Search results

25 - 36 of 182 for "Gruffudd"

25 - 36 of 182 for "Gruffudd"

  • DAFYDD y COED (fl. 1380), un o'r Gogynfeirdd diweddar Cadwyd pedair awdl sylweddol o'i waith a mân bethau o natur dychan yn ' Llyfr Coch Hergest.' Canodd i Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (fl. 1386-97), Hopcyn ap Thomas o Ynys Dawe (fl. 1360-90), a Gruffudd ap Llywelyn o Uwch Aeron. Cadarnheir amcan Moses Williams, yn ei Repertorium Poeticum, mai tua 1380 y blodeuai. Gwr o Ddeheubarth ydoedd fel y dengys yr awdlau uchod a'r mân ddarnau, sy'n
  • DAVIES, HUMPHREY (d. 1635), ficer Darywain, a chopïydd llawysgrifau Cymraeg Mab Dafydd ap Gruffudd o gyffiniau Harlech. Dywedir iddo fod yn rheithor Llanfyllin am rai misoedd yn 1571, ac iddo fyned oddi yno i astudio yng Nghaergrawnt. Ymddengys i'w yrfa yno gael ei chymysgu ag eiddo gwr o'r un enw o Leamington Hastings yn y llyfrau ar raddedigion Caergrawnt. A barnu oddi wrth ddistawrwydd y beirdd ar y pwnc, ni chymerth radd yno. Bu'n ficer Darywain o 1577 hyd ei farw yn
  • DEIO ab IEUAN DU (fl. 1460-80), bardd Dywaid ef ei hun mai yn y Creuddyn, Ceredigion, yr oedd ei gartref, a gelwir ef yn y llawysgrifau yn ' Deio Du o Benadeiniol.' Canodd i uchelwyr Morgannwg, Ceredigion, Meirionnydd, a Dinbych. Y mwyaf diddorol o wrthrychau ei fawl oedd Gruffudd Fychan o Gorsygedol, un o gefnogwyr mwyaf pybyr Siasbar Tudur yn y blynyddoedd 1460-8. Deio ab Ieuan Du yw awdur y llinell ' Y ddraig goch ddyry cychwyn
  • DWN, HENRY (cyn c. 1354 - Tachwedd 1416), uchelwr a gwrthryfelwr Roedd Henri Dwn o Groesasgwrn, Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Gruffudd Dwn (neu Gruffudd Gethin) ap Cadwgan ac Annes ferch Cadwgan ap Ieuan, ac yn ddisgynnydd o lin Llywelyn ap Gwrgan, arglwydd Cydweli. Ymddengys Dwn yn y cofnod hanesyddol yn gyntaf ym Mhicardi a Normandi yn 1369 yn llu John of Gaunt, dug cyntaf Caerhirfryn, ac fe'i penodwyd yn ystiward Cydweli gan Gaunt yn 1388-89. Yn
  • DWNN, GRUFFYDD (c. 1500 - c. 1570), gŵr bonheddig Yr enwocaf o Ddwniaid Sir Gaerfyrddin a'r cyntaf i fyw yn Ystrad Merthyr, ger Cydweli, plasty a godwyd yn 1518. Priododd ddwywaith, a bu iddo wyth o blant, yr hynaf ohonynt yn 11 oed yn 1533. Ond gwelodd ddryllio ei deulu gan heintiau mynych y cyfnod. Canodd beirdd fel Syr Owain ap Gwilym, Harri ap Rhys ap Gwilym, Tomas Fychan, William Llŷn, Gruffudd Hiraethog, Owain Gwynedd, etc., iddo ef, a'i
  • DWNN, OWAIN (c. 1400 - c. 1460) 'englynion a fu rhwng Gruffudd ap Nicholas ag Owain Dwnn a Gruffudd Benrhaw ' (y mae'r testun hynaf ohonynt yn NLW MS 3039B (59-78)), ond anodd barnu eu dilysrwydd. Priodolir un englyn proest i Owain Dwnn, hefyd, yn NLW MS 3039B (510).
  • EDWARDS, Syr JOHN GORONWY (1891 - 1976), hanesydd (1935), cyfrol o destunau neu grynodebau o destunau o archifau'r Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus, wedi eu dyddio'n ddiogel am y tro cyntaf; a Littere Wallie (1940) o 1217 i 1297, a gymerwyd o gofrestr o ddogfennau wedi eu trawysgrifio'n llawn gan Edwards ynghyd ag ysgrif a drawsnewidiodd ddealltwriaeth o'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a'i berthynas ag Edward I. Ar yr un pryd, roedd ysgrifau ar y senedd
  • EINION ap MADOG ap RHAHAWD (fl. c. 1237), un o'r Gogynfeirdd Un darn o'i farddoniaeth sydd ar gael, sef awdl foliant i'r tywysog Gruffudd ap Llywelyn. Ceir hi yn Hendreg. MS. ac mewn copïau o'r llawysgrif honno (B.M. MS. 14, 869, Llanstephan MS 31, Peniarth MS 119. Fe'i cyhoeddwyd yn The Myvyrian Archaiology of Wales, i, 391; Anwyl, The Poetry of the Gogynfeirdd, 154; Llawysgrif Hendregadredd, 54-5; a Stephens, The Literature of the Kymry, 371-2.
  • EINION OFFEIRIAD (fl. c. 1320), y gwr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cynharaf sydd gennym hynny yw, llyfr yn trafod celfyddyd cerdd dafod, ac yn rhoddi talfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol. Canodd awdl i Rys ap Gruffudd ap Hywel ap Gruffudd ab Ednyfed Fychan, a pherthyn hon i'r cyfnod 1314-22. Myn Syr Thomas Williams yn NLW MS 3029B mai gwr 'o Wynedd ' ydoedd, ac iddo lunio'r gramadeg 'yr ynrrydedd a Moliant' i'r un Rhys ap Gruffudd. Ni chyfeirir ato
  • EINION WAN (fl. 1230-45), bardd Ceir chwe chyfres o'i englynion, sef dwy i Fadog ap Gruffudd Maelor (bu farw 1236 - sef y tywysog y gelwir Powys Fadog wrth ei enw), dwy i Lywelyn ab Iorwerth (bu farw 1240), a chyfres yr un i feibion Llywelyn, sef i Ddafydd (bu farw 1246), ac i Ruffudd. Marwnadol yw'r naill o'r ddwy gyfres i Fadog, ac i Lywelyn, a'r ddwy arall yn gyfresi a ganwyd iddynt yn eu byw. Englynion dadolwch sydd i
  • ELEANOR DE MONTFORT (c. 1258 - 1282), tywysoges a diplomydd Eleanor oedd plentyn ieuengaf a'r unig ferch a oroesodd i Simon de Montfort, iarll Caerlŷr (c. 1208-1265) a'i wraig, Eleanor (1215?-1275), iarlles Penfro a Chaerlŷr. Roedd ganddi bum brawd, Henry de Montfort, Simon de Montfort, Amaury de Montfort, Guy de Montfort a Richard de Montfort. Hi oedd gwraig Llywelyn ap Gruffudd (marw 1282). Ni wyddys ble y ganwyd Eleanor, ond ymddengys iddi aros gyda'i
  • ELIDIR SAIS (fl. niwedd y 12fed ganrif a hanner cyntaf y 13eg.), bardd i Dduw hyd tra fwyf ddyn.' Sonia am lyfrau llên na ddylid eu hamau, ac y mae manylder rhai o'i syniadau yn awgrymu gwybodaeth o lenyddiaeth grefyddol ei oes. Yn ei farwnad i Ednyfed Fychan fe ategir y traddodiad y sonia Syr J. E. Lloyd amdano (gweler t.684 o'r A History of Wales) i'r gwleidydd hwnnw gael gyrfa filwrol. Gwyddom i un o feibion Rhys ap Gruffudd gael ei alw'n ' Sais ' am iddo orfod