Search results

2197 - 2208 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

2197 - 2208 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • LLOYD, RICHARD (1834 - 1917), bugail eglwys Disgyblion Crist (y 'Bedyddwyr Campbelaidd'), Cricieth Ganwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, 12 Gorffennaf 1834, unig fab Dafydd a Rebecca Llwyd. Yr oedd ei dad yn grydd ac yn fugail ar eglwys Disgyblion Crist ym Mhen-y-maes, Cricieth. Wedi bod am ychydig mewn ysgol yn Llanystumdwy prentisiwyd Richard Lloyd yn grydd gyda'i dad, a dilynodd ei dad yn y busnes ac hefyd yn y fugeiliaeth. Ordeiniwyd ef a William Williams ym mis Ebrill 1859. Yn y
  • LLOYD, Syr RICHARD (1606 - 1676), Brenhinwr a barnwr ym Mhenmachno, a ymaelododd yn Lincoln's Inn yn 1684 (ac a fwriodd y rhan fwyaf o'i oes ynddo), ac a ddaeth (fel ei ewythr Richard Anwyl) yn 'Clerk of the Outlawries in the Court of Common Pleas.' Dywedir yn aml ei fod yn 'protonotary' i'w gymydog enwog Syr Robert Price o'r Giler, ond nid ymddengys ei enw yn rhestrau W. R. Williams (The Welsh Judges) - er hynny, y mae'n amlwg fod cyswllt agos, ar
  • LLOYD, RICHARD (1595 - 1659), diwinydd (yn perthyn i blaid y brenin Siarl I) ac ysgol-feistr Ngholeg Oriel, Rhydychen, 3 Ebrill 1612, ac fe'i cyflwynwyd i reithoraeth Sonning a ficeriaeth Tilehurst (Berkshire); cymerodd ei B.D. yn 1628 (7 Mai). Pan oedd y Senedd Faith yn enwi aelodau o'r ' Assembly of Divines ' a fwriedid, enwyd Lloyd dros sir Ddinbych (25 Ebrill 1642), eithr ni chynhwyswyd ei enw yn y rhestr derfynol. Collodd ei fywiolaethau pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, bu yng
  • LLOYD, ROBERT (1716 - 1792) Plas Ashpool,, amaethwr a chynghorwr Methodistaidd /9, dywaid William Richard, y cynghorwr a anfonwyd i Wynedd : ' There is a door open to preach the word in flintshire, great many comes to hear and behave very quiet. ' Diau fod Robert Llwyd yn un o'r lliaws. Yr oedd yn y sir elyniaeth gref i'r grefydd newydd gan ddosbarth arbennig, ac un o'r dioddefwyr cyntaf oedd gŵr ifanc Tarth-y-dŵr, a bu orfod iddo ymadael â'i fferm. Arch-elyn y grefydd newydd
  • LLOYD, ROBERT (Llwyd o'r Bryn; 1888 - 1961), eisteddfodwr, diddanwr ac amaethwr Ganwyd ym Mhenybryn, Bethel, Llandderfel, Meirionnydd, 29 Chwefror 1888, yn blentyn ieuengaf John a Winifred Lloyd, a bedyddiwyd ef gan Michael D. Jones. Fe'i haddysgwyd yn ysgol y Sarnau ac ar ôl cyfnod o ffermio gyda'i dad, priododd yn 1913 ag Annie Williams, Derwgoed, Llandderfel. Ffermio'r Derwgoed y bu wedyn nes ymddeol yn 1944. Yn y cyswllt hwn, yr oedd gyda'r cyntaf yng Nghymru i symbylu
  • LLOYD, SIMON (1756 - 1836), clerigwr Methodistaidd enwog yn hanes Methodistiaeth Maldwyn - gweler ysgrif Richard Bennett arno, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, viii, 57-62, a'i gyfeiriadau mynych yn Meth. Trefaldwyn Uchaf, a chwilier y fynegai yn argraffiad Curnock o'r Journals of John Wesley. Dilynwyd Sarah Bowen (Lloyd) fel ' matron ' yn Nhrefeca gan ei chwaer Hannah Bowen (1729 - 1805), a fu yno hyd farw Mrs. Harris - aeth
