Search results

325 - 336 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

325 - 336 of 3963 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAFYDD NANMOR (fl. 15fed ganrif), bardd a phlaid Iorc arno yn 1468. Gan i'r brwydro yn Ffrainc ddarfod yn 1453, deil T. Roberts fod yn rhaid amseru ymadawiad Dafydd o Wynedd cyn y flwyddyn honno, a chyfrif gywyddau Gwen fel ei gyfansoddiadau cynharaf (The Poetical Works of Dafydd Nanmor, xvii-xix). Cafodd nawdd yn y De, yn llysoedd Rhys ap Meredudd o'r Tywyn (ger aber afon Teifi), ei feibion, a'i geraint. Nodir y Tŷgwyn-ar-Daf fel y man
  • DAFYDD PENNANT (fl. c. diwedd yr 16eg ganrif), bardd Ceir dau gywydd o'i eiddo yn y llawysgrifau, sef 'Cywydd Moliant William o'r Penrhyn' a 'Cywydd Serch neu Wyth Camp Ymadrodd.'
  • DAFYDD TREFOR Syr (d. 1528?), offeiriad a bardd Ganwyd ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, medd John Jones ('Myrddin Fardd') yn Cwrtmawr MS 561C; yn ei 'Cywydd i ofyn Geifr' sonia am ei 'ewythr,' Morgan ap Hywel, Llanddeiniolen. Ceir crynodeb, gan Irene George (Lloyd-Williams), yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society, 1934, o'r hyn a gasglesid ganddi hyd y flwyddyn honno am hanes y bardd. Mewn rhestr o glerigwyr esgobaeth
  • DAFYDD WILIAM PYRS (PRYS) (fl. c. 1660), bardd Dywedir ei fod yn frodor o Gynwyd yn Sir Feirionnydd. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cedwir o leiaf ddwy o'i gerddi, sef un a elwir yn 'hanes yr hen ŵr o'r coed,' a cherdd ymddiddan rhyngddo a Mathew Owen o Langar. Cerdd ar ddull ymddiddan rhwng dwy chwaer yw'r olaf, a'r ddau fardd yn canu pob yn ail bennill ynddi.
  • DAFYDD WILLIAM PRYS (fl. 1603-1622), bardd - see DAFYDD EMLYN
  • DAFYDD y COED (fl. 1380), un o'r Gogynfeirdd diweddar Cadwyd pedair awdl sylweddol o'i waith a mân bethau o natur dychan yn ' Llyfr Coch Hergest.' Canodd i Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (fl. 1386-97), Hopcyn ap Thomas o Ynys Dawe (fl. 1360-90), a Gruffudd ap Llywelyn o Uwch Aeron. Cadarnheir amcan Moses Williams, yn ei Repertorium Poeticum, mai tua 1380 y blodeuai. Gwr o Ddeheubarth ydoedd fel y dengys yr awdlau uchod a'r mân ddarnau, sy'n
  • DAFYDD, EDWARD (c. 1600 - 1678?) Fargam, bardd hanes barddol y sir. Yr oedd, meddai, yn un o'r rhai a roesai drefn ar Ddosbarth Morgannwg ar fesurau cerdd dafod fel y ceir ef yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829). Mynnai ymhellach mai yng ' Ngorsedd y Bewpyr ' yn 1681 y cadarnhawyd y dosbarth hwn, ac Edward Dafydd yn un o'r penceirddiaid. Nid yw hyn oll ond breuddwyd. Ni wyddys am ddim o'i waith sy'n ddiweddarach na 1665. Claddwyd dau ' Edward
  • DAFYDD, JOHN (fl. 1747), emynwyr brawd, oedd y Parch. Richard David, Llansadwrn. Ceir nifer o emynau'r ddau frawd gan William Williams, Pantycelyn, yn ei Aleluia, 1747; John biau'r emyn 'Newyddion braf a ddaeth i'n bro,' a Morgan a ganodd yr emyn 'Yr Iesu'n ddi-lai a'm gwared o'm gwae.'
  • DAFYDD, OWEN (1751 - 1814?), bardd cefn gwlad a baledwr Dywedir mai o Wynfe, Sir Gaerfyrddin yr hannai, ond trigai yn Llandybïe yn 1783. Bernir mai ef yw'r ' Owen Watkin ' a briododd Joyce William o Gwm Aman, yno 21 Tachwedd 1783. Crwydrodd lawer ar hyd ei oes wrth ddilyn galwedigaeth melinydd. Bu'n byw am dymor yng Nghwmgrenig-fach, Cwm Aman, ac ar ôl hynny yn Llwyn Uchedwel gerllaw'r Glais yng Nghwmtawe; Cefn Myddfai, Llangyfelach; a Melin Gurwen
  • DAFYDD, PHILIP (1732 - 1814), cynghorwr Methodistaidd yng Nghastellnewydd Emlyn Clocsiwr tlawd. Ymgynullai'r seiat Fethodistaidd yn ei dŷ yn 1760, a thrachefn (i aros codi'r capel yn 1776) yn 1774-5. Prydyddai, a chyhoeddodd farwnadau i William Williams, Pantycelyn, yn 1791, ac i Ddaniel Rowland yn 1797 - gweler Llyfryddiaeth y Cymry. Nid mor adeiladol fu ei waith yn argyfwng 1797 pan gyhuddwyd amryw o weinidogion yr Ymneilltuwyr o gyd-ddealltwriaeth â'r Ffrancwyr
  • DAFYDD, RICHARD WILLIAM (fl. 1740-52), cynghorwr Methodistaidd Brodor o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin, a brawd i David Williams, Llyswyrny. Dywedir iddo bregethu ym Môn yn 1740 a chael triniaeth arw yno. Gwyddys yn sicr ei fod yn cynghori yn 1742, a phenodwyd ef yn sasiwn Llanddeusant, 1743, i arolygu seiadau yn Sir Gaerfyrddin. Cymerth ran yng ngwrthryfel John Richard Llansamlet, yn erbyn trefniadau'r sasiwn yn 1743, ac ysgrifennwyd ato i'w ddarbwyllo gan
  • DAFYDD, WILLIAM (fl. c. 1597), bardd