Search results

1513 - 1524 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1513 - 1524 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • ITHEL ap RHOTPERT neu ROBERT (fl. 1357-82), archddiacon Cyfaill a noddwr Iolo Goch, a gyflwynodd ddau gywydd gofyn iddo (gweler I.G.E., arg. cyntaf, 55-61, ail arg., 49-55), ac a'i coffhaodd mewn marwnad (gweler C. Ashton, Gweithiau Iolo Goch, 1896, 344-53). Coed-y-mynydd ym mhlwyf Ysgeifiog, Sir y Fflint, oedd cartref teuluol Ithel. Yr oedd o dras da, a cheir gan Ashton (op. cit., 267, 325-6) fanylion am ei ach a godwyd o Dwnn a Powys Fadog. Hannai
  • JACKSON, Sir CHARLES JAMES (1849 - 1923), gwr busnes a chasglwr pan gafodd ei olygu gan Ian Pickford a'i gyhoeddi dan y teitl Jackson's silver and gold marks of England, Scotland and Ireland; argraffiad poced yn 1994. Bu Charles Jackson yn briod ddwywaith. Disgrifir ei wraig gyntaf, Agnes Catherine Martin, yng nghofnodion Caerdydd cyfrifiad 1881 fel Prydeinwraig a anwyd yn Boulougne. Ei ail wraig oedd Ada Elizabeth Williams, a anwyd yng Nghaerdydd yn 1877, yn
  • JACOB, SARAH (1857 - 1869), yr ymprydferch Ganwyd 12 Mai 1857, trydedd ferch Evan a Hannah Jacob, Llether-neuadd-uchaf, Llanfihangel Iorath, Sir Gaerfyrddin. Ym mis Chwefror 1867 bu mewn llewyg am fis cyfan, a phan ddadebrodd ni chymerodd ond ychydig o fwyd llaeth. Erbyn 10 Hydref 1867 dywedid iddi beidio â bwyta nac yfed dim, a honnid iddi fyw felly hyd ei marw, 17 Rhagfyr 1869 - 113 wythnos. Lledodd hanes ei hymprydio ar draws y wlad, a
  • JACOB, WILLIAM (1777 - 1845), cerddor
  • JACOBSEN, THOMAS CHARLES ('Tommy Twinkletoes') (1921 - 1973), cerddor, arlunydd a diddanwr Ganwyd Tommy Jacobsen ar 28 Ebrill 1921 yn Stryd y Capel, Pillgwenlli, Casnewydd, Sir Fynwy, yr hynaf o saith o blant Charles Henry Jacobsen (g. 1900), gweithiwr dociau, a'i wraig Nellie (g. Hoskins, 1898). Ganwyd Tommy (fel y gelwid ef gan ei deulu a'i ffrindiau) heb freichiau. Honnai ei fam fod yr anabledd wedi ei achosi pan ddychrynwyd hi gan geffyl yn ystod ei beichiogrwydd (cred gyffredin ar
  • JAMES, ANGHARAD (fl. 1680?-1730?), prydyddes Roedd yn byw yn y Parlwr, Penanmaen, Dolwyddelan. Rhoddir peth o'i hanes gan Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn, pen. 1. Yno dywedir mai merch oedd hi i James Davies ac Angharad Humphreys, Gelli Ffrydau, Llandwrog, Sir Gaernarfon, ei bod hi'n 20 oed pan briodwyd hi â William Prichard, a oedd yn 60 mlwydd oed ar y pryd, iddi gael addysg dda a dyfod yn hyddysg yn yr iaith Ladin, ei bod yn
  • JAMES, CARWYN REES (1929 - 1983), athro, chwaraewr a hyfforddwr rygbi Ganwyd Carwyn James ar 2 Tachwedd 1929 yng Nghefneithin, Sir Gaerfyrddin, yr ieuengaf o bedwar o blant David Michael James (1891-1972) a'i wraig Annie (ganwyd Davies, 1893-1974). Roedd ganddo ddwy chwaer, Gwen (1914-1996) ac Eilonwy (1918-2005), ac un brawd, Dewi (1927-2015). Roedd brodyr ei fam yn seiri a'i dad yn was fferm. Roedd y tad wedi symud o dlodi Sir Aberteifi i faes glo Sir Gâr ar
  • JAMES, CHARLES (1820 - 1890?), cerddor Ganwyd yn Llanilar, Sir Aberteifi, 11 Gorffennaf 1820. Yr oedd ei dad yn arwain y canu yn yr eglwys, a chafodd y mab gyfle i ddatblygu ei ddawn fel cantor. Meddai lais da, a chynigiodd bonheddwr o Lundain gael lle iddo yng nghôr ei eglwys, ond gwrthododd ei rieni. Cafodd rai gwersi gan Richard Mills, Llanidloes, pan oedd hwnnw ar ei deithiau trwy'r wlad, a chyhoeddodd ddwy dôn o'i waith yn
  • JAMES, CHARLES HERBERT (1817 - 1890) Ferthyr, aelod seneddol mab ieuaf William James, bragwr, Merthyr Tydfil, a oedd yn frawd i Christopher James (gweler James, W. Milbourne); ganwyd ym Merthyr 16 Mehefin 1817. Addysgwyd ef yn ysgol Taliesin Williams ym Merthyr ac yn ysgol breswyl Goulstone ym Mryste. Pan ymadawodd â'r ysgol aeth i'w hyfforddi yn gyfreithiwr at William Perkins, a daeth wedyn yn bartner iddo; derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1838. Priododd
  • JAMES, DAVID (1787 - 1862), cerddor Ganwyd yn 1787, a dygwyd ef i fyny gan ei fodryb ym Mhenrallt, Pont Saison, ger Brynberian, Sir Benfro. Cafodd dri mis o ysgol yn blentyn, a thrwy hunan-ddiwylliant daeth yn rhifyddwr da, a thipyn o seryddwr. Dafydd Siencyn Morgan a roddodd iddo ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth. Galwyd ef yn 1804 i Hwlffordd i fynd dan ddisgyblaeth filwrol, a chafodd gyfarwyddyd a gwersi mewn cerddoriaeth gan
  • JAMES, DAVID (Dewi o Ddyfed; 1803 - 1871), clerigwr ac awdur derbyniodd fywoliaeth Marsden, sir Efrog. Oddi yno daeth i eglwys Panteg, sir Fynwy, 11 Tachwedd 1856, a bu yno hyd ei farw ar 2 Awst 1871. Yr oedd yn Gymro brwd ac yn wr adnabyddus ar lwyfan yr eisteddfod. Gwrthwynebai yn gyndyn apwyntio esgobion ac offeiriaid di- Gymraeg i esgobaethau ac eglwysi yng Nghymru. Tra yn Lloegr daeth yn aelod diwyd o'r gymdeithas a elwid ' Association of Welsh Clergy in the
  • JAMES, DAVID (Defynnog; 1865 - 1928), athro, addysgydd a threfnydd Ysgolion haf, ac awdur Ganwyd 17 Awst 1865 yn Libanus, plwyf Defynnog, Brycheiniog. Mab ydoedd i David James, gweinidog (B) a'i wraig Mary, chwaer ' Myfyr Emlyn ', y bardd-bregethwr. Bu ganddynt bedwar mab a phedair merch. Addysgwyd Defynnog yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin a Dinas, Sir Benfro lle'r oedd ei dad yn weinidog. Rhoes ei fryd ar fod yn athro ac, ar ôl bwrw cyfnod fel disgybl-athro, fe'i derbyniwyd fel