Search results

217 - 228 of 984 for "Mawrth"

217 - 228 of 984 for "Mawrth"

  • FITZGERALD, DAVID (d. 1176), esgob Tyddewi, 1148-76 Tyddewi i Lundain i osod 27 o gyhuddiadau yn erbyn eu hesgob gerbron yr archesgob Thomas, ond cyfarfu David FitzGerald â hwy cyn iddynt fynd o flaen yr archesgob ac ymbil arnynt beidio â mynd â'r mater ymhellach, gan addo dychwelyd iddynt bopeth a ddygasai oddi arnynt. Yn yr un flwyddyn gorffennodd drosglwyddo eglwys Llanbadarn-fawr, Sir Aberteifi, i abaty S. Pedr, Caerloyw. Ar 14 Mawrth 1176 aeth rhai
  • FLYNN, PATRICIA MAUD (Patti) (1937 - 2020), cerddor, awdur, ymgyrchydd Merched Cymru o Leiafrifoedd Ethnig. Ym mis Mawrth 2023 dadorchuddiwyd Plac Porffor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i gydnabod ei bywyd a'i gwaith. Bu farw Patti Flynn o gancr yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 10 Medi 2020.
  • FOLLAND, HENRY (1878 - 1926), diwydiannwr Folland hithau lawer o waith cyhoeddus a dyngarol, gan wasanaethu fel Ynad Heddwch a sefyll fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Gŵyr yn 1923. Dyfarnwyd CBE iddi am wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus yn ne Cymru yn 1939. Bu farw Henry Folland o fethiant y galon ar 24 Mawrth 1926 tra ar ei wyliau yn yr Aifft. Fe'i claddwyd ym Mynwent Ystumllwynarth, Abertawe ar 24 Ebrill. Cyflwynwyd Frondeg gan Mrs
  • FOOT, MICHAEL MACKINTOSH (1913 - 2010), gwleidydd, newyddiadurwr, awdur ddau yn gyfeillion agos. Ond siomwyd y ddau pan fu gwrthwynebiad cryf i'r cynlluniau cyn i'r mesur ar ddatganoli i Gymru a'r Alban gyrraedd Tŷ'r Cyffredin. Sylweddolwyd bod angen paratoi ar gyfer refferendwm. Llywiodd Foot y mesurau trwy Dŷ'r Cyffredin yn 1977, er mai John Morris oedd yr unig aelod arall o'r Cabinet a ddangosodd frwdfrydedd dros y Cynulliad. Bu canlyniad y refferendwm ym Mawrth 1979
  • FOSTER, IVOR LLEWELYN (1870 - 1959), datganwr Ganwyd yn Tramroad, Pontypridd, 1 Mawrth 1870, mab i Ebenezer Foster a Sarah (ganwyd John) o Ben-y-graig, Rhondda, Morgannwg. Gadawodd yr ysgol yn 12 oed, a phan oedd yn 16, ac mewn masnach gyda'i ewythr, William Richards, Dinas, Rhondda, y dechreuodd astudio hen nodiant yn ei oriau hamdden, a chystadlu mewn eisteddfodau. Enillodd ar ganu yn eisteddfod flynyddol y Porth yn 1892, 1893 ac 1894, a
  • FOULKES, ANNIE (1877 - 1962), golygydd blodeugerdd Ganwyd 24 Mawrth 1877 yn Llanberis, Sir Gaernarfon. Yr oedd ei thad Edward Foulkes (1850 - 1917), swyddog yn chwarel Dinorwig, yn ŵr o ddiwylliant llenyddol eang ac yn awdur nifer o ysgrifau yn y cyfnodolion Cymraeg ar lenorion Saesneg y 19eg ganrif : y mae gan Robert Williams Parry soned goffa iddo. Cafodd hi ei haddysg yn Ysgol Dr. Williams, Dolgellau, ac yn y Collège de Jeunes Filles yn Saumur
