Search results

2221 - 2232 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2221 - 2232 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • LLUELYN, MARTIN (1616 - 1682), bardd a meddyg Mab Martin Lluelyn o Lundain; Ganwyd 12 Rhagfyr 1616. Y mae ei enw, efallai, yn ddigon o brawf ei fod o ach Gymreig. Heblaw hynny disgrifir ei fab George gan Burney (History of Music, 1789, 3, 495 n.) fel ' a Jacobitical, musical, mad Welsh parson. ' Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle y graddiodd (B.A. 1640 ac M.A. 1643). Yn y Rhyfel Cartrefol ymunodd â byddin
  • LLWYD, YR USTUS (fl. 14eg ganrif), bardd Ceir enghreifftiau o'i ganu yn Jes. Coll. MS. 1, Peniarth MS 118, a NLW MS 4973B. Ymdrinir â'r mesurau a ddefnyddiai ac â'i ganu fel enghraifft gynnar o ganu'r glêr gan T. Gwynn Jones yn Zeitschrift für Celtische Philologie, xvii, 167-76. Gweler hefyd G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 113 a 134.
  • LLWYD, ANGHARAD (1780 - 1866), hynafiaethydd Ganwyd 15 Ebrill 1780 yng Nghaerwys, Sir y Fflint, merch John Lloyd, rheithor Caerwys. Yr oedd Angharad Llwyd yn aelod o (ail) Gymdeithas Cymmrodorion Llundain, a derbyniodd lawer o fedalau aur ac arian mewn eisteddfodau am ei thraethodau. Yn eisteddfod y Trallwng, 1824, cafodd yr ail wobr am 'Catalogue of Welsh Manuscripts, etc., in North Wales'; dau draethawd arall o'i heiddo oedd 'Genealogy
  • LLWYD, FFOWC (fl. c. 1580-1620), bardd ac ysgwïer Fox Hall, sir Ddinbych; mab Siôn Llwyd a'i wraig (gyntaf), Sibl, ferch Rhisiart Glyn. Priododd Alis ferch Ffowc ap Tomas ap Gronw. Ni wyddys fawr amdano, ac nid erys llawer o'i waith mewn llawysgrifau. Canodd i Syr Siôn Llwyd o Iâl (NLW MS 3057D (962)) ac i Tomas Prys o Blas Iolyn (B.M. Add. MS. 14896 (58)); canodd hefyd gerdd a ddengys gydnabyddiaeth â bywyd Llundain (Jesus Coll. MS. 18 (8)).
  • LLWYD, HARRI (d. 1799), pregethwr cynorthwyol Wesleaidd hyd ei farw yn 1799. Er bod sôn amdano'n pregethu yng Nghernyw unwaith, cyfyngodd ei wasanaeth gan mwyaf i seiadau Wesleaidd Deheudir Cymru; enwir ef yng nghofnodion cynhadledd 1747 ymysg y rhai ' that assist us only in one place.' Yn 1779 dywaid Wesley na fwriadwyd iddo fod yn weinidog sefydlog yn unman: ' he is only permitted to preach up and down, chiefly in Welsh, at the discretion of the
  • LLWYD, HUMPHREY (1527 - 1568), meddyg a hynafiaethydd yn ' person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary.' Priododd Barbara, chwaer ac aeres John, yr arglwydd Lumley olaf, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Gwerthwyd i'r brenin Iago I lyfrau y bu Llwyd yn eu casglu i'r arglwydd Lumley; y maent yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Arwyddair Llwyd, yn ôl darlun 'mezzotint' ohono a wnaethpwyd gan J
  • LLWYD, HUMPHREY (c. 1527 - 1568), hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau Hiraethog. Arweiniodd y ddeddf ddilynol at gyfieithiad Cymraeg o'r Testament Newydd gan William Salesbury yn 1567. Roedd Salesbury yntau o Sir Ddinbych ac yn wr gradd o Rydychen ac mae'n amlwg bod y ddau'n adnabod ei gilydd yn dda; yn wir roedd cefnder i Llwyd wedi priodi un o'r Salsbrïaid. Bu cryn ddyfalu ynghylch daliadau crefyddol Llwyd. Ar y naill law roedd yn aelod o osgordd Arundel ac yn frawd-yng
  • LLWYD, HUW (Huw Llwyd o Gynfal; 1568? - 1630?), milwr a bardd Yn byw yn Cynfal Fawr, plwyf Maentwrog, Sir Feirionnydd. Enw ei dad oedd Dafydd Llwyd ap Howel ap Rhys ac yr oedd iddo frawd Owen; gwyddys i Huw ac Owen brynu llawer o dir yn yr ardal. Bu'n brwydro yn Ffrainc a Holand mewn catrawd Gymreig a ymladdai yn erbyn lluoedd Sbaen. Tybir mai ef a adeiladodd y Cynfal presennol; disgrifir y tŷ yn fanwl o ran ei du mewn a'i du allan gan y bardd Huw Machno c
  • LLWYD, MORGAN (1619 - 1659), llenor, bardd, cyfrinydd, a diwygiwr Ganwyd yng Nghynfal, plwyf Maentwrog, Meirionnydd. Ceir ef yn yr ysgol yn Wrecsam yn 1634-5, a threuliodd dymor yn Brampton Bryan, Llanfair Waterdine, Sir Amwythig, lle enwog am ei nodded i ddysg. Cafodd y profiad o 'dröedigaeth' trwy bregethu Walter Cradoc, curad eglwys Wrecsam ar y pryd. Dilynodd ef i Ddeau Cymru, gan ymdroi ymhlith y gwyr a sefydlodd yr achos Anghydffurfiol cyntaf yng Nghymru
  • LLWYD, RICHARD (Bard of Snowdon; 1752 - 1835) lawysgrifau Hengwrt. Bu hefyd yn astudio rhai o lawysgrifau Hengwrt - ar hyn gweler t. xxi. yn yr 'Introduction' i rifyn cyntaf N.L.W. Handlist of MSS., ac, yn arbennig, Peniarth MS 425 a Peniarth MS 533. Aeth i Lundain yn 1808 i ddarllen yn llyfrgell yr Amgueddfa Brydeinig a daeth i adnabod Owen Jones ('Myfyr'), William Owen Pughe, Sharon Turner, etc. Oblegid ei gyfathrach â llenorion a rhai o uchelwyr
  • LLWYD, ROBERT (1565 - 1655) Waun, clerigwr a llenor Ganwyd yn Sir Gaernarfon. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 29 Hydref 1585, a graddiodd yn B.A. 6 Gorffennaf 1588, M.A., 10 Gorffennaf 1591. Bu'n rheithor Helygain (Halkin), 1594-1626, ficer Wrecsam, 1595-1640, ficer y Waun (Chirk), 1615-50, ac yn brebendari Meliden a thrysorydd Llanelwy, 1624-48. Bu hefyd yn rheithor segurswydd Llandysul, Sir Drefaldwyn, 1625; claddwyd ei ferch
  • LLWYD, STEPHEN (1794 - 1854), cerddor Ganwyd yn Llystyn-bach, Nanhyfer, Sir Benfro, yn y flwyddyn 1794, mab Joseph ac Elizabeth Llwyd. Cafodd beth addysg, a dygwyd ef i fyny'n deiliwr fel ei dad. Ei athro cerddorol oedd Dafydd Siencyn Morgan. Ymsefydlodd yn Abergwaun, a phenodwyd ef i arwain y canu yng nghapel y Bedyddwyr, a daeth yn adnabyddus trwy y sir fel cerddor. Yn 1840 symudodd i fyw i Bontypridd, a phenodwyd ef yn arweinydd