Search results

13 - 24 of 132 for "Emlyn"

13 - 24 of 132 for "Emlyn"

  • DAFYDD EMLYN (fl. 1603-22), prydydd ac, yn ôl Moses Williams, offeiriad [Gweler hefyd: Moses Williams.] Y mae'r ffugenw Emlyn yn awgrymu ei fod yn hanu o gyffiniau Teifi. Canodd yn y mesurau caeth i deuluoedd yng Nghemais, megis Henllys (1603), Llwyn Gwair, Tre Wern (1614) a Phen-y-benglog (1618, 1622), yn Nhrum Saran, ac ym Margam. Gellir gweld peth o'i waith yn ei law ei hun yn Llanstephan MS 38 a B.M. MS. 48.
  • DAFYDD, PHILIP (1732 - 1814), cynghorwr Methodistaidd yng Nghastellnewydd Emlyn
  • DAVID, REES (fl. 1746), Bedyddiwr Arminaidd cynnar Jones ar ei wyneb-ddalen ac ar ddiwedd ei ragair. Gellid meddwl mai tua Chastellnewydd Emlyn yr oedd Rees David yn cadw ysgol ar y dechrau; yr oedd yn un o'r gwŷr a arwyddodd lythyr o Landysul at eglwys Rhydwilym yn 1725. Ond yn 1729 troes yn Armin, a symudodd i gadw ysgol yn Hengoed, lle'r oedd Charles Winter yn byw. Pan aeth hi'n helynt yn Hengoed (1730), gwrthododd Rees David gymrodeddu; ymadawodd
  • DAVIES, BEN (1840 - 1930), gweinidog Annibynnol, pregethwr poblogaidd, ac awdur Iwan hefyd dan ei ofal; ac fel ' Davies Trelech ' yr adnabyddid ef yn nyddiau'i boblogrwydd fel pregethwr. Yn 1902 ymadawodd a Threlech â derbyn Ebeneser, Castellnewydd Emlyn, at Gapel Iwan, a rhoes heibio'r olaf eto yn 1918. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau, Gair y Cymod, yn 1882, a dilynwyd hwn gan dair arall yng nghwrs y blynyddoedd, sef Y Bywyd Annherfynol, Pyrth Seion, Y Gronyn Gwenith. Cyhoeddodd
  • DAVIES, DAFYDD GWILYM (1922 - 2017), gweinidog, darlithydd a Phrifathro Coleg y Bedyddwyr Ganwyd Dafydd G. Davies ar 1 Gorffennaf 1922 yn Prysgol, y Ffôr, Pwllheli, unig blentyn John Clement Davies (1896-1982), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig Gwen Ellen (g. Griffith, 1894-1970), athrawes Gymraeg. Symudodd y teulu pan alwyd ei dad i fugeilio'r eglwys yng nghapel y Graig, Castellnewydd Emlyn, yn 1922, ac yno y magwyd y mab. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Adpar, Castellnewydd Emlyn
  • DAVIES, DAVID (1753 - 1820), offeiriad Methodistaidd Ganwyd 1753, mab i John a Catherine Davies, Pen-y-bont, Castellnewydd Emlyn. Ei rieni oedd cefnogwyr pennaf y Methodistiaid yng Nghastellnewydd, ac yn eu cartref yr ymgynullai'r seiat un adeg. Yr oedd rhyw David Davies yn gurad Llanddarog a Llanarthnau, Sir Gaerfyrddin, 1769-1785, yn gefnogydd eiddgar i'r Methodistiaid; eithr 16 oed oedd gwrthrych y nodyn hwn yn 1769 od yw oed ei farw a welir ar
  • DAVIES, DAVID (Dewi Emlyn; 1817 - 1888), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., bardd, ac awdur Ganwyd 9 Tachwedd 1817, ym Mhant-y-garn, plwyf Cenarth, ac yn disgyn o deulu o feirdd ac ysgrifenwyr. Yr oedd yn aelod yng nghapel yr Annibynwyr yn Capel Iwan. Cafodd ei addysg yng Nghastell Newydd Emlyn a Choleg Abertawe, a bu'n athro ysgol. Dechreuodd bregethu yn 1843, ymfudodd ef a'i wraig i America yn 1852, a'r un flwyddyn fe'i hordeiniwyd yn Paris, Portage, Ohio. Cafodd weinidogaeth hir - yn
  • DAVIES, DAVID CHRISTOPHER (1878 - 1958), cenhadwr, cynrychiolydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yng Nghymru , oherwydd gwaeledd iechyd dychwelodd i weithio fel cynrychiolydd y Gymdeithas Genhadol yng Nghymru, a bu'n weithgar arbennig gyda threfniadau ysgolion haf y Gymdeithas mewn gwahanol ganolfannau yng Nghymru cyn ymsefydlu dros gyfnod yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth, ac ar ôl hynny yn y Cilgwyn, Castellnewydd Emlyn. Yr oedd ei hiwmor iach a'i fwrlwm yn ysbrydiaeth yn yr ysgolion hyn. Ymddeolodd yn 1943
  • DAVIES, DAVID JOHN (1870 - ?), arlunydd Ganwyd 16 Mawrth 1870 yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, mab i farcer. Cafodd addysg rydd yn Ysgol Gelf Kidderminster, a chafodd gymorth casgliad cyhoeddus a wnaethpwyd yn Llandeilo i fynd i Antwerp i astudio am ddwy flynedd. Agorodd stiwdio yn Llanelli a bu yno am bedair blynedd gan gael D. Pugh, A.S., yr Arglwydd Dynevor, yr Arglwydd Emlyn, Mansel Lewis, a Mrs. Gwynne Hughes, Tregyb, Llandeilo, yn
  • DAVIES, EMLYN (1907 - 1974), gweinidog (Bed.) ac athro diwinyddiaeth Ganed Emlyn Davies, yr ieuengaf o chwe phlentyn Edwin a Mary Jane Davies, yn Froncysylltau, Sir Ddinbych, ar 23 Ebrill 1907. Enwau ei chwiorydd a'i frawd oedd Annie, Nellie, Sarah, Alice a John. Fforman oedd y tad yng ngwaith brics a theils Trefynant, Rhiwabon. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Froncysylltau, cyn symud ymlaen i Ysgol y Sir yn Llangollen. Yn 1925 derbyniwyd ef i Goleg y
  • DAVIES, JAMES (1767? - 1860), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd ym mhlwy Clydau, Sir Benfro. Yr oedd yn aelod yn y Pant Teg (Castellnewydd Emlyn), a bu mewn ysgol yng Nghaerfyrddin. Yn 1793 yr oedd yn byw yn ochrau Ffynnonhenri, ac yn 1794 urddwyd ef yn weinidog arni ac ar Horeb, Rhydargaeau. Bu'n hynod lwyddiannus yn y ddwy eglwys. Ond yr oedd yn wrth-Galfinaidd yn ei ddiwinyddiaeth, ac yn ymraniad 1799 aeth y ddwy eglwys i gyfeiriadau gwahanol
  • DAVIES, JENKIN (1798 - 1842), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn Llundain, ac yr oedd gan wŷr fel Henry Rees a Lewis Edwards feddwl neilltuol uchel ohono. Bu farw 10 Awst 1842. Y mae Cofiant byr iddo, gan Abel Green a J. Hugh Jones (Castellnewydd Emlyn, 1845). Yr oedd yn briod, a chanddo deulu.