  • FRANCIS, DAVID (1911 - 1981), undebwr llafur ac arweinydd y glowyr , ymddeolodd Dai Francis ym 1976. Ond parhaodd yn weithgar mewn nifer o gylchoedd, gan gynnwys ei swyddogaeth o fewn Cymdeithas Cyfeillgarwch Cymru a'r Undeb Sofietaidd, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND), a mudiadau heddwch eraill. Roedd yn gefnogwr brwdfrydig i'r ymgyrch 'Ie' yn ystod refferendwm datganoli mis Mawrth 1979, a bu hefyd yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru ac o Fwrdd Opera Genedlaethol
  • FRANCIS, JOHN (1789 - 1843), melinydd a cherddor Ganwyd 20 Mawrth 1789, mab William a Margaret Francis, Melin Rhyd-hir, Pwllheli, Sir Gaernarfon. Hoffai gerddoriaeth yn fachgen, dysgodd elfennau cerddoriaeth a chynghanedd, a daeth i allu cyfansoddi yn lled ieuanc. Nid oes ond tair tôn ar gael o'i waith. Yn Seren Gomer, Tachwedd 1821, ceir tôn o'r enw ' Mwyneidddra,' ac un arall dan yr enw ' Gomer,' ac, ym Mawrth 1823, y dôn ' Pwllheli ' - ei
  • FROST, JOHN (1784 - 1877), siartydd Siartaidd, fe'i dewiswyd yn gynrychiolydd i gonfensiwn y Siartwyr; ac ym mis Mawrth 1839 collodd ei le ar fainc yr ustusiaid. Pan gymerwyd Henry Vincent, y cynhyrfwr Siartaidd, i'r ddalfa, 7 Mai 1839, a'i anfon i garchar Trefynwy, ffyrnigwyd teimladau glowyr a gweithwyr haearn sir Fynwy. Heblaw hynny, pan benderfynwyd dyfod â'r confensiwn i ben ar 14 Medi, wedi i Frost, fel cadeirydd, roddi ei bleidlais o
  • GABE, RHYS THOMAS (1880 - 1967), chwaraewr rygbi Ganwyd 22 Mehefin 1880 yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Bu'n chwarae'n lleol cyn cynrychioli Llanelli am y tro cyntaf yn 17 oed. Enillodd y cyntaf o'i 24 o gapiau (1901-8) ar yr asgell yn erbyn Iwerddon ar 21 Mawrth 1901. Fel canolwr y daeth i enwogrwydd. Meddai ar yr holl ddoniau; yn ddi-ildio'i amddiffyn, wrth ymosod rhedai'n syth a phenderfynol. Yn dwyllodrus, cadarn ac esgyrnog, yr oedd yn un
  • GALLIE, MENNA PATRICIA (1919 - 1990), awdur Ganwyd Menna Gallie ym mhentref glofaol Ystradgynlais, Powys, yr ieuengaf o dair merch i William Thomas Humphreys, saer coed o ogledd Cymru, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Rhys Williams, 1885-1974). Er ei bod yn dathlu ei phen blwydd ar 17 Mawrth 1920, fe'i ganwyd mewn gwirionedd ar 18 Mawrth 1919. Fe'i magwyd ar aelwyd Gymraeg glos lle'r oedd gwleidyddiaeth Lafur yn ddylanwad cryf. Roedd tad ei mam
  • GEE, THOMAS (1815 - 1898), pregethwr, newyddiadurwr, gwleidydd dechreuodd ar antur fawr arall, sef cyhoeddi Y Gwyddoniadur, gwaith a gwplawyd, yn ddeg cyfrol, erbyn 1878, ac a gostiodd tuag £20,000. Cyhoeddwyd ail argraffiad yn 1896. Ar 4 Mawrth 1857 daeth rhifyn cyntaf Baner Cymru allan, yn bapur wythnosol, ac yn Hydref 1859 unwyd Yr Amserau ag ef; enw'r papur o hynny ymlaen oedd Baner ac Amserau Cymru, ac am rai blynyddoedd o Orffennaf 1861 ymlaen daeth allan