Search results

1621 - 1632 of 1877 for "Mai"

1621 - 1632 of 1877 for "Mai"

  • THOMAS, RHYS (1720? - 1790), argraffydd argraffwyd yn y Bont-faen yn 1771). Yn niwedd 1769 neu ddechrau 1770 sefydlodd Rhys Thomas wasg yn y Bont-faen. Awgrymwyd mai John Walters, Llandochau, a'i hanogodd i ddyfod i'r Bont-faen, sydd yn agos at Landochau. Pa fodd bynnag am hynny, yr oedd y cysylltiad â John Walters ac â'i eiriadur i barhau am lawer blwyddyn. Gyrfa drafferthus a gafodd y geiriadur ar ei daith trwy wasg Rhys Thomas. Argreffid ef
  • THOMAS, RICHARD (1753 - 1780), clerigwr a chynullydd llawysgrifau ac achau Ganwyd 10 Rhagfyr 1753, mab Thomas Rowland, Tuhwnt i'r Bwlch, plwyf Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, a Jane Jones (J. E. Griffith, Pedigrees, 359). Bu yn Ysgol y Friars, Bangor, cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 28 Tachwedd 1771; B.A. 1775). Tua diwedd 1777 cafodd guradiaeth Llanegryn, Sir Feirionnydd, a'i ddewis yn athro ysgol yno. Erbyn mis Mai 1779, os nad cyn hynny, yr oedd yn gurad
  • THOMAS, ROBERT (Ap Vychan; 1809 - 1880), gweinidog ac athro diwinyddiaeth gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor ddilynol at ei hen feistr i'r Lôn am ychydig. Ym Mai 1830 symudodd i Groesoswallt i weithio gydag Edward Price, a chafodd gyfle yno i ymgydnabod â'r iaith Saesneg, ac yn y man ymaelododd yn yr eglwys Saesneg a oedd dan weinidogaeth y Dr. T. W. Jenkyn. Ymrodd i astudio gweithiau y Dr. Edward Williams, Fuller, Jonathan Edwards, ac eraill. Mynnai rhai iddo ddechrau pregethu gyda'r Saeson, ond symudodd i
  • THOMAS, ROBERT (d. 2 Ebrill 1692), pregethwr Piwritanaidd Cysylltir ei enw a'r Neuadd Baglan (Morgannwg), ac efallai mai ef yw'r Robert Thomas a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn Awst 1658. Pan ddaeth yr Adferiad a Deddf Unffurfiaeth, ni chyfrifwyd ef ymhlith y gweinidogion a ddifuddiwyd yn 1662; pregethwr yn unig ydoedd, heb ei ordeinio. Yn 1669 adroddid ei fod yn pregethu 'n ddirgel i ryw ugain o ddilynwyr, a'r rheini'n gymysg o Annibynwyr a
  • THOMAS, ROBERT DAVID (Iorthryn Gwynedd; 1817 - 1888), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Llanrwst 17 Medi 1817. Dechreuodd bregethu yn 1838 a dangosodd yn fuan duedd at lenora a barddoni. Aeth am dymor i ysgol yn Rhydychen a gedwid gan Eleazer Jones, mab y Dr. Arthur Jones. Cafodd alwad i fugeilio eglwys Penarth, Maldwyn, a'i changhennau, ac urddwyd ef yno 25 Mai 1843. Yn ystod ei weinidogaeth codwyd capel Canaan ac ailadeiladwyd capel Penarth, a bu â rhan amlwg yn sefydlu
  • THOMAS, Syr ROBERT JOHN (1873 - 1951), gwleidydd a pherchennog llongau 1922 ac etholwyd ef yno mewn isetholiad yn Ebrill 1923 ar farwolaeth Syr Owen Thomas. Parhaodd i gynrychioli sir Fôn yn y senedd hyd Mai 1929 pan ymddiswyddodd er mwyn medru rhoddi mwy o'i amser i'w ddiddordebau masnachol. Ei olynydd yn yr etholaeth oedd y Fonesig Megan Lloyd George (gweler Lloyd George, Teulu). Aeth yn fethdalwr yn 1930, ac ni chafodd ei ryddhau tan 1935. Yr oedd yn aelod o gyngor
