Search results

1405 - 1416 of 1877 for "Mai"

1405 - 1416 of 1877 for "Mai"

  • RELLY family, dau frawd o sectwyr Jeffreston mae'n debycach mai 'llonyddwch' ('Quietism') a'i nodweddai - bu ef a'i frawd am dymor byr (1750-3), gyda John Harris 'o S. Kennox ' (1704 - 1763), yn cynnal enwad bychan ar wahân. Ond wedyn, daeth James Relly 'n ' Universalist ' - credai fod pawb i gael ei achub - a symudodd i Lundain, gan bregethu yn y Coachmakers' Hall, wedyn yn Bartholomew Close, ac yn y diwedd (1769-78) yn Crosby Square. Daeth
  • RHIRID FLAIDD (fl. 1160) hanes uchod yn hanesyddol gywir. Cyfansoddodd Cynddelw Brydydd Mawr, bardd pennaf Powys yn adeg Madog ap Maredudd, dair cân i Ririd. Yn un y mae'n talu diolch i'w noddwr am gleddyf hardd a gawsai'n rhodd ganddo; yn y ddwy arall y mae'n cwyno oblegid marw cynamserol ei wron, a ddigwyddodd, y mae'n debyg, wedi i Madog farw yn 1160. Ceir cadarnhad yma mai Gwrgenau oedd ei dad a dywedir fod iddo frawd
  • RHISIART FYNGLWYD (fl. 1510-70), bardd i Ruffudd Dwnn o Ystrad Merthyr, a'i fab Harri. Yr oedd yn Ystrad Merthyr ar wyliau'r Sulgwyn 1531 a 1533, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1536 a 1537, ac ym mhlas Syr Siors Herbert yn Abertawe tua 1543. Dywaid G. J. Williams am ei waith: ' Efallai y mwyaf diddorol yw'r cywydd heddwch rhwng Syr Siors Herbert a Mr. Edward Mawnsel,' a hefyd mai Rhisiart Fynglwyd, a oroesodd Lewys Morgannwg, oedd yr ' olaf o
  • RHYDDERCH AB IEUAN LLWYD (c. 1325 - cyn 1399?), cyfreithiwr a noddwr llenyddol Rhydderch a Mawd oedd y prydydd Ieuan ap Rhydderch, ond mewn lle arall dywed Dwnn (t. 28) mai Annes merch Gwilym ap Ffylib o Forgannwg 'a briododd Rydderch ab Ieuan Lloyd, Esgwier, a mam Ieuan ap Rydderch y Prydydd oedd hono.' Efallai fod trydedd briodas, felly. Preswyliodd Ieuan ap Gruffudd Foel, Ieuan Llwyd, a Rhydderch mewn tŷ o'r enw Glyn Aeron yng nghyffiniau cymydau Mabwynion a Phennardd, tua deng
  • RHYDDERCH HAEL (neu HEN) mab Tudwal Tudelyd ap Clynnog ap Dyfnwal Hen (Harl. MS. 3859; Cymm., ix, 173). Yn ôl ' Achau'r Saeson,' ymladdodd Rhydderch Hen gydag Urien (Rheged), Gwallawg, a Morgan yn erbyn Hussa, brenin Northumbria, c. 590. Dywed Adamnan (624 - 704) ym ' Muchedd Columba ' mai brenin Alclud (Dumbarton, ger Glasgow) ydoedd a'i fod yn gyfaill i S. Columba (521 - 597). Dyna'r unig gyfeiriadau ato mewn dogfennau
  • RHYGYFARCH (1056/7 - 1099) yr hynaf o bedwar mab Sulien 'Ddoeth', a oedd yn frodor o Llanbadarn Fawr ac a fu ddwywaith yn esgob Tyddewi. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn perthyn i deulu o glerigwyr ac o dras uchel, ychydig, os dim, a wyddys am ei fywyd. Dywedir mai ei dad fu ei unig athro. Y mae'n fwy na thebyg ei fod yn offeiriad yn Nhyddewi (eithr nid yn esgob fel y dywed 'Annales Cambriac,' MS. C). Ymysg ei weithiau a
  • RHYS ap GRUFFYDD (Yr Arglwydd Rhys), (1132 - 1197), arglwydd Deheubarth ar ei flynyddoedd olaf gan elyniaeth a dygasedd ei feibion a chan ddifaterwch y llywodraeth newydd o dan Richard I tuag at y safle arbennig a ddaliasai Rhys hyd yn hyn. Gan gredu mai trwy ymosod y gallai ei amddiffyn ei hun orau, ailddechreuodd ymladd â'i gymdogion Normanaidd, a pharhaodd y brwydro hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 28 Ebrill 1197 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi. O'i wraig
  • RHYS ap GRUFFYDD (d. 1356) ail oruchafiaeth fawr Edward III, gan iddo farw cyn Poitiers, ar 10 Mai 1356, yng Nghaerfyrddin, lle y claddwyd ef - o bosibl yn eglwys S. Pedr lle y gorwedd ei daid. Yn y cyfamser yr oedd wedi ymbriodi â Joan de Somerville, etifeddes gyfoethog a ddaeth â thiroedd iddo mewn chwe sir yn Lloegr. Etifeddodd ei fab, Syr RHYS IFANC (ganwyd 1325), y rhain i gyd gyda'r stadau tra helaeth yng Nghaerfyrddin
  • RHYS ap THOMAS Syr (1449 - 1525), prif gynorthwywr Cymreig y brenin Harri VII , eithr wedi i Richard III esgyn i'r orsedd aeth i gyswllt â Harri Tudur a oedd y pryd hwnnw yn alltud yn Llydaw. Nid oes ddadl, y mae'n debyg, na fu iddo addo cynorthwyo Harri ac iddo, pan laniodd hwnnw yn Aberdaugleddau ddefnyddio ei ddylanwad lleol cryf o blaid Harri - y mae'n rhaid ystyried mai dychymyg ydyw'r stori i Rhys esmwythau ei gydwybod trwy adael i Harri groesi dros ei gorff tra cwrcydiai
  • RHYS CAIN (d. 1614), arwyddfardd ar farwolaeth Gruffudd Hiraethog, ei athro yntau. Dywedir ei fod yn beintiwr ac iddo beintio darlun o'r Dioddefaint gan gythruddo rhai o'i gyfoeswyr. Fel arwyddfardd, a wnâi gartau achau i'w gwsmeriaid, yr oedd ganddo grap ar beintio, er mai digon cwrs oedd ei waith. Collwyd ei lyfr clera mawr, yn yr hwn y cadwai gopïau o'i gywyddau achyddol, yn nhân Wynnstay, 1859, ond erys corff sylweddol o'i
  • RHYS FARDD (fl. c. 1460-80), brudiwr o Ystum Llwynarth (Peniarth MS 94 (175), Llanstephan MS. 119 (121). Perthyn llawer iawn o ddaroganau a briodolir iddo i gyfnod blaenoriaeth y Tuduriaid, serch yr ymddengys rhai fel pe'n perthyn i gyfnod cynharach. Nodweddir ei waith gan ddisgwyl y brudwyr am Owain i waredu'r genedl, a chan gasineb chwerw tuag at y Saeson : ' yna y mai melineu kyminot or frydieu o waet.' Y mae dylanwad ' Armes
  • RHYS GOCH ERYRI (fl. dechrau'r 15fed ganrif), bardd O Feddgelert. Efallai mai ef oedd 'un o'r rhai gorau ieuainc' a enwir yng nghywydd y cwest (gan Gruffudd Llwyd, 1385?). Nid yw'r testun yn hollol sicr, ond gellir pwyso ar farwnad Rhys ei hun i Ruffudd, lle geilw ef 'f'athro,' a dweud ei fod agos yn ogyfoed iddo. Tybiodd Llywelyn ap Moel y Pantri fod sen i Bowys yn y farwnad honno, ac ymosododd yn huawdl ar Rys. Etyb yntau 'Rhy hen wyf, a rhy fab