Search results

1273 - 1284 of 1877 for "Mai"

1273 - 1284 of 1877 for "Mai"

  • PARRY, WILLIAM (1719 - 1775?), swyddog gwladol, ac ysgrifennydd y Cymmrodorion gyda Richard yn swyddfa'r llynges yn 1747-53; bu yn yr 'Ordnance Office' 1753-5; ac aeth i'r Mint yn 1755 - yr oedd yn ' Comptroller's Deputy and Clerk ' yno. Ond yn 1757, heb golli ei swydd yn y Mint, dychwelodd i swyddfa'r llynges, yn ' Under Clerk for Foreign Accounts,' h.y. yn adran Richard Morris - y mae'n eglur oddi wrth lythyr gan Richard yn 1767 mai Parry oedd ei ddirprwy, oblegid dywed na
  • PARRY, Syr THOMAS (d. 1560), gŵr llys , yn ddiweddarach, yn ' Master of the Wards ' (26 Ebrill 1559) - ymddengys mai ef oedd y mwyaf ei ddylanwad o'i chynghorwyr personol i gyd hyd ei farw ar 15 Rhagfyr 1560, pryd y daeth Cecil i gymryd ei le. Claddwyd ef yn abaty Westminster. Y mae darlun ohono yn Windsor, wedi ei wneuthur gan Holbein. Daeth i berchen tiroedd yn Berkshire, bu'n arglwydd-raglaw y sir honno yn 1559, a bu'n eistedd drosti
  • PARRY-WILLIAMS, HENRY (1858 - 1925), ysgolfeistr a bardd Ganwyd 11 Mehefin 1858, yn fab i Thomas a Mary Parry, Gwyndy, Carmel, Sir Gaernarfon. Yr oedd yn hanner brawd i Robert Parry, tad y bardd R. Williams Parry. Ychwanegodd y cyfenw Williams at ei enw yn gynnar yn ei oes am mai dyna gyfenw ei daid ar ochr ei dad, Henry Williams. Cafodd ei addysg elfennol yn ysgol Bron-y-foel, ac arhosodd yno am bum mlynedd fel disgybl athro. Yna aeth yn ddisgybl i'r
  • PARRY-WILLIAMS, Syr THOMAS HERBERT (1887 - 1975), awdur ac ysgolhaig 'Y Ddinas' a gyfansoddodd yn fuan wedi ei ddychweliad i Aberystwyth ym 1914 pan benodwyd ef yn ddarlithydd yn y Gymraeg. Enillodd hon y Goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, er gwaethaf condemniad croyw Eifion Wyn o'i diffyg moes, ac erbyn heddiw ystyrir mai hi yw cerdd Fodernaidd gyntaf y Gymraeg. Enillodd y Gadair yn yr un Eisteddfod am ei awdl 'gromatig', 'Eryri' gan ddod yn fardd
  • PASK, ALUN EDWARD ISLWYN (1937 - 1995), chwaraewr rygbi ac athro a sicrhaodd fuddugoliaeth i Gymru dros Loegr (11-6). Disgwyliai llawer o bobl mai Pask a fyddai'n gapten ar Lewod Prydain 1966, ac roedd dicter mawr yng Nghymru pan gafodd blaenwr yr Alban Michael Campbell-Lamerton ei benodi'n gapten yn ei le. Er gwaetha'r helynt perfformiodd y tîm yn dda yn rhan Awstralia o'r daith gan guro'r tîm cenedlaethol yn y ddwy gêm brawf cyn i Seland Newydd yn rhoi yn eu
  • PAUL AURELIAN (fl. ddiwedd y 5ed ganrif), sant Gorffennwyd 'buchedd' y sant hwn yn 884 gan Wrmonoc, mynach o Landévennec yn Llydaw, a diogelir hi mewn dwy lawysgrif gynnar; cyhoeddwyd testun y naill yn y Rev. Celt, a'r llall yn Anal. Boll. Rhennir y 'fuchedd' yn ddau lyfr. Yn Llyfr i, lle ceir disgrifiad o fywyd Paul yn Neheubarth Cymru, dywedir mai mab oedd Paul, a gyfenwid Aurelian, i bendefig o'r enw Perphirius, a'i fod yn frodor o
  • PAYNE, FRANCIS GEORGE (1900 - 1992), ysgolhaig a llenor (1954), ychwanegwyd at ei ddealltwriaeth o'r dystiolaeth archaeolegol gan ei wybodaeth drylwyr o ddisgrifiadau'r cywyddwyr a'r Cyfreithiau a chan ei brofiad ymarferol o aredig. Er mai yn Gymraeg y cyhoeddodd ei brif waith ar yr aradr yr oedd yn adnabyddus ar y Cyfandir am ei gyfraniad arloesol i'r pwnc mewn cylchgronau ysgolheigaidd Saesneg.
  • PAYNE, HENRY THOMAS (1759 - 1832), clerigwr a hanesydd eglwysig Bedyddiwyd 30 Tachwedd 1759 yn Llangattock, sir Frycheiniog, mab Thomas Payne, rheithor Llangattock o 1757 hyd 1798 a chanon trigiannol yn eglwys gadeiriol Wells. Cafodd ei addysg yn Rhydychen (ymaelodi, o Worcester College, Chwefror 1777, B.A. o Balliol College 1780, M.A. 1784). Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 18 Mai 1783, yn Westminster, ac yn offeiriad, 19 Medi 1784, yn Abergwili, a daeth yn gurad
  • PECOCK, REGINALD (c. 1390 - 1461), esgob Llanelwy a Chichester Y mae'n bosibl ei fod o dras Cymreig. Dywed traddodiad mai un o Dalacharn, Sir Gaerfyrddin, ydoedd; er nad oes yr un dystiolaeth bendant o blaid hyn, gwyddys fod rhai yn dwyn yr enw Pecock yn y dref honno yn y Canol Oesoedd. Priododd rhyw Jenkyn le Whitt, Dinbych-y-pysgod, a fu farw yn 1461, ag Elen, aeres Jenkyn Pecoc, Talacharn a Dinbych-y-pysgod - ac efallai i Reginald Pecock ddeillio o'r
  • PEDROG (fl. 6ed ganrif), SANT Darganfuwyd y 'fuchedd' lawnaf o'r sant hwn yn ddiweddar yn Gotha, yn yr Almaen. Er mai yn Nyfnaint(Dumnonia) a Llydaw y gwnaeth Pedrog ei waith mwyaf, brodor oedd o Went. Yn ôl ' Buchedd Cadog Sant ' (rhagair) a'r achau sydd ar ddiwedd ei 'fuchedd' ei hun, un o feibion Glywys oedd Pedrog. Ond dywed ' Bonedd y Saint ' (Wade-Evans) mai mab Clement, tywysog o Gernyw, oedd ef. Yn ôl ystori ' Buchedd
  • PENNANT family Penrhyn, Llandegai brwdfrydedd gyda gwneud ffordd newydd o Fangor i Gapel Curig, heblaw cadw golwg fanwl ryfeddol ar weithrediadau ei swyddogion ar y stadau siwgr yn Jamaica. Yn 1783 gwnaed ef yn arglwydd, ond cofier mai 'Irish peer' ydoedd, â'r hawl ganddo i eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin ped etholid ef; bu'n aelod seneddol dros Lerpwl am gyfnod, a chamgymeriad mawr ei fywyd oedd ceisio (yn 1796) gipio cynrychiolaeth sir
  • PENRY, DAVID (1660? - 1721?) bwrw golwg dros Grug-y-bar a Chrug-y-maen (Ceredigion). Profwyd ei ewyllys yn 1722, ac yn ôl honno preswyliai mewn fferm ym mhlwyf Llandeilo Talybont, bron gyferbyn â'i hen gartref. Gadawodd ei lyfrau i'w olynydd yng nghapel Llanedi, gwerth £2 10s. yn ôl y cyfrif. Trwy ei lafur ef, mae'n ddiau, y codwyd y capel hwnnw, a dichon mai yno y claddwyd ef.