  • THOMAS, Syr ROGER (1886 - 1960), arloeswr amaethyddiaeth fodern yr India Ganwyd 4 Mai 1886, y seithfed o 11 plentyn Lewis Thomas a'i briod, Sophia (ganwyd James), Pen-yr-ardd, Clunderwen, Penfro. Addysgwyd ef yn ysgol sir Arberth, a Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle cafodd B.Sc. dosbarth cyntaf mewn botaneg, gyda daeareg yn bwnc atodol. Ac yntau'n Victor Ludorum mewn chwaraeon, rhedai dros y coleg. Wedi gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed a chyn mynd i'r coleg bu'n
  • THOMAS, RONALD STUART (1913 - 2000), bardd a chlerigwr tra'n byw ym Manafon. Er mai dysgwr ydoedd, credai'n angerddol mae hi oedd ei briod iaith a phriod iaith gwir Gymreictod, a theimlai'n chwerw-ddig na fedrai farddoni ynddi. Serch hynny, cyfaddefai'n groes-graen fod ei gariad at y Gymraeg wedi cyfoethogi ei werthfawrogiad amharod o'r iaith fain, ac wedi miniogi ei ddefnydd anfoddog ohoni. Yr un modd, esgorodd ei berthynas dymhestlog â'r Duwdod
  • THOMAS, ROWLAND (c. 1887 - 1959), perchen newyddiaduron -gadeirydd mainc ynadon Croesoswallt. Trosglwyddodd y busnes cyhoeddi i'w fab, Eric Lionel Thomas, cyn ymddeol a symud i Landegfan, Môn. Bu farw yn ddisymwth, 17 Mai 1959, ar ei ffordd i ysbyty Harrogate.
  • THOMAS, SAMUEL (1692 - 1766), gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac athro academi Caerfyrddin gynorthwyo Evan Davies ynddi - noder na ddiddymwyd yr ysgol, ac iddi barhau, mewn cyswllt â'r academi, hyd 1845; felly pan ddarllenwn fod rhyw weinidog wedi bod dan addysg 'yng Nghaerfyrddin,' nid yw bob amser yn dilyn iddo fod yn yr academi. Ymddengys mai gŵr sychlyd, yn y pulpud ac yn y ddarlithfa, oedd Samuel Thomas - cwyna Thomas Morgan ('Henllan') ar ei naws oeraidd. Yr oedd yn Armin ar y lleiaf, onid
  • THOMAS, SIDNEY GILCHRIST (1850 - 1885), arbenigwr yn astudiaeth dur, a dyfeisydd haearn yn Blaenavon, sir Fynwy; cafodd y ddau wyddonydd ganiatâd i wneuthur arbrofion ar ddyfais Thomas mewn gwahanol weithydd haearn yn siroedd Mynwy a Morgannwg. Yn 1878 hysbysodd Thomas mewn cyfarfod o aelodau'r Iron and Steel Institute yn Llundain ei fod wedi llwyddo i gael gwared o'r ffosfforus a ddefnyddid yn 'converter' Bessemer, ac ym mis Mai y flwyddyn honno cymerth allan y 'patent' cyntaf
  • THOMAS, SIMON, gweinidog Presbyteraidd, ac awdur Ychydig dros ben a wyddys amdano. Dywed D. Lleufer Thomas (yn ysgrif y D.N.B. ar Joshua Thomas) ei fod yn ewythr i hwnnw, ac mai gydag ef yn nhref Henffordd y prentisiwyd Joshua Thomas yn 1739. Yn ôl Joshua Thomas (Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry, arg. 1af, xxvii) fe'i ganed yn y Cilgwyn, gerllaw Llanbedr-pont-Steffan. Y mae'n eglur iddo gael addysg glasurol yn rhywle. Dywed T. Eirug Davies