Search results

205 - 216 of 1877 for "Mai"

205 - 216 of 1877 for "Mai"

  • DAVIES, DAVID (Y BARWN DAVIES cyntaf), (1880 - 1944) Ganwyd 11 Mai 1880, unig fab Edward Davies, Llandinam, a Mary, merch Evan Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a pherthynas agos i John Jones, Tal-y-sarn. Etifeddodd egni ac yspryd anturiaethus ei daid, David Davies, Llandinam, y diwydiannwr Cymreig mwyaf a welodd cyfnod Victoria. Addysgwyd ef yng ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Aeth i Dyr Cyffredin yn 26 mlwydd oed, yn aelod
  • DAVIES, DAVID (1896 - 1976), cricedwr a dyfarnwr criced Mhencampwriaeth y Siroedd. Wedi gadael yr ysgol, gweithiodd yng ngwaith dur Llanelli, ac mae'n debyg mai ei brofiadau yno fu'n gyfrifol am ei gefnogaeth gadarn i Streic Gyffredinol 1926. Chwaraeodd griced i Lanelli a Sir Gaerfyrddin tra'n gweithio yn y gwaith dur, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Forgannwg yn 1923. Wedi i'r sir golli pum gêm gyntaf y tymor, mae'n debyg i Dai gael ei ddihuno gan ei fam am 11.30 a.m
  • DAVIES, DAVID CHARLES (1826 - 1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, diwinydd, esboniwr, ac am gyfnod yn brifathro Coleg Trefeca (1888-91) Ganwyd yn Aberystwyth, 11 Mai 1826, mab Robert Davies ac Eliza Davies (merch y Parch. David Charles, Caerfyrddin). Addysgwyd ef yn ysgol John Evans, Aberystwyth, wedyn yng Ngholeg y Bala (yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Dr. Lewis Edwards yn 1837), yna yn breifat yn Hanley gan y Parch. William Fletcher. Yn 1844 aeth i Goleg y Brifysgol, Llundain - B.A. 1847 (medalydd mewn mathemateg), M.A. 1849
  • DAVIES, DAVID CHRISTOPHER (1878 - 1958), cenhadwr, cynrychiolydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yng Nghymru , a threuliodd weddill ei oes yn y Mwmbwls, gan ymaelodi yng Nghapel Gomer, Abertawe. Priododd, yn Nhachwedd 1914, Margaret Parker, diacones yng nghapel (B) Bloomsbury. Bu iddynt ddwy ferch. Bu farw 4 Mai 1958, newydd gael ei ethol yn aelod anrhydeddus o'r B.M.S.
  • DAVIES, DAVID JAMES (1893 - 1956), economegydd gredu fod cydwladoldeb gwirioneddol yn seiliedig ar gydweithrediad rhwng cenhedloedd rhydd ac mai mewn Cymru annibynnol y gellid hyrwyddo buddiannau gweithwyr Cymru. Yr oedd felly yn rhagredegydd y mudiad a ffurfiodd y Blaid Genedlaethol yn 1925. Dychwelodd D.J. Davies o Ddenmarc yn genedlaetholwr o argyhoeddiad ac yn bleidiwr cydweithrediad fel polisi economaidd a osodai berchnogaeth a rheolaeth
  • DAVIES, DAVID REES (Cledlyn; 1875 - 1964), ysgolfeistr, bardd, ysgrifwr a hanesydd lleol yn y coleg un o'r ysgoloriaethau a gynigid i'r tri myfyriwr gorau yn yr adran addysg, ac ar ôl dwy fl. gadawodd gyda thystysgrif dosbarth I. Yn 1895 aeth i ddysgu ym Moelfre, Llansilin, ger Croesoswallt, a symud i ysgol Cofadail, Ceredigion, 9 Mai 1898. O 28 Chwefror 1902 hyd nes ymddeol yn 1935 bu'n brifathro ysgol ei bentref genedigol. Fel ysgolfeistr dawnus enillodd barch yr ardalwyr a'i
  • DAVIES, Syr DAVID SAUNDERS (1852 - 1934), aelod seneddol Ganwyd 11 Mai 1852, ac urddwyd yn farchog yn 1918. Dyn busnes ym Manceinion oedd ef, a bu'n aelod seneddol dros ranbarth Dinbych, 1918-22. Priododd, 1886, Jane Emily, ferch Thomas Gee, ac wedi marw ei dad-yng-nghyfraith daeth yn berchennog Baner ac Amserau Cymru. Bu farw 28 Chwefror 1934.
  • DAVIES, DEWI ALED EIRUG (1922 - 1997), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr , San Clêr (1950-52), Radnor Walk, Llundain (1952-59), Llanbrynmair (1959-65), ac yn y Tabernacl, Treforys (1965-70). Parhaodd â'i astudiaethau diwinyddol tros y blynyddoedd hyn, gan ennill gradd M.Th. Prifysgol Llundain yn 1955, a gradd M.A. Prifysgol Cymru yn Abertawe yn 1962 am draethawd ar 'Natur a Swyddogaeth yr Ysbryd Glân yn Epistolau Paul'. O Fedi 1961 hyd ddiwedd Mai 1962 bu'n efrydydd yng
  • DAVIES, DONALD WATTS (1924 - 2000), arloeswr cyfrifiadureg ddigidol, ac arloeswr y dull o drosglwyddo data bob yn damaid (packet switching) 1955 Diane Lucy E. (ganed Burton) a bu iddynt ddau fab a merch. Bu farw 28 Mai 2000.
  • DAVIES, EDWARD (1756 - 1831), clerigwr ac awdur llyfrau , dylem gofio mai ef oedd un o'r rhai cyntaf i amau dilysrwydd yr hyn a ddywedai 'Iolo Morganwg' am Orsedd yn Beirdd. Yr oedd yn weithiwr dyfal, ond bu'n anffodus yn ei gyfnod. Gellir tybied ei fod yn gymeriad hoffus, a daw hynny i'r golwg yn y llythyrau a yrrodd ei hen gyfaill, Theophilus Jones, ato. Ceir llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad y Tonn yn Llyfrgell Rydd Caerdydd. Bu farw 7 Ionawr 1831.
  • DAVIES, EDWARD TEGLA (1880 - 1967), gweinidog (EF) a llenor Ganwyd 31 Mai 1880, yn yr Hen Giât, Llandegla-yn-Iâl, Sir Ddinbych, y pedwerydd o chwe phlentyn William a Mary Ann Davies. Chwarelwr oedd ei dad, a anafwyd yn ddrwg yn y Foel Faen ond a ddaliodd i weithio yno ac wedyn yn chwarel galch y Mwynglawdd, rhag cyni. Yn 1893 symudodd y teulu i Bentre'r Bais (Gwynfryn) ac yn 1896 i Fwlch-gwyn. Yn 14 oed dechreuodd Edward yn ddisgybl-athro yn ysgol
  • DAVIES, ELIZABETH (1789 - 1860), gweinyddes yn y Crimea Merch i Ddafydd Cadwaladr. ganwyd 24 Mai 1789, bedyddiwyd yn Llanycil 26 Mai. Daw'r cwbl a wyddom am ei gyrfa o'r Autobiography of Elizabeth Davis (dwy gyfrol, 1857), sef nodiadau o sgyrsiau gyda hi gan Jane Williams, Ysgafell. Wedi marw ei mam (tua 1795-6), a than ofal chwaer hyn nas hoffai, ystyfnigodd Elizabeth yn fore. Derbyniwyd hi ar aelwyd Simon Lloyd o Blas-yn-dre, perchen tyddyn ei thad