Search results

1345 - 1356 of 1867 for "Mai"

1345 - 1356 of 1867 for "Mai"

  • PRICE, THOMAS (1809 - 1892), cerddor Ganwyd yn Llanfair-ym-Muellt, sir Aberhonddu, 17 Mai 1809. Yn ddyn ieuanc symudodd i Grughywel i gadw siop, a bu yn glerc i undeb gwarcheidwaid y lle. Penodwyd ef yn organydd eglwys Llangatwg, a llanwodd y swydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn gerddor lled dda, a chyfansoddodd lawer o donau a darnau cerddorol. Ceir rhai o'i donau yn Yr Arweinydd Cerddorol ac yn Caniadau Seion (R. Mills
  • PRICE, THOMAS GWALLTER (Cuhelyn; 1829 - 1869), newyddiadurwr a bardd Dafydd ap Gwilym. Yn 1867 golygodd Y Ford Gron. Bu'n golygu The Workman's Advocate, a cheir ef, yn 1857, yn berchennog y Minersville Bulletin. Pa fu John Jones, Llangollen, dadleuydd, farw yn 1856 bu ' Cuhelyn ' yn ei amddiffyn yn erbyn enllibion y Wasg. Argraffwyd yn y Wasg Gymreig yn America lu o englynion a gyfansoddodd ' Cuhelyn.' Bu farw 12 Mai 1869 yn New York.
  • PRICE, THOMAS SEBASTIAN (fl. 1681-1701), hynafiaethydd ac anghydffurfiwr Pabyddol Y mae'n debygol mai aelod ydoedd o deulu Prysiaid Eglwysegl a Llanfyllin. Dywedir mai Pabyddion oedd y Prysiaid a breswyliai yn y tŷ du-a-gwyn a adeiladwyd yn 1599 yn Llanfyllin ac a elwid ' The Hall.' Enwir Thomas Price fel un o saith anghydffurfiwr Pabyddol Llanfyllin yn 'notitia' poblogaeth esgobaeth Llanelwy (1681?). Dywedir iddo gael ei enwi'n fynych fel anghydffurfiwr o flaen y Sesiwn Fawr
  • PRICE, WATKIN WILLIAM (1873 - 1967), ysgolfeistr, ymchwilydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yn dal i fod o ddefnydd i ymchwilwyr. Gwahoddodd R. T. Jenkins ef i gyfrannu 30 llith i'r Bywgraffiadur Cymreig, amryw ohonynt ar rai o gymeriadau pwysicaf y Gymru ddiwydiannol a fu. Bu hefyd yn arloeswr sosialaidd : yn ysgrifennydd y Blaid Lafur Annibynnol yn Aberdâr, 1900-08; yn gynrychiolydd etholiad Keir Hardie, A.S., yn 1906; a cheir traddodiad mai ef oedd un o'r mwyaf
  • PRICE, WILLIAM (1597 - 1646), clerigwr y teitl Oratio funebris habita Oxoniae 22 April 1624 in laudem Doctoris White. Yn 1630 ymunodd Price ag eraill i brotestio i'r brenin yn erbyn penodiad yr esgob Laud yn ganghellor Prifysgol Rhydychen. Sefydlwyd ef 10 Chwefror 1632 yn rheithor Dolgellau, Sir Feirionnydd. Awgryma Foster, Alumni Oxonienses, 1500-1714, 1208, fodd bynnag, mai clerigwr arall o'r un enw oedd hwn. Priododd Margaret, ferch
  • PRICE-WHITE, DAVID ARCHIBALD PRICE (1906 - 1978), gwleidydd Ceidwadol bleidleisiau'n unig oddi ar AS Rhyddfrydol Yr Athro D. R. Seaborne-Davies a'i daliodd ar ran y Rhyddfrydwyr yn yr isetholiad ym mis Mai. Yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 safodd Price-White fel cefnogwr i'r carn i Syr Winston Churchill yn ei ymgyrch i sicrhau buddugoliaeth yn y rhyfel yn erbyn Japan. Ar ôl hynny diflannodd yr etholaeth pan ail-ddosbarthwyd ffiniau'r etholaethau seneddol. Penodwyd ef yn
  • PRICHARD, CARADOG (1904 - 1980), nofelydd a bardd Ganwyd Caradog Prichard ar 3 Tachwedd 1904 ym Methesda, yr ieuengaf o dri mab i John Pritchard a Margaret Jane (ganwyd Williams), ei wraig. (Dywed Caradog mai ei 'chwiw' ef ei hun oedd sillafu ei enw yn 'Prichard'.) Chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn oedd ei dad; buasai allan ar streic ar ddechrau anghydfod hir a chwerw 1900-3, er iddo efallai dorri'r streic yn ddiweddarach. Dim ond pum mis oed oedd
  • PRICHARD, JOHN (1817 - 1886), pensaer Mab y Parch. Richard Prichard, rheithor Llan-gan yn Sir Forgannwg a ficer corawl eglwys gadeiriol Llandaf, a'i wraig Eleanor. Ganed ef 6 Mai 1817 a bedyddiwyd ef gan ei dad yn Llan-gan 10 Gorffennaf 1817. Astudiodd bensaernïaeth a phenodwyd ef yn bensaer i esgobaeth Llandaf. Bu'n gyfrifol am atgyweirio ac ailadeiladu nifer o eglwysi yn yr esgobaeth, yn enwedig eglwys Baglan, ac ef oedd y pensaer
  • PRICHARD, RHYS (Yr Hen Ficer; 1579? - 1644), clerigwr a bardd Ganwyd yn ôl pob tebyg, yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, a bwriodd Rice Rees yn y rhagymadrodd i'w argraffiad o Canwyll y Cymry, 1841, 'bod lle i feddwl bod ei dad yn berchen cryn feddiannau yn y gymmydogaeth, ac mai ei enw ydoedd Dafydd ap Richard ap Dafydd ap Rhys ap Dafydd,' ond ni ddylid derbyn hyn fel ffaith. Awgrymodd Anthony Wood i'r ficer gael ei addysg fore 'in those parts,' a thybiodd
  • PRICHARD, RICHARD (1811 - 1882), gweinidog Wesleaidd ), Llanrwst ac Abergele (1837-9), Llanfaircaereinion (1840-2), yr Wyddgrug (1843-4, 1858-60), Llanfyllin (1848-50), Biwmares (1851), Lerpwl (1852-4, 1863-5), Rhuthyn (1855-7), Coedpoeth (1861-2), y Rhyl (1869-71), a Chonwy (1872). Wedi ymneilltuo yn 1873, ymsefydlodd yn y Rhyl, lle y bu farw 12 Mai 1882. Bu'n ysgrifennydd cronfa fenthyciol talaith Wesleaidd Gogledd Cymru o'i chychwyniad (1855) hyd ei
  • PRICHARD, WILLIAM (1702 - 1773) Clwchdernog, amaethwr ac Anghydffurfiwr adnabyddus fu'r Monwyson tuag at denant newydd y lle enwog hwnnw. Pan lwyddwyd i gael gan berchennog y ffarm ei ymlid o'r gymdogaeth ac iddo gael cartref yn Bodlew ger Llanddaniel ni chafodd yno namyn ei erlid, a'r cwbl oherwydd ei grefydd. Gweithredodd William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, pan ddeallodd mai oblegid ei fod yn Anghydffurfiwr y bwrid ef allan o'r ffermydd, yn deilwng o'i fonedd eangfrydig trwy
  • PRICHARD, WILLIAM (d. 1713), Bedyddiwr Neilltuol Prichard. Yn 1672, ar 10 Awst, cafodd drwydded i bregethu yn dŷ ei hun, erbyn hynny yn Llandeilo Pertholau, ychydig i'r dwyrain o'r Fenni; ond sicr yw mai dilynwyr William Prichard oedd y rhan fwyaf o'r 27 Ymneilltuwr a gyfrifwyd yn Llanwenarth yn 1676 a'r 41 yn y Fenni ei hun. Bu farw 27 Tachwedd 1713 yn weinidog ar eglwys y Fenni ers 60 mlynedd. Cyn ei farw yr oedd wedi gweled Deddf Goddefiad yn dod i