  • LLOYD, THOMAS (1673? - 1734), offeiriad a geiriadurwr mab Thomas Lloyd, cyfreithiwr yn Wrecsam, o deulu Plas Madog, Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych; a'i fam o deulu'r Miltwniaid. Ymaelododd yn 15 oed yng ngholeg yr Iesu, Rhydychen, 25 Chwefror 1688/9 (B.A. 1692, M.A. 1695); wedi ei urddo bu'n gurad yn ardal Wrecsam, ac yn athro yng Nghastell y Waun, cyn ei apwyntio'n gaplan i Mary Myddelton, Croesnewydd. Gadawodd hi Blas Power iddo yn ei hewyllys
  • LLOYD, THOMAS ALWYN (1881 - 1960), pensaer a chynllunydd trefol Ganwyd 11 Awst 1881 yn Lerpwl, mab Thomas ac Elizabeth Jones Lloyd. Hanai'r teulu o gefndir ymneilltuol cadarn o sir Ddinbych, ac etifeddodd yntau gariad dwfn at gefn gwlad Cymru a diwylliant y genedl. Cafodd ei addysg yng ngholeg Lerpwl a Phrifysgol Lerpwl. Astudiodd bensaernïaeth yn Ysgol Bensaernïaeth y Brifysgol. O 1907 i 1912 bu'n gynorthwywr i Syr Raymond Unwin ar faestref Hampstead. Yn
  • LLOYD, Syr THOMAS DAVIES (1820 - 1877), barwnig, tirfeddiannwr, a gwleidyddwr Ganwyd 21 Mai 1820, yn fab hynaf Thomas Lloyd, Bronwydd, Sir Aberteifi (siryf sir Aberteifi, 1814), a'i wraig Anne Davies, merch John Thomas, Llwydcoed a Lletymawr, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow ac yn Christ Church, Rhydychen. Priododd, Rhagfyr 1846, Henrietta Mary, merch George Reid, Bunker's Hill, Jamaica, a Watlington, swydd Rhydychen, a Louisa, merch Syr Charles Oakeley
  • LLOYD, THOMAS RICHARD (Yr Estyn; 1820 - 1891), clerigwr Ganwyd yn Ninbych, mab hynaf John Lloyd, rheithor Llanycil, 1826-41, a Cherrig-y-drudion, 1841-68. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1843. Urddwyd ef yn ddiacon yr un flwyddyn a'i drwyddedu'n gurad i Lanfynydd ym mhlwyf yr Estyn neu'r Hôb, Sir y Fflint; pan wnaethpwyd Llanfynydd yn blwyf ar ei ben ei hun dyrchafwyd ef yn gurad parhaus (cafodd urddau
  • LLOYD, VAUGHAN (1736 - 1817), cadfridog Ganwyd yn Ffos-y-bleiddiaid (gerllaw Ystrad Meurig), 17 Ionawr 1736, yn fab ieuengaf i John Lloyd a'i wraig Mary (Phillips, o Sir Benfro); ar y teulu, gweler Some family records … of the Lloyds, gan Lloyd-Theakston a Davies, mynegai - symudasant o Ffos-y-bleiddiaid i Mabws ym mhlwyf Llanrhystyd. Ymunodd Vaughan Lloyd â'r magnelwyr; yr oedd ym mrwydr enwog Minden (1759), yn y garsiwn a lwyddodd i
  • LLOYD, Syr WALTER (1580 - 1662?) Llanfair Clydogau, Brenhinwr Mab John Lloyd, siryf sir Aberteifi (1602). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen. Merch Thomas Pryse, Glanffrêd, Sir Aberteifi, oedd ei wraig. Bu'n siryf Sir Aberteifi yn 1621. Fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros sir Aberteifi yn 1640, a rhoes ei bleidlais yn erbyn cosbi Strafford. Yn 1644 cymerwyd ei sedd oddi arno gan y Senedd am iddo esgeuluso dyfod i'r tŷ eithr mynd yn hytrach i