaf i 1540. Yr oedd yn fab i Hywel ap Dafydd ap Gruffudd o Lantysilio a BBryneglwys yn Iâl - gweler yr ach, sy'n ymestyn yn ôl i Edwin ap Gronw o Degeingl, yn Powys Fadog, ii, 340. 'Yn 16 oed,' aeth i goleg
  • POWEL, JOHN (d. 1767), bardd gwlad a gwehydd rhain ceir cywydd ar ddioddefaint Crist, cywydd yn cwyno oherwydd na châi gweithiau'r hen feirdd ymgeledd priodol yn ei amser, cywydd marwnad i filgi, cywyddau i Siôn ap Rhisiart o Fryniog, Ieuan Owain o Ddyffryn Aur, Rhobert Burchinshaw, dau gywydd i ' Ieuan Brydydd Hir ' ac un i Dafydd Jones o Drefriw i erchi copi o'i lyfr, Y Cydymaith Diddan. Cyhoeddwyd y cywydd olaf hwn a'r llythyr a ddanfonwyd
  • POWEL, THOMAS (1845 - 1922), ysgolhaig Celteg 1883. Golygodd dros Gymdeithas y Cymmrodorion The Gododin of Aneurin Gwawdrydd Thomas Stephens yn 1888. Yn 1896 cyhoeddodd adargraffiad ffacsimile o Psalmau Dafydd yr esgob Morgan, 1588, gyda rhagnodiadau helaeth. Yn 1890 priododd Gwenny Elizabeth, merch y Parch. Samuel Jones, Castellnedd a Phenarth. Bu iddynt un mab. Ymhlith ei gyfeillion yn Rhydychen yr oedd Griffith Ellis, Bootle, a Llywarch
  • POWEL, WATCYN (c. 1600 - 1655) Ben-y-fai, Nhir Iarll, gŵr bonheddig, bardd, ac achydd mab Hopcyn Powel, a nai i Antoni Powel o Lwydarth. Fe'i hyfforddwyd yng nghelfyddyd cerdd dafod, a cheir chwech o'i gywyddau yn llaw Tomas ab Ieuan o Dre'r-bryn yn llawysgrif Llanover B 1. Ychydig a wyddom amdano, ond dengys y marwnadau a ganwyd iddo gan Edward Dafydd a David Williams ('Dafydd o'r Nant') ei fod yntau, fel ei ewythr, yn achydd ac yn ŵr cyfarwydd â chelfyddyd herodraeth. Ond cyn
  • POWELL family Nanteos, Llechwedd-dyrus, Y mae'r teulu hwn yn hawlio ei fod yn disgyn o Edwin ap Gronow, Tegeingl. Dywedir mai Dafydd ap Philip ap Hywel oedd yr 'ap Hywel' (Powell) cyntaf a fu'n gysylltiedig â Llechwedd-dyrus, cartref cyntaf y teulu; yn ôl Peniarth MS 156 (gweler West Wales Historical Records, i) yr oedd ei wraig ef yn ferch i John ap Edward o Nanteos. Wyr iddynt hwy oedd Syr THOMAS POWELL, serjeant-at-law (1688), barwn
  • PRICE, JOHN (1857 - 1930), cerddor Ganwyd 5 Mawrth 1857 yn Llangamarch, sir Frycheiniog, mab Dafydd ac Ann Price. Symudodd y teulu i fyw i Beulah, ger y Garth, sir Frycheiniog, lle y bu byw ar hyd ei oes. Yn fachgen dysgwyd iddo gyfundrefn Hullah a daeth i ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd. Ymunodd yn nosbarth solffa D. Buallt Jones, a chafodd wersi gan D. W. Lewis, Brynaman, a graddiodd yn G. a L.T.S.C. Cynhaliodd ddosbarthiadau
  • PRICE, Syr JOHN (1502? - 1555), notari, prif gofrestrydd y brenin mewn achosion eglwysig, ac ysgrifennydd cyngor Cymru a'r gororau Ychydig a wyddys am ei flynyddoedd cynnar. Mab ydoedd i Rys ap Gwilym ap Llywelyn ap Rhys Llwyd ab Adam, o Frycheiniog, a Gwenllian, ei wraig, merch Hywel Madog. Yr oedd felly o'r un gwehelyth â'r bardd Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys [Llwyd], ac yng nghanol prysurdeb ei fywyd cymharol fyr, cadwodd yntau'n agos at y traddodiad barddol Cymreig. Y mae'n bur sicr mai ef oedd y John Pryse a gafodd
  • PRICE, THOMAS (Carnhuanawc; 1787 - 1848), clerigwr a hanesydd Ganwyd 2 Hydref 1787 yn Pencaerelin yn Llanfihangel Bryn Pabuan, sir Frycheiniog, yr ail o ddau blentyn Rice Price, ficer Llanwrthwl o 1789 hyd ei farw yn 1810, a Mary Bowen, Pencaerelin hithau'n ferch i glerigwr ac o dras bonheddig. Ar yr aelwyd gartref clywai'r bachgen hen gerddi a thraddodiadau'r werin, cywyddau Dafydd ap Gwilym, ac, ar dro, fiwsig y delyn. Bu ef a'i frawd mewn tair ysgol